Trosolwg
Yr Athro Gwyneth Davies yw Dirprwy Bennaeth Clinigol (ar y cyd) Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac mae hi'n arwain Rhaglen Hyfforddiant Ôl-raddedig y DU ar gyfer Ymchwilwyr Asthma (Canolfan Asthma UK ar gyfer Ymchwil Gymhwysol).
Mae diddordebau ymchwil Gwyneth yn cynnwys gwaith trosi ym maes gwyddorau asthma i ymchwil iechyd poblogaethau. Mae ei gwaith presennol yn canolbwyntio ar wybodeg llwybrau anadlu, a chyhoeddiadau effaith uchel sy’n ymwneud â baich a chostau asthma a defnyddio cofnodion iechyd electronig. Gwyneth yw Cyfarwyddwr Sefydlu Arsyllfa Asthma Cymru yn y Banc Data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL) ac mae'n cydweithredu ar draws y DU ac yn rhyngwladol i holi setiau data a gesglir yn rheolaidd er mwyn archwilio clefyd resbiradol. Y nod yw manteisio ar botensial data mawr i dargedu a gwerthuso ymyriadau er mwyn gwella iechyd resbiradol a lleihau anghydraddoldebau o ran gofal.
Mae cydweithrediadau ar Covid-19 yn cynnwys astudiaeth hydredol genedlaethol a threialon clinigol cenedlaethol COVIDENCE.
Mae'r Athro Davies yn Ymgynghorydd Resbiradol er Anrhydedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, lle mae hi'n arwain y gwasanaeth Asthma, yn dilyn hyfforddiant yng Nghymru, Llundain a Seland Newydd.
Dyfarnwyd Gwobr Efydd am Ragoriaeth Glinigol iddi yng Ngwobrau'r Pwyllgor Ymgynghorol ar Ragoriaeth Glinigol (ACCEA), 2019-2024. Dyfarnwyd Cyd-gymrodoriaeth Scadding Morriston Davies mewn Meddygaeth Resbiradol yn y DU iddi ac ymgymerodd â hyn yn Sefydliad y Galon ac Ysgyfaint Cenedlaethol yn Ysbyty Brenhinol Brompton, Llundain.
Mae teulu ifanc gan Gwyneth ac mae gweithio hyblyg wedi ei chefnogi i ddatblygu ei gyrfa gan gydbwyso hyn â bywyd teuluol.