Margarita Bartzi (Gwlad Groeg - LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol)

Margarita Bartzi

Daeth Margarita i Ffair Gyrfaoedd LLM Abertawe, lle y gwnaeth gysylltiadau defnyddiol â chynrychiolwyr o’r diwydiant morio. O ganlyniad i’r cysylltiadau hyn, cynigiwyd y cyfle iddi ymgymryd ag interniaeth gydag M Taher & Co Solicitors. Mae Taher & Co yn gwmni cyfreithiol rhyngwladol sydd wedi’i leoli yn Adeilad Lloyds, sy’n arbenigo ym mhob maes o’r sector morio, hedfan, yswiriant a masnach ryngwladol. Fel rhan o’i hinterniaeth, bydd Margarita yn ymdrin â nifer o achosion sy’n cynnwys sancsiynau Ewropeaidd ymhlith pethau eraill, pwnc y mae ganddi ddiddordeb arbennig ynddo gan ei bod yn ysgrifennu ei phrosiectau’r gyfraith ar agweddau siarteri llogi llongau ac yswiriant sy’n gysylltiedig â sancsiynau. Mae’r interniaeth yn brofiad gwerthfawr iawn i Margarita, a fydd yn gwella ei dealltwriaeth ymarferol o gyfraith forol.

Aida García de Diego (Sbaen - LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol)

Aida de Diego

Tra’n gweithio ar ei thraethawd hir, cynigiwyd interniaeth i Aida yn Meana Green Maura & Co (MGM), sef y cwmni cyfraith forol hynaf, mwyaf uchel ei barch yn Sbaen. Yn ystod ei hinterniaeth pum mis o hyd, cymerodd Aida ran mewn achosion morio proffil uchel a gyflwynwyd ger bron y llysoedd yn Sbaen. Gan fod ei chwrs LLM ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyflwyno cyfoeth o gyfleoedd proffesiynol iddi yn y sector diddorol hwn, mae’n annog darpar fyfyrwyr yn gryf i astudio yn y sefydliad hwn sy’n sicrhau bod cyfreithwyr morio yn meddu ar yr adnoddau angenrheidiol i lwyddo ym maes cyffrous cyfraith Forol.

Marine de Geofroy (Swistir - LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol)

Marine De Geofroy

Ychydig cyn iddi gwblhau ei hastudiaethau LLM, cynigiwyd interniaeth i Marine yn Metinvest International SA, cwmni masnachu a dosbarthu sy’n rhan o grŵp dur a chloddio a chanddo gyfleusterau yn yr Wcrain, Ewrop a’r UD, ac sy’n allforio ei gynhyrchion dur i dros 1,000 o gwsmeriaid mewn mwy na 75 o wledydd drwy ei rwydwaith gwerthiannau rhyngwladol eang. Yn ôl Forbes, Metinvest yw’r cwmni mwyaf yn yr Wcrain a’r 4ydd cwmni mwyaf yng Nghanol a Dwyrain Ewrop. Yn ystod ei hinterniaeth, manteisiodd Marine ar y wybodaeth yr oedd wedi’i meithrin yn ystod ei gradd LLM. Yn arbennig, rhoddwyd y cyfle iddi gymhwyso’r egwyddorion yr oedd wedi’u dysgu wrth astudio Cyfraith Fasnach Ryngwladol sawl gwaith, e.e. gofynnwyd iddi ddrafftio ac adolygu contractau gwerthu ar gyfer trafodion mwynau dur a haearn, yn ogystal â chontractau prynu glo – oll wedi’u llywodraethu gan gyfraith Lloegr – a chyfrannodd at y gwaith o ddatblygu a gwella cymalau a oedd wedi’u cynnwys mewn contractau gwerthu, megis cymalau Force Majeure, Sancsiynau a Cholledion Anuniongyrchol, Eithriad Iawndal Canlyniadol ac ati. At hynny, rhoddodd y wybodaeth yr oedd wedi’i meithrin yn ystod ei chyrsiau Cludo Nwyddau dros y Môr, Tir ac yn yr Awyr a Siarteri Llogi Llongau ar waith, gan iddi gael y cyfle i ymdrin â nifer o faterion cyfreithiol yn deillio o gontractau trafnidiaeth amlfodd (h.y. cludo ar reilffyrdd a’r môr) ar gyfer cynhyrchion a gaiff eu gwerthu gan Metinvest.

