Trosolwg o'r Cwrs
Mae’r LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe yn gwrs proffesiynol ar gyfer graddedigion y gyfraith a luniwyd yn unol â gofynion Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr 1 a 2 (SQE1 a 2).
Bydd astudio ar gyfer LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol yn Abertawe'n rhoi i chi'r wybodaeth graidd a'r sgiliau cyfreithiol ymarferol sy'n hanfodol wrth baratoi graddedigion y gyfraith sy'n awyddus i gymhwyso fel Cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr drwy'r Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE).
Trwy gyfuniad o ddysgu damcaniaethol a sgiliau ymarferol, byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddilyn gyrfa lwyddiannus yn y proffesiwn cyfreithiol.
Ochr yn ochr â pharatoi ar gyfer yr SQE1 a 2, byddwch hefyd wedi paratoi'n briodol ar gyrfa mewn ymarfer. Dan arweiniad ein hacademyddion arbenigol, byddwch yn meithrin proffil deniadol a chydnabyddedig ar gyfer cyflogwyr posib.
Mae'r LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol yn Abertawe'n cynnig y cyfle i chi ennill dyfarniad Meistr, meithrin gwybodaeth a sgiliau cyfreithiol, ac yn eich paratoi ar gyfer bywyd llwyddiannus mewn ymarfer cyfreithiol.
Ar gyfer graddedigion nad oes ganddynt radd yn y gyfraith sy'n awyddus i ddilyn llwybr pontio i'ch paratoi ar gyfer yr SQE1, mae ein LLM yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol yn cynnig y cam cyntaf delfrydol tuag at gymhwyso.