Cysylltiadau Rhyngwladol, MA

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
students speaking together

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r byd yn wynebu heriau dwys, o wrthdaro i newid yn yr hinsawdd i bwysau byd-eang newydd ac annisgwyl. Ond ochr yn ochr â'r anawsterau hyn mae syniadau newydd, cydweithrediadau a chyfleoedd i gael newid cadarnhaol yn ymddangos.  Ni fu erioed yn fwy pwysig deall y dirwedd hon sy'n symud yn gyflym.

Mae ein MA Cysylltiadau Rhyngwladol yn eich helpu chi i wneud synnwyr o'r darlun byd-eang cymhleth hwn. Byddwch yn archwilio'r grymoedd sy'n llywio gwleidyddiaeth ryngwladol heddiw, gan astudio sut mae sefydliadau byd-eang yn ymateb i newid, ac ystyried sut gellid adeiladu byd mwy cyfiawn a chynaliadwy.

Ar draws un, dwy neu dair blynedd o astudio, byddwch yn ennill yr offer cysyniadol, yr astudiaethau achos manwl a'r sgiliau ymchwil uwch y mae eu hangen i ddadansoddi materion rhyngwladol â hyder.  Efallai eich bod am ddyfnhau eich gwybodaeth academaidd neu baratoi am yrfa mewn polisi byd-eang, llywodraethu neu ymchwil, bydd y rhaglen hon yn eich arfogi i ymgysylltu'n feddylgar ac yn feirniadol â'r byd o'ch cwmpas.

Pam Cysylltiadau Rhyngwladol yn Abertawe?

Ymysg y 250 o raglenni gorau yn y byd (QS 2025), mae Cysylltiadau Rhyngwladol yn Abertawe'n cynnig lle llawn ysbrydoliaeth i astudio gwleidyddiaeth fyd-eang a dysgu gan ymchwilwyr blaenllaw. Gan astudio ar ein campws Parc Singleton hyfryd, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe, byddwch yn astudio mewn lleoliad llawn ysbrydoliaeth wrth y fynedfa i benrhyn Gŵyr. Mae ein hacademyddion yn arweinwyr yn eu meysydd, gan ymchwilio i rai o'r heriau mwyaf dybryd sy'n llywio gwleidyddiaeth fyd-eang heddiw. Mae gan Abertawe enw da rhagorol am faterion rhyngwladol, gydag arbenigedd penodol mewn astudiaethau diogelwch critigol a'r systemau pŵer sy'n arwain newid byd-eang. Mae'r gwaith ymchwil hwn yn llywio ein gwaith addysgu'n uniongyrchol, gan roi mynediad i chi at feddwl arloesol drwy gydol eich gradd.

Bydd eich astudiaethau'n mynd â chi y tu hwnt i'r penawdau. Byddwch yn dadansoddi rôl gweithredwyr dylanwadol mewn gwleidyddiaeth fyd-eang, yn archwilio system ryngwladol sy'n wynebu unfed ganrif ar hugain ansicr ac yn datblygu sgiliau methodolegol uwch i ymchwilio i'r materion sy'n llywio ein byd rhyng-gysylltiedig. Nid dim ond dysgu am wleidyddiaeth fyd-eang y byddwch yn ei wneud, ond byddwch yn dysgu hefyd sut i'w chroesholi.

Mae Abertawe'n gartref i gymuned ôl-raddedig fywiog a chroesawgar lle byddwch yn canfod cymdeithasau myfyrwyr ar gyfer gwleidyddiaeth, cysylltiadau rhyngwladol ac athroniaeth, gan gynnwys rhwydweithiau cryf ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol ac amryw o grwpiau ymchwil i chi gymryd rhan ynddynt.  Mae'n amgylchedd cefnogol lle gallwch ddyfnhau eich diddordebau, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a gwella eich datblygiad academaidd a phroffesiynol.

Eich Profiad Cysylltiadau Rhyngwladol

Yn ystod eich gradd MA Cysylltiadau Rhyngwladol, byddwch yn creu sylfaen gref yn y syniadau allweddol, dadleuon ac agweddau sy'n llywio astudio gwleidyddiaeth fyd-eang heddiw. Efallai eich bod yn newydd i'r pwnc neu'n parhau o'ch astudiaethau blaenorol, mae rhan gyntaf y rhaglen yn rhoi'r sylfaen gysyniadol a dadansoddol y mae eu hangen arnoch i archwilio cysylltiadau rhyngwladol â hyder.

Wrth i chi symud ymlaen, byddwch yn dyfnhau eich dealltwriaeth o heriau byd-eang sy'n dylanwadu ar bŵer, gwrthdaro a chydweithredu, wrth hefyd ddatblygu sgiliau ymchwil sy'n hanfodol ar gyfer astudiaethau uwch yn y maes hwn.  Byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi materion cymhleth, gwerthuso safbwyntiau cystadleuol a chymhwyso ymagweddau gwahanol er mwyn ymchwilio i gwestiynau rhyngwladol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Cysylltiadau Rhyngwladol

Mae'r rhaglen hon ar gyfer myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd academaidd a phroffesiynol. Byddwch yn datblygu sylfaen gref yn namcaniaeth ac ymarfer cysylltiadau rhyngwladol, ynghyd â'r sgiliau ymchwilio, dadansoddi, cyflwyno, meddwl yn feirniadol ac ysgrifennu y mae eu hangen i werthuso a dehongli problemau byd-eang â hyder.

Mae galw mawr am y sgiliau hyn ar draws sawl sector. Mae graddedigion y rhaglen MA Cysylltiadau Rhyngwladol yn symud ymlaen i gael gyrfaoedd mewn meysydd megis y canlynol:

  • Sefydliadau'r Cenhedloedd Unedig a rhyngwladol
  • Llywodraeth a gwleidyddiaeth
  • Sefydliadau dyngarol
  • Busnes, y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus

 Efallai eich bod am ddatblygu eich gyrfa bresennol neu gymryd y camau cyntaf i fyd materion byd-eang, mae'r rhaglen yn cynnig llwyfan cryf ar gyfer eich cam nesaf.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.