Dr Stephen Roberts

Dr Stephen Roberts

Darllenydd, Health Data Science

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513433
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Stephen yn ddarllenydd mewn iechyd cyhoeddus ac epidemioleg. Yn flaenorol, bu'n Ddarlithydd Ymchwil Prifysgol yn yr Adran Iechyd Cyhoeddus, Prifysgol Rhydychen a chyn hynny bu’n gweithio yng Ngholeg Meddygaeth Prifysgol Cymru, Coleg Meddygol Ysbyty Llundain, Coleg Nuffield Rhydychen, Prifysgol Caerdydd a'r Adran Meddygaeth Glinigol, Prifysgol Rhydychen.

Mae ei waith wedi’i gyhoeddi yn The Lancet, The British Medical Journal ac mewn cyfnodolion gastroenteroleg blaenllaw. Mae wedi ymgymryd â phrosiectau ar ran Ymddiriedolaeth Wellcome, United European Gastroenterology, Cymdeithas Ewrop ar gyfer Gastroenteroleg Hepatoleg a Maeth, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd, y Sefydliad Iechyd, Coleg Brenhinol y Meddygon, Cymdeithas Gastroenteroleg Prydain a'r Adran Drafnidiaeth.

Mae wedi addysgu ar gwrs MBBCh meddygaeth Abertawe ers y 15 mlynedd diwethaf ac mae wedi goruchwylio traethodau hir MSc mewn Llawdriniaeth Trawma ers y 10 mlynedd diwethaf.

Meysydd Arbenigedd

  • Clefydau gastroberfeddol
  • Iechyd Cyhoeddus · Epidemioleg
  • Astudiaethau adolygu Ewropeaidd
  • Marwolaethau yn dilyn derbyniadau acíwt i'r ysbyty
  • Marwolaethau galwedigaethol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Ymhlith ei brif ddiddordebau mae: 

  • Clefydau gastroberfeddol gan gynnwys gwaedu yn y gastroberfedd uchaf, llid y pancreas, clefyd coeliag, clefyd yr afu, colitis briwiol a chlefyd Crohn.
  • Adolygiadau systematig a strwythurol o glefydau gastroberferfeddol ar draws Ewrop
  • Marwolaethau yn dilyn derbyniadau acíwt i'r ysbyty yn sgil clefydau gastroberfeddol ac anhwylderau eraill ar draws Cymru a Lloegr
  • Anafiadau galwedigaethol angheuol, boddi, hunanladdiadau a chlefydau heintus
Cydweithrediadau