Child seeing Doctor

Cynhyrchu Tystiolaeth I Wneud Gwahaniaeth

Rydym yn gweithio gyda gwneuthurwyr polisïau ac ymarferwyr ledled y DU ac yn fyd-eang i gynhyrchu tystiolaeth i lywio'r gwaith o ddarparu gofal a gwella iechyd a llesiant ym mhob rhan o'r boblogaeth.

Mae ein hymchwilwyr yn ymddiddori yn y ffordd y caiff gofal iechyd ei drefnu a'i darparu; sut y gallwn ddefnyddio data a thechnoleg orau er mwyn gwella iechyd; a mesur a hybu iechyd a llesiant y boblogaeth, gan ganolbwyntio yn benodol ar iechyd pobl â chyflyrau cronig sy'n gysylltiedig ag iechyd corfforol ac iechyd meddwl.

Rydym yn gwneud hyn drwy ymchwil ryngddisgyblaethol a thrwy gysylltu data dienw ar iechyd ac addysg, yn ogystal â data cymdeithasol o fywyd go iawn i ateb cwestiynau am iechyd y boblogaeth a'r hyn sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, fel rhan o Ymchwil Data Iechyd y DU ac Ymchwil Data Gweinyddol y DU. Rydym yn defnyddio hyn i gefnogi ymchwil o'r radd flaenaf ac i gydweithio ag eraill er mwyn ymateb i bandemig COVID-19.

Uchafbwyntiau Gwaith Ymchwil

Rydym yn defnyddio methodolegau arloesol, yn ogystal â ffynonellau data dienw cysylltiedig, treialon hapsamplu, cynlluniau astudiaeth arbrofol a dulliau cymysg gan gynnwys elfennau ansoddol. Ariennir yr ymchwil a gynhelir drwy grantiau seilwaith, sy'n golygu bod modd i ni ddatblygu rhaglenni ymchwil a fydd yn cael effaith ar bolisïau ac ymarfer, gan gefnogi'r gwaith o ddatblygu cydweithrediadau ac astudiaethau newydd sydd, gyda'i gilydd, yn cynnig amgylchedd bywiog i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.

Young people

Iechyd Meddwl Plant A Phobl Ifanc

Mae hanner problemau iechyd meddwl wedi'u sefydlu erbyn 14 oed, ac mae tri chwarter ohonynt wedi'u sefydlu erbyn 24 oed. O ystyried y cynnydd mewn gorbryder, iselder, hunan-niweidio a hunanladdiad a welwyd dros y degawd diwethaf, nod ein rhaglen ymchwil amlddisgyblaethol yw trawsnewid dealltwriaeth o bobl ifanc ag iechyd meddwl gwael, yn ogystal â thrawsnewid y gofal a gânt a'u canlyniadau. Gyda chyllid o fwy na £3m a gafwyd dros y pum mlynedd diwethaf, rydym yn arwain Llwyfan Data Iechyd Meddwl y Glasoed a thema Gwyddor Data yng Nghanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc. Rydym yn datblygu ein gwaith mewn partneriaeth â phobl ifanc, ac yn troi ein hymchwil yn bolisïau ac ymarfer yn gyflym, gan gynnwys llunio adnoddau ar gyfer ysgoliongweithwyr ieuenctid a chanllawiau ymarfer.

Pan Nad 999 Yw'r Ateb

Mae gan bob gwasanaeth ambiwlans brys grŵp bach o bobl sy'n gwneud llawer o alwadau 999 – sawl gwaith y mis, neu weithiau sawl gwaith y dydd. Mae'n bosibl nad ambiwlans brys fydd y gwasanaeth gorau i helpu'r bobl hyn, a fyddai'n cael budd o gymorth mwy hirdymor a dwys yn lle hynny, er mwyn eu helpu i ddiwallu eu hanghenion iechyd neu ofal cymdeithasol. Rydym wrthi'n gweithio ar ddwy astudiaeth ar hyn o bryd: Nod INFORM yw ceisio deall pwy sy'n ffonio a pham eu bod yn gwneud hynny, drwy edrych ar ddata arferol yng Nghymru a siarad â'r bobl sy'n ffonio; a nod STRETCHED yw gwerthuso ymyriadau rheoli achosion gyda phobl sy'n ffonio'n aml mewn pedwar gwasanaeth ambiwlans gwahanol yng Nghymru a Lloegr. Dylai'r ddwy astudiaeth hyn helpu gwasanaethau ambiwlans a'u darparwyr gofal partner i ddeall mwy am yr agwedd benodol hon o'r galw ar eu gwasanaethau a sut y gellir diwallu anghenion cleifion yn well mewn ffordd sy'n lleihau'r galw.

Gwella Gwasanaethau I Bobl Ag Anhwylderau Gastroberfeddol A Hepatig

Mae adolygiadau systematig o'r baich a achosir gan glefydau'r coludd a'r afu/iau yn y DU ac Ewrop, a dadansoddiadau o ddata a gesglir yn rheolaidd wedi llywio'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau i bobl ag anhwylderau gastroberfeddol a hepatig.  Er enghraifft, mae'r cyfraddau marwolaeth uchel parhaus ymysg pobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty â chlefyd yr afu/iau difrifol a nodwyd wedi llywio cynigion a wnaed gan Gomisiwn Lancet ar Glefyd yr Afu/Iau i wella gwasanaethau hepatoleg ledled y DU. Mae'r rhaglen, a gaiff ei harwain gan yr Athro Jon Williams a Dr Stephen Roberts, wedi cael cyllid gwerth £515,000 ac wedi cynhyrchu nifer o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion megis The Lancet, Alimentary Pharmacology and Therapeutics, Journal of Crohns & Colitis, BMJ Health Care Informatics a BMC Gastroenterology yn y ddwy flynedd diwethaf.

