Ymarfer Bydwreigiaeth Proffesiynol Uwch, MSc / PGDip / PGCert

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
students

Trosolwg o'r Cwrs

Beth am wella eich gwybodaeth am fydwreigiaeth, eich rhesymu clinigol a’ch sgiliau gwneud penderfyniadau gyda'n gradd Meistr sy'n seiliedig ar waith mewn Ymarfer Bydwreigiaeth Proffesiynol Uwch. Mae'r rhaglen hon ar gyfer bydwragedd cymwysedig, cofrestredig, cyflogedig.

Mae'r cwrs hwn yn rhaglen fodiwlaidd hynod hyblyg a arweinir gan eich amcanion dysgu a datblygiad proffesiynol fel myfyriwr a bydwraig brysur. Byddwch yn dysgu am bynciau polisi ac ymarfer allweddol ac yn mireinio eich sgiliau ymchwil a dadansoddi beirniadol o ran bydwreigiaeth. Gyda chymorth tiwtor personol byddwch hefyd yn datblygu dulliau ymarfer myfyriol proffesiynol.

Mae'r rhaglen ôl-raddedig fodiwlaidd hon sy'n seiliedig ar waith yn cael ei chyflwyno ar Lefel 7 yn llwyr. Wedi'i chreu ar gyfer astudio rhan-amser, mae'n cynnig hyblygrwydd i fyfyrwyr gymryd hyd at 60 o gredydau'r flwyddyn, gyda'r posibilrwydd o gwblhau o fewn 3 blynedd neu uchafswm o 5 mlynedd.

Pam Arferion Bydwreigiaeth Proffesiynol Uwch yn Abertawe?

Caiff y cwrs ei gyflwyno gan yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, felly byddwch yn elwa o amgylchedd addysgu ac ymchwil amrywiol gydag enw da rhyngwladol am addysg bydwreigiaeth.

Mae gan ein tîm bydwreigiaeth gefndir cryf mewn cymorth academaidd ar bob lefel, gan gynnwys galwadau gwahanol dysgu yn y gweithle.

Mae gennym gysylltiadau cryf â rhwydweithiau ymarfer proffesiynol ac ymchwil academaidd yn Ewrop a ledled y byd, felly mae’r datblygiadau polisi ac ymarfer diweddaraf yn llywio eich dysgu.

Eich profiad Ymarfer Proffesiynol Bydwreigiaeth Uwch

Mae llawer o'n staff academaidd yn fydwragedd cofrestredig ac yn dal i fod yn weithgar o ran ymarfer ac ymchwil, gan gynnig cyfuniad rhagorol o drylwyredd damcaniaethol, dealltwriaeth broffesiynol ac arbenigedd ymarferol.

Byddwch yn dysgu drwy gyfuniad o diwtorialau unigol ac addysgu mewn grŵp, wedi'ch cefnogi gan gysylltiadau gweithio agos rhwng y tîm Bydwreigiaeth a chydweithwyr clinigol mewn lleoliadau ymarfer.

Mae'r ystod eang o fodiwlau dewisol yn golygu y gallwch chi deilwra eich astudiaethau i'ch diddordebau penodol. Mae myfyrwyr yn cwblhau dau fodiwl craidd yn y flwyddyn gyntaf cyn dewis dau fodiwl ychwanegol o'r catalog i gwblhau blwyddyn 2. Yn y drydedd flwyddyn, mae'n nhw'n gwneud y modiwl craidd 60 credyd olaf, gan gyflawni cyfanswm o 180 credyd Lefel 7 dros dair blynedd. Mae'r rhaglen yn cynnal cysylltiadau cryf â llwybrau ôl-raddedig Ymarfer Proffesiynol Uwch presennol, gan alluogi peth dysgu a rennir a'r cyfle i gymryd modiwlau sy'n gyffredin gyda'r rhaglenni hynny.

CYFLEOEDD CYFLOGAETH YMARFER BYDWREIGIAETH PROFFESIYNOL UWCH

Mae cwblhau’n llwyddiannus yn aml yn arwain at ymarfer proffesiynol uwch ac yn cynnig cyfleoedd am ddatblygiad gyrfa yn eich maes dethol o ymarfer bydwreigiaeth. Mae'r rhaglen yn eich cefnogi i nodi'r sgiliau rydych am eu datblygu a'r cyfleoedd rydych am eu dilyn i wella eich rhagolygon gyrfa.

Bydd graddedigion yn ymddangos fel ymarferwyr ymreolaethol a myfyriol, sy'n gallu meddwl yn feirniadol ac yn fedrus wrth gymhwyso damcaniaeth, profiad a llenyddiaeth academaidd i ddatblygu a gwella ymarfer bydwreigiaeth. Yn ogystal â chyflawniad academaidd a gallu clinigol uwch, wrth gwblhau'r cwrs hwn byddwch wedi datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n cryfhau cyflogadwyedd, yn cyfrannu at wasanaethau mamolaeth ein byrddau iechyd ac yn gwella safonau gofal i famau a babanod yn y pen draw.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.