Trosolwg o'r Cwrs
Wedi'i greu ar gyfer darpar weithwyr proffesiynol cyfreithiol, mae’r radd LLM mewn Cyfraith Fasnachol Ryngwladol ym Mhrifysgol Abertawe yn darparu’r wybodaeth a'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen arnoch ar gyfer ystod o yrfaoedd cyffrous ym meysydd amrywiol y gyfraith.
Mae ein cwrs yn darparu addysg gyfreithiol soffistigedig ac ymarferol ar gyfer y farchnad fyd-eang, wedi’i addysgu gan arbenigwyr y diwydiant sydd â lefel uchel o brofiad academaidd ac ymarferol.
Byddwch yn elwa o raglen sy'n seiliedig ar yr ymchwil ddiweddaraf a chymwysiadau masnachol yn y byd go iawn. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o'r heriau cyfreithiol ac ymarferol sy'n ymwneud â thrafodion masnachol rhyngwladol, a fydd yn eich paratoi i lywio cymhlethdodau masnach ryngwladol fodern, buddsoddi, ac ymarfer corfforaethol.
Mae’r radd LLM mewn Cyfraith Fasnachol Ryngwladol yn Abertawe yn creu arbenigwyr hyderus, sydd wedi'u grymuso â'r sgiliau dadansoddol, ymchwil ac ymarferol uwch a fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y gyfraith.