Gwaith Cymdeithasol, MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Social Work

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd ein gradd Meistr achrededig mewn Gwaith Cymdeithasol yn eich galluogi i feithrin yr wybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol i lansio gyrfa wobrwyol fel gweithiwr cymdeithasol cofrestredig.

Byddwch chi'n astudio moeseg a gwerthoedd gwaith cymdeithasol, ymarfer beirniadol sy'n ymwneud â'r gyfraith ynghylch gofal plant ac oedolion a'r damcaniaethau a'r safbwyntiau allweddol sy'n sail i bolisi ac ymarfer gwaith cymdeithasol. Bydd yn eich paratoi i gael eich cyflogi fel gweithiwr cymdeithasol cymwysedig proffesiynol ac mae'n gosod y sylfaen ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.

Byddwch yn treulio hanner eich amser ar leoliad gwaith gydag asiantaethau gwaith cymdeithasol, gan ddysgu trwy arsylwi ac ymarfer a’r hanner arall yn cael eich addysgu ar ein Campws Parc Singleton.

Trwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn mireinio eich sgiliau ymchwil a dadansoddi beirniadol mewn perthynas ag ymarfer a pholisi gwaith cymdeithasol, ac yn datblygu technegau ymarfer myfyriol proffesiynol.

Pam Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe?

Mae ein cwrs wedi'i gydnabod gan y cyrff rheoleiddio yng nghenhedloedd eraill y DU, felly wrth orffen y radd yn llwyddiannus, gallwch gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol cymwysedig.

Mae gennym ni gysylltiadau ardderchog ag asiantaethau gwaith cymdeithasol yn ne Cymru a gorllewin Cymru ac mewn awdurdodau lleol ac yn y sector gwirfoddol gan gynnig lleoliadau gwaith mewn ystod o leoliadau.

Gan astudio yn ein Hysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, byddwch chi'n elwa o amgylchedd addysgu ac ymchwil amrywiol a llawer o gyfleoedd i greu cysylltiadau â myfyrwyr o ystod o ddisgyblaethau a chenhedloedd.

Yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf, mae 75% o'r ymchwil a gynhelir yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn 3* ac felly mae cyrhaeddiad ac arwyddocâd yr ymchwil yn sylweddol. Mae ein ffocws ar allbynnau ymchwil wedi arwain at gynnydd o 21% mewn ymchwil sy'n arwain y byd (REF2021). Mae'r arbenigedd a'r rhagoriaeth ymchwil hwn yn llywio ein gweithgarwch dysgu ac addysgu a chynnwys eich cwrs yn uniongyrchol.

Eich profiad Gwaith Cymdeithasol

Mae ein holl staff addysgu'n weithredol ym myd ymchwil yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gan gynnwys meysydd amrywiol megis plant sy'n derbyn gofal, cynnwys defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr mewn addysg, plant sy'n geiswyr lloches a mudwyr a chynhwysiant cymdeithasol ac anghenion gofal pobl hŷn.

Mae'r cwrs yn academaidd ac yn seiliedig ar ymarfer, a byddwch yn cyflawni o leiaf 200 niwrnod o ddysgu trwy ymarfer yn ystod y ddwy flynedd. Mae hanner y rhaglen wedi'i neilltuo i ymarfer dan oruchwyliaeth mewn asiantaethau gwasanaethau cymdeithasol, lle bydd cyfle gennych i ddysgu drwy arsylwi, ymarfer a pherfformio. Cynhelir y lleoliadau gwaith cymdeithasol yn awdurdodau lleol Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.

Gyrfaoedd mewn Gwaith Cymdeithasol

Mae graddedigion y rhaglen hon yn cael eu cyflogi fel gweithwyr cymdeithasol. Mae'r gyfradd gyflogadwyedd yn agos at 100%. Mae rhai o’n graddedigion hefyd wedi cael eu cyflogi yn y sefydliadau lle gwnaethant gwblhau eu lleoliad gwaith olaf.

Gallwch ddisgwyl cyflog cychwynnol o oddeutu £37,000 fel gweithiwr cymdeithasol newydd gymhwyso. Gall uwch-ymarferwyr a rheolwyr tîm ennill hyd at £48,000. (Gyrfa Cymru, 2025)

Mae'r rhaglen yn darparu'r cymhwyster proffesiynol sydd ei angen er mwyn cofrestru. Gall graddedigion weithio mewn unrhyw ranbarth yn y DU, ar yr amod eu bod yn cofrestru gyda'r corff rheoleiddio gwaith cymdeithasol perthnasol. Gall graddedigion fynd ymlaen i weithio mewn gwasanaethau cymdeithasol statudol, er bod rhai wedi dewis swyddi mewn meysydd megis allgymorth, gwaith ieuenctid a gwaith cymunedol. Ar ôl graddio â gradd Gwaith Cymdeithasol, byddwch hefyd mewn sefyllfa dda i ymgymryd ag astudiaethau pellach neu ymchwil.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.