ILS2
Hayley Hutchings Profile Picture

Yr Athro Hayley Hutchings

Athro, Health Data Science

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513412
208
Ail lawr
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 2
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae'r Athro Hutchings yn Athro Ymchwil y Gwasanaethau Iechyd yn Sefydliad Gwyddor Bywyd 2. Mae Hayley hefyd yn Gyfarwyddwr Uned Dreialon Abertawe, sy'n un o oddeutu 50 o unedau treialon sydd wedi cofrestru gyda Chydweithrediad Ymchwil Glinigol y DU. (https://ukcrc-ctu.org.uk).  Enillodd Hayley ei gradd gyntaf ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ym 1990 yng Ngwyddor Biofeddygol (anrhydedd dosbarth cyntaf). Yna cwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Caerdydd lle bu’n gweithio yn y Ganolfan Ymchwil i’r Annwyd Cyffredin a’r Trwyn ar ysgoloriaeth ymchwil gan Procter and Gamble Pharmaceuticals.  Ar ôl iddi ymgymryd â rolau ymchwil amrywiol, penodwyd Hayley yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe yn 2005 a chafodd ei dyrchafu i Gadair Bersonol ym mis Mawrth 2016.

Mae Hayley yn canolbwyntio'n bennaf ar ymchwil.  Mae ganddi 30 mlynedd o brofiad  ymchwil ôl-ddoethurol yn ymchwil a threialon gwasanaethau iechyd. Mae diddordebau ymchwil Hayley yn cynnwys adnoddau sy'n mesur canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMs), treialon a defnyddio data cysylltiedig dienw a gesglir yn rheolaidd.  Ar hyn o bryd, mae Hayley yn arwain neu'n darparu mewnbwn i ystod o brosiectau ymchwil yn y meysydd hyn.  Mae hi wedi cyhoeddi dros 150 o gyhoeddiadau ymchwil hyd heddiw.  Mae Hayley yn aelod o bwyllgor Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil mewnol y Gyfadran, sy'n asesu ansawdd cyhoeddiadau ymchwil. Mae hi hefyd yn ymgymryd â gweithgareddau adolygu gan gymheiriaid ar gyfer nifer mawr o gyrff cenedlaethol a rhyngwladol sy'n ariannu grantiau a chyfnodolion meddygol effaith uchel.

Mae gan Hayley hanes llwyddiannus o oruchwylio ac archwilio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ac yn y gorffennol mae hi wedi dal swyddi ar lefel strategol ysgol a phrifysgol i oruchwylio ymchwil ôl-raddedig.  Mae Hayley yn uwch-ymgynghorydd ar bwyllgor ymchwil ôl-raddedig y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd sy'n helpu i oruchwylio ymchwil a strategaethau myfyrwyr meddygol ôl-raddedig.

Yn ogystal â’i swyddi ymchwil, mae Hayley yn goruchwylio myfyrwyr Gwyddorau Meddygol Cymhwysol a Geneteg a Biocemeg fel rhan o'u prosiectau ymchwil israddedig blwyddyn olaf.

Meysydd Arbenigedd

  • Adnoddau sy'n mesur canlyniadau a adroddir gan gleifion
  • PROMs
  • Treialon
  • Cyflyrau cronig
  • Data cysylltiedig dienw a gesglir yn rheolaidd