Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MSc mewn Peirianneg Deunyddiau yn rhoi i chi ddealltwriaeth uwch o faes gwyddor a pheirianneg deunyddiau, gan gyfoethogi'ch galluoedd dadansoddol a'ch profiad ymarferol o offer sy'n berthnasol i'r diwydiant, er mwyn mynd i'r afael â gofynion y diwydiant deunyddiau rhyngwladol.
Fel un o ganolfannau mwyaf blaenllaw'r DU ar gyfer addysgu ac ymchwil ym maes deunyddiau, mae Prifysgol Abertawe'n cynnig i chi raglen arloesol sy'n cyfuno gwybodaeth sylfaenol am ddeunyddiau craidd â thechnolegau dylunio a gweithgynhyrchu sy'n dod i'r amlwg, i ddiwallu gofynion amrywiaeth eang o gymwysiadau technolegol.
Gyda phwyslais cryf ar fynd i'r afael â phryderon economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol ym maes datblygiadau technolegol yn y dyfodol, byddwch yn meithrin rhagoriaeth dechnegol ochr yn ochr â chreadigrwydd, ymwybyddiaeth foesegol a chyfrifoldeb cymdeithasol, gan eich grymuso i gyfrannu at ddiwydiant mwy cynhwysol a blaengar.
Gellir astudio'r cwrs hwn ar sail amser llawn neu ran-amser, gyda'r opsiwn i gynnwys Blwyddyn mewn Diwydiant.