Neele Eiken (Yr Almaen - LLM mewn Cyfraith Morwrol Ryngwladol)

A head shot of LLM student Neele Eiken

Ar ôl cwblhau ei gradd LLM yn Abertawe gyda rhagoriaeth, ymunodd Neele ag adran yswiriant Hamburg Süd yn Hamburg. Bellach mae wedi ymuno ag ADM - un o'r cwmnïau masnachu mewn nwyddau mwyaf yn y byd. Mae'n gyfrifol am gydlynu rhaglen yswiriant morol, cargo a warysau ar lefel fyd-eang. Mae gan Neele atgofion da o'i phrofiad yn Abertawe ac mae'n hyderus bod ei gradd LLM yn Abertawe wedi bod yn hanfodol i agor sawl drws iddi yn y sectorau llongau ac yswiriant ar ôl graddio.

Chloe Guilfoyle (Ffrainc - LLM mewn Cyfraith Morwrol Ryngwladol)

Chloe Guilfoyle

Ar ôl cwblhau'r LLM mewn Cyfraith Morwrol Ryngwladol ym Mhrifysgol Abertawe, dewiswyd Chloe ar gyfer Rhaglen i Raddedigion Marsh ym Mharis, cynllun hyfforddi doniau am ddwy flynedd. Mae'n cynghori cleientiaid mewn masnach ryngwladol ar reoli risg a rhoi polisïau yswiriant morol a chargo blaengar ar waith.

Martin Karst (Denmarc - LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol)

Martin Karst

Yn ogystal â darparu gwybodaeth fanwl am gyfraith forol, bydd astudio LLM ym Mhrifysgol Abertawe hefyd yn gwella eich rhagolygon cyflogadwyedd. Drwy gydol y flwyddyn, trefnodd yr Adran Cyfraith Morio a Masnach sawl ymweliad â mentrau a sefydliadau masnachol a morol blaenllaw yn Llundain, gwahoddodd ddarlithwyr gwadd, cynhaliodd ffeiriau gyrfaoedd a chynigiodd gysylltiadau uniongyrchol i fyfyrwyr LLM ag uwch weithwyr proffesiynol mewn amrywiol gwmnïau. Diolch i’r cysylltiadau agos rhwng yr Adran a phractisau, cafodd myfyrwyr fel fi gyfle i wneud cais am interniaeth ymchwil yn Watson Farley & Williams, cwmni cyfreithiol rhyngwladol uchel ei barch yn Llundain.  Roedd y cyfle hwn yn gyfle heb ei ail, ac roeddwn yn ffodus i gael cynnig interniaeth llawn amser dros yr haf. Gan weithio ochr yn ochr â phartner mewn cwmni cyfreithiol mawr ar brosiect cyfreithiol sy’n gysylltiedig â’r sector morol, llwyddais nid yn unig i feithrin gwybodaeth ymarferol am faes newydd ond hefyd brofiad helaeth o ran methodoleg cyffredinol, sgiliau ymchwil a sgiliau ysgrifennu cyfreithiol. Yn ogystal, rwyf wedi gwneud cysylltiadau personol a phroffesiynol a fyddai wedi bod yn amhosibl i fyfyriwr LLM eu gwneud fel arall. Profiad ardderchog!

Martha Kazantzidou (Gwlad Groeg - LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol)

Martha Kazantzidou

Cynigiwyd interniaeth i Martha â Zaiwalla and Co Solicitors, cwmni cyfreithiol yn Llundain sy’n arbenigo, ymhlith pethau eraill, mewn cyfraith morio. Yn ystod ei hinterniaeth, gofynnwyd iddi ymgymryd ag amrywiaeth eang o dasgau yn ymwneud â gwahanol agweddau ar gyfraith forol. Yn arbennig, drafftiodd a chyflwynodd achosion llys yn ymwneud â chyfraith morio, lluniodd y ddogfennaeth angenrheidiol i’w chyflwyno i’r llysoedd a mynychodd dreialon. Ymdriniodd hefyd â materion cyffredinol sy’n gysylltiedig â chyfraith forol, megis gwerthu a phrynu llongau a morgeiseion ac arwerthiannau llongau. Roedd interniaeth Martha yn brofiad gwerthfawr iawn iddi a rhoddodd y cyfle iddi roi’r wybodaeth yr oedd wedi’i meithrin yn ystod ei gradd LLM ar waith.

Theodora Kostara (Gwlad Groeg - LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol)

Theodora Kostara

Cynigiwyd lleoliad haf i Theodora yn Norton Rose Fulbright Greece, yn Athens, sef cwmni cyfreithiol byd-eang, y mae ei gleientiaid yn cynnwys corfforaethau Groegaidd ac amlwladol, yn enwedig yn y sectorau llongau, yswiriant ac ynni adnewyddadwy. Yn ystod y lleoliad haf, ymdriniodd â materion cyffredinol sy’n gysylltiedig â chyfraith forol a gofynnwyd iddi ymgymryd â thasgau yn adrannau ymgyfreitha ym maes morio a chyllid morio’r cwmni (h.y. drafftio a phrawfddarllen dogfennau cyfreithiol a pharatoi’r ddogfennaeth angenrheidiol i’w chyflwyno i dribiwnlys cyflafareddu). Yn ddiau, roedd yn brofiad ardderchog, a chafodd gyfle i feithrin ei dealltwriaeth o gyfraith morio o safbwynt ymarferol ac, ar yr un pryd, i gael cipolwg o’r ffordd y mae cwmni cyfreithiol blaenllaw yn gweithredu.

Magdalena Oriol Lapetra (Sbaen, LLM mewn cyfraith forol ryngwladol)

Magdalena Lapetra
Mae Magdalena yn uwch-gyfreithiwr yn un o gwmnïau’r gyfraith orau yn Sbaen, Uría Menéndez, yn yr Adran Drafnidiaeth a Morgludiant ers 2016. Cwblhaodd ei chwrs gradd LLM ym Mhrifysgol Abertawe yn 2015, a chyrhaeddodd rownd derfynol Cystadleuaeth Ffug Lys y Brifysgol a gynhaliwyd yn ystod blwyddyn academaidd 2014-2015. Cyn astudio ar y cwrs gradd LLM, bu Magdalena yn gyfreithiwr cyfreithiad iau yn y cwmni’r gyfraith Sbaenaidd, Vázquez Padura Abogados ym Madrid. Mae ganddi radd mewn Newyddiaduraeth a gradd yn y gyfraith o Brifysgol Madrid Carlos III.

Vincenzo Olivito (Yr Eidal - Italy, LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol)

Vincenzo Olivito

Yn ystod yr haf, ymgymerodd Vincenzo ag interniaeth ag un o’r cwmnïau cyfraith forol ryngwladol mwyaf blaenllaw yn yr Eidal, sef Studio Legale Zunarelli e Associati (swyddfeydd Bologna) lle y rhoddwyd cyfle iddo weithio â chyfreithwyr profiadol yn y maes. Rhoddodd yr interniaeth hon brofiad gwerthfawr iddo wrth ymdrin ag achosion sy’n ymwneud â chyfraith yswiriant a masnach ryngwladol, dau o’r pynciau a astudiodd fel rhan o’i LLM yn Abertawe.  Gwnaeth perfformiad ac ehangder gwybodaeth Vincenzo am gyfraith forol/fasnach cymaint o argraff fel y cynigiwyd cyfle iddo gydweithredu’n barhaus yn un o’i swyddfeydd dramor. Gofynnwyd iddo hefyd gyfrannu pennod ar gyfraith forol mewn llyfr a olygwyd gan Massimiliano Musi.

Ole Ollmann (Yr Almaen – LLM mewn Cyfraith Olew a Nwy)

Ole Ollmann

Tra’n gweithio ar ei draethodau hir, cynigiwyd interniaeth i Ole yn Hapag-Lloyd AG, un o’r cwmnïau morio hynaf ac uchel ei barch yn yr Almaen a chwmni cynwysyddion blaenllaw sy’n gweithredu’n rhyngwladol. Yn ystod ei interniaeth tri mis, cymerodd Ole ran yn ymarfer beunyddiol caffael howldiau a masnach howldiau’r adran howldiau.  Cynigiwyd cipolwg gwerthfawr o’r marchnadoedd olew ac ymarfer masnachu a rhagfantoli i Ole, yn ogystal â strategaethau caffael cwmni cynwysyddion mawr. Caffaelodd danwyddau howld i longau, lluniodd y ddogfennaeth angenrheidiol ac ymdriniodd hefyd â hawliadau howldiau. Yn ogystal, ymdriniodd â materion cyffredinol a oedd yn gysylltiedig â’r gyfraith berthnasol, megis telerau ac amodau gwerthu cyffredinol a thelerau siarteri llogi llongau mewn perthynas â thanwydd howld. Roedd interniaeth Ole yn brofiad ardderchog iddo a roddodd gyfle iddo roi’r wybodaeth yr oedd wedi’i meithrin yn ystod y rhaglen LLM ar waith. Ar ôl cwblhau ei interniaeth, symudodd Ole i swydd barhaol yn adran llogi llongau / gweithrediadau perchennog a gweithredwr tanceri arbenigol.

Carlos Cid Parras (Sbaen - LLM mewn Cyfraith Forol Ryngwladol)

Carlos Parras

Ymgymerodd Carlos ag interniaeth â Goñi & Co. Abogados (Madrid), cwmni cyfreithiol ag enw da a chanddo dros 50 mlynedd o brofiad fel cwmni a gaiff ei gydnabod a’i barchu’n rhyngwladol sy’n arbenigo ym maes Cyfraith Forol. Yn ystod ei interniaeth, rhoddodd gymorth i Mr, Fernando Goñi, Mrs María del Amor Miranda a Mrs Carmen Codes mewn achosion a oedd yn ymwneud â gwahanol agweddau ar gyfraith morio, megis hawliadau llwythi, siarteri llogi llongau, trefniadau achub a threfniadau cyflafareddu morol. Er enghraifft, gofynnwyd iddo asesu dogfennau ac adroddiadau tystiolaeth arbenigol yn ymwneud â hawliadau ar gyfer llwythi morol ac i ddrafftio llythyrau hawliadau llwythi neu ddehongli gwahanol delerau siarteri llogi llongau ac ymhelaethu ar ddilysrwydd hawliadau yn ymwneud â siarteri llogi llongau. Mwynhaodd Carlos ei interniaeth yn Goñi & Co. Abogados yn fawr, oherwydd cafodd y cyfle i wneud defnydd da o’r holl wybodaeth ymarferol yr oedd wedi’i meithrin yn ystod ei gwrs LLM morol ym Mhrifysgol Abertawe. Wedyn, ymgymerodd ag interniaeth arall gyda Waltons & Morse LLP yn Llundain, lle yr ymdriniodd ag amrywiaeth o achosion morol.

Buğra Perdar (Twrci, LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morwrol Ryngwladol)

A headshot of LLM student Bugra Perder

Mae Buğra yn un o bartneriaid sefydlol Nereus Law Office. Mae’n arbenigo ym meysydd cyfraith llongau, hawliadau morwrol, anghydfodau partïon siarter, cyllid llongau, bancio, cludiant, cyfraith fasnachol a chorfforaethol, masnach ryngwladol a chyflafareddu ac mae ganddo brofiad helaeth ohonynt. Mae’n cynghori cleientiaid lleol a rhyngwladol yn y meysydd hyn.

Richard Rio (Ffrainc, LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morol Ryngwladol)

A headshot of LLM student Richard Rio

Ar ôl gorffen ei LLM, gweithiodd Richard fel hyfforddai yn Cargolux International Airlines. Bellach, mae’n gyfreithiwr awyrofod mewn cwmni cyfreithiol rhyngwladol, HFW, ag enw da am ei arbenigedd yn y maes hwn. Mae Richard yn ymdrin â materion sy’n ymwneud â chyllid awyrennau, cyfraith cludiant, hawliadau gan deithwyr, hawliau traffig, slotiau, diogelwch, cyfraith cystadleuaeth a chymorth gwladol.