Gwella Canlyniadau I Gleifion  Chanser Yr Arennau A Chanser Y Prostad

Sut ydyn ni'n asesu diogelwch nanoddefnyddiau? Mae difrod DNA yn benodol yn bryder gan y gall arwain at ddatblygiad canser ac felly, mae'n hanfodol asesu gallu niweidiol DNA i sylwedd yr ydym yn agored iddo. Mae'r Athro Shareen Doak a'i thîm wedi bod yn datblygu dulliau profi diogelwch wedi'u teilwra ar gyfer nanoddefnyddiau a modelau meinwe newydd, datblygedig nad ydynt yn anifeiliaid. Defnyddiwyd ein hymchwil mewn nifer o ddogfennau polisi asesu risg rheoleiddio rhyngwladol ar draws y byd i addasu'r fethodoleg profi difrod DNA fel ei bod yn briodol ar gyfer gwerthuso nanoddefnyddiau.

Gwella Bywydau Ffermwyr Y Du

Mae Ymchwil Data Gweinyddol y DU y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol wedi buddsoddi £600,000 er mwyn deall aelwydydd ffermio'n well. Caiff data o'r sector cyhoeddus ledled y DU ar weithgareddau amaethyddol a defnydd tir eu cysylltu â data demograffig, addysgol ac iechyd i greu'r llwyfan data dienw DU-gyfan gyntaf sy'n canolbwyntio ar amaethyddiaeth. Ein nod yw darparu tystiolaeth a fydd yn helpu'r llywodraeth i gefnogi ffermwyr, eu haelwydydd a'u cymunedau, a datblygu'r gwaith ar y cyd â'r gymuned ffermio o ran y cwestiynau ymchwil a'r gwaith o ddehongli a chyfleu'r canfyddiadau. Bydd y gwaith hwn yn llywio penderfyniadau a wneir ar bolisi yn y dyfodol, gan arwain at ymatebion gwell i heriau megis ymateb i bwysau amgylcheddol, cynhyrchu canlyniadau iechyd gwell, a gwella incwm aelwydydd ffermio.

Gwella Gofal Brys I Bobl Wedi Torri Clun

Mae'r Athro Helen Snooks wedi gweithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ddatblygu proses i barafeddygon roi ataliad (anaesthetig) i'r fascia iliaca er mwyn lleddfu poen ar safleoedd galwadau 999 i bobl yr amheuir eu bod wedi torri clun, a phrofi pa mor ddiogel ac ymarferol ydyw. Mae treial dichonoldeb RAPID, a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (£230,000) ac a gynhaliwyd yn ardal Abertawe, wedi arwain at ddatblygu ac ariannu treial hapsamplu aml-ganolfan mawr penodol gyda phum safle gwasanaeth ambiwlans ac Adran Brys leded Cymru a Lloegr. Dyfarnwyd £1.8 miliwn i dîm a arweinir gan yr Athro Snooks ac a gefnogir gan Uned Dreialon Abertawe, gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd drwy ei raglen Asesu Technoleg Iechyd i gynnal treial RAPID 2 dros y pedair blynedd nesaf. Mae'r rhaglen waith hon hefyd wedi cynnwys hyfforddiant ac astudiaethau doethurol, gan arwain at ddyfarnu PhD i Dr Jenna Jones yn 2021.

Ein His-Themâu Ymchwil

Dros y chwe blynedd diwethaf, dyfarnwyd gwerth mwy na £135m i'n canolfannau ymchwil sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol ym maes Iechyd a Gwybodeg Cleifion a'r Boblogaeth mewn grantiau ar gyfer prosiectau ymchwil newydd; grantiau seilwaith ymchwil; grantiau cynnwys cleifion a'r cyhoedd; cymrodoriaethau ôl-ddoethurol; a grantiau ymchwil ôl-ddoethurol a hyfforddiant ôl-raddedig, gan arianwyr uchel eu parch.

Ein Harbenigwyr Ym Maes Iechyd A Gwybodeg Cleifion A'r Boblogaeth

Yr Athro Sinead Brophy

Athro (Canolfan Gwella Iechyd y Boblogaeth trwy Ymchwilio Cofnodion Electronig), Health Data Science
+44 (0) 1792 602058
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Gwyneth Davies

Athro, Health Data Science
+44 (0) 1792 513067
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Michael Dennis

Athro Emeritws (Meddygaeth), Medicine
+44 (0) 1792 602166
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Greg Fegan

Athro Er Anrhydedd, Medicine Health and Life Science
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro David Ford

Athro Gwybodeg, Health Data Science
+44 (0) 1792 513404

Yr Athro Hayley Hutchings

Athro, Health Data Science
+44 (0) 1792 513412
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Ann John

Athro Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg, Health Data Science
+44 (0) 1792 602568
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Kerina Jones

Athro, Health Data Science
+44 (0) 1792 602764
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig
Professor Ronan Lyons

Yr Athro Ronan Lyons

Athro Clinigol Iechyd y Cyhoedd, Health Data Science
+44 (0) 1792 513484
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dr Stephen Roberts

Darllenydd, Health Data Science
+44 (0) 1792 513433
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro Alan Watkins

Athro, Health Data Science
+44 (0) 1792 513410
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Yr Athro John Williams

Athro Emeritws (Meddygaeth), Medical School
+44 (0) 1792 513401
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig