ILS1 Atrium
Professor Greg Fegan

Yr Athro Greg Fegan

Athro Er Anrhydedd, Medicine Health and Life Science

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Yr Athro Greg Fegan yw Cyfarwyddwr Uned Dreialon Abertawe ac Athro Treialon Clinigol ym Mhrifysgol Abertawe. Dechreuodd yn y swydd hon ym mis Rhagfyr 2015 ar ôl treulio oddeutu 25 o flynyddoedd yn gweithio y tu allan i'r DU. Mae Uned Dreialon Abertawe'n un o oddeutu 50 o unedau treialon clinigol cofrestredig yn y DU a oruchwylir gan gorff Cydweithredu ar Ymchwil Glinigol y DU.

Cyn ymuno ag Abertawe, bu Greg yn gweithio yng Nghenia, Unol Daleithiau America a'r Gambia gyda sefydliadau amrywiol, gan gynnwys Prifysgol Rhydychen ac Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain mewn cydweithrediad â Sefydliad Ymchwil Meddygol Cenia, Swyddfa Iechyd Cyhoeddus Louisiana a labordai Cyngor Ymchwil Feddygol y DU yn Fajara yn y Gambia.

Mae Greg yn meddu ar PhD mewn Epidemioleg o Brifysgol Tulane yn New Orleans yn ogystal ag MSc mewn Peirianneg Systemau Gwybodaeth o Brifysgol South Bank (a fu gynt yn goleg polytechnig). Mae Greg yn Ystadegydd Proffesiynol Achrededig gyda Chymdeithas Ystadegol America.

Meysydd Arbenigedd

  • Treialon clinigol
  • Dadansoddi data ystadegol
  • Epidemioleg
  • Systemau gwybodaeth
  • Iechyd Byd-eang
  • Clefydau heintus, yn enwedig malaria
  • Imiwneiddio
  • Diffyg maeth