Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r radd MA ddwbl hon mewn Cyfieithu Arbenigol yn cael ei chynnig drwy bartneriaeth unigryw rhwng ysgolion cyfieithu uchel eu parch Prifysgol Abertawe ac Université Grenoble Alpes (UGA), sef trydedd brifysgol fwyaf Ffrainc. Mae’n rhoi cyfle i chi astudio a hyfforddi ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn dau amgylchedd academaidd gwahanol, a fydd yn datblygu eich rhwydweithiau cyfieithu yn y ddwy wlad.
Mae'r radd MA Ddwbl hon ar gael i ymgeiswyr â chymhwysedd ieithyddol brodorol yn Saesneg ac yn Ffrangeg yn unig, neu i’r rhai sy’n agos at y safon honno, ac mae'n cyfuno elfennau allweddol o radd MA mewn Cyfieithu Proffesiynol Abertawe (Blwyddyn 1) a gradd Meistr LEA parcours Traduction spécialisée Université Grenoble Alpes (Blwyddyn 2), y cynlluniwyd y ddwy ohonynt i gyflawni'r ystod gyflawn o gymwyseddau proffesiynol a amlinellwyd yn Fframwaith Cymwyseddau 2017 yr EMT. Mae'r radd MA Ddwbl ar gael i ieithyddion rhagorol, p'un a yw eu cymwysterau yn gysylltiedig ag ieithoedd neu mewn meysydd pwnc eraill lle maent yn cynllunio datblygu arbenigedd cyfieithu. Wrth gwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn graddio â graddau Meistr o'r ddwy brifysgol. Yn ogystal â'r Saesneg a'r Ffrangeg, gall myfyrwyr hefyd ddewis astudio cyfieithu yn naill ai'r Almaeneg neu'r Sbaeneg, mewn cyfuniad â'r Saesneg ym Mlwyddyn 1 a'r Ffrangeg ym Mlwyddyn 2.
Nifer gyfyngedig iawn o leoedd sydd a chânt eu dyrannu ar sail teilyngdod gan Fwrdd Astudiaethau ar y Cyd, ar sail y ffurflen gais a'r trawsgrifiad(au), geirdaon a chyfweliad (yn ôl yr angen). Caiff ffioedd eu talu ar gyfradd bresennol myfyrwyr y DU, Ewrop neu ryngwladol i’r sefydliad lle rydych chi'n astudio ar y pryd (h.y. i Abertawe ym Mlwyddyn 1, i UGA ym Mlwyddyn 2).
Pam Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig) yn Abertawe?
Mae gan Brifysgol Abertawe enw da’n rhyngwladol am gyfieithu a chyfieithu ar y pryd proffesiynol. Roeddem yn un o aelodau-sefydlu'r Rhwydwaith Ewropeaidd Graddau Meistr mewn Cyfieithu (2009-2020), sef nod ansawdd a sefydlwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd i annog lledaenu arfer gorau mewn hyfforddiant i gyfieithwyr. Mae ein rhaglenni ôl-raddedig wedi bod yn destun datblygu a diweddaru parhaus ers lansio'r MA mewn Cyfieithu gyda Thechnoleg Iaith yn 2020. Mae gennym ni gyfleusterau o'r radd flaenaf (sef labordai cyfieithu gyda'r feddalwedd ddiweddaraf, ac ystafell cyfieithu ar y pryd mewn cynadleddau sy’n gydnaws â safon y proffesiwn). Rydym ni'n perthyn i raglenni academaidd cwmnïoedd sy’n cynhyrchu offer cyfieithu â chymorth cyfrifiadur o safon y proffesiwn megis Trados, Memsource, memoQ a Lilt, y mae'r ddwy gyntaf yn cynnig profion Ardystio am ddim i'n myfyrwyr mewn perthynas â'u meddalwedd nhw, yn ogystal â'r Gymdeithas Defnyddwyr Awtomeiddio Cyfieithu a'r Gymdeithas Globaleiddio a Lleoleiddio. Rydym ni'n cydweithio'n agos â chyrff proffesiynol y DU sef Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion (mae ein modiwl cyfieithu ar y pryf ar gyfer Iechyd yn eich paratoi i sefyll eu Diploma mewn Cyfieithu ar y Pryd yn y Gwasanaethau Cyhoeddus) a'r Sefydliad Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd. Rydym ni hefyd yn gweithio gyda llawer o ddarparwyr gwasanaethau iaith mawr a bach yn y DU ac yn Ewrop i sefydlu a monitro interniaethau myfyrwyr.
Mae Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol wedi'i lleoli ar ein campws bywiog ym Mharc Singleton, mewn parcdir trawiadol sy'n edrych dros Fae Abertawe a'i draeth pum milltir o hyd. Mae opsiynau llety, cyfleusterau chwaraeon a chyfleoedd cymdeithasol rhagorol yn golygu y gall Abertawe gynnig profiad perffaith i ôl-raddedigion.
Mae gradd Meistr Langues étrangères appliquées, parcours Traduction spécialisée multilingue Université Grenoble Alpes hefyd yn un o aelodau-sefydlu’r Rhwydwaith EMT. Mae'r UFR de Langues Etrangères yn cynnwys tua 2,500 o fyfyrwyr ar bob lefel sy’n astudio am amrywiaeth o raddau mewn ieithoedd, llenyddiaeth, gwareiddiad, busnes rhyngwladol etc. yn ogystal â chyfieithu, a rhyw 170 o staff addysgu. Mae gan yr Adran gyfleusterau technegol rhagorol ar gyfer Astudiaethau Cyfieithu, a llyfrgell Ieithoedd Modern â chasgliad helaeth o lenyddiaeth Cyfieithu. Mae hefyd yn cynnal cysylltiadau gwaith cryf â'r Société Française des Traducteurs, a llawer o gwmnïoedd cyfieithu yn ardal Grenoble a'r tu hwnt yn Ffrainc.
Eich Profiad Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig)
Blwyddyn 1, Abertawe (120 o gredydau/60 ECTS)
Modiwlau Gorfodol: Mae gwaith cyfieithu uwch yn Ffrangeg a Saesneg (gallwch ddewis Almaeneg neu Sbaeneg a Saesneg hefyd ) wedi'i ategu gan hyfforddiant mewn offer Cyfieithu â Chymorth Cyfrifiadur (CAT) o safon y proffesiwn (MLRM03). Mae'r modiwl 'Sylfeini (MLTM05) yn cynnwys damcaniaeth cyfieithu a chyfieithu ar y pryd, gan ddarparu trosolwg o sefyllfa gyfredol y diwydiant gwasanaethau iaith a'i rolau proffesiynol.
Opsiynau: Gallwch ddewis arbenigo mewn cyfieithu ar y pryd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus (MLTM07), cyfieithu clyweledol (MLTM19), technolegau cyfieithu gan gynnwys offer meddalwedd lleoleiddio (MLTM11) neu reoli terminoleg (MLTM18). Yn y modiwl Efelychu Swyddfa Gyfieithu (MLTM17), rydych chi'n sefydlu ac yn cynnal cwmni cyfieithu realistig, gan weithio gyda darparwr gwasanaethau iaith (LSP) lleol a myfyrwyr MA eraill ledled Ewrop yn y rhwydwaith INSTB. Gallwch hefyd astudio cwrs iaith dwys ar lefel Dechreuwyr neu Ganolradd. Fel arall, mae Dysgu ac Addysgu Iaith â Chymorth Technoleg (ALEM28) yn darparu sgiliau addysgeg iaith y mae galw mawr amdanynt.
Blwyddyn 2, Grenoble (60 ECTS/120 o gredydau)
Mae cyrsiau gorfodol a dewisol yn dod o raglen Blwyddyn 2 UGA (M2) (mae myfyrwyr heb ail iaith dramor yn cymryd dosbarthiadau M1 yn lle’r cyrsiau cyfieithu hynny). Mae UGA yn arbenigo mewn cyfieithu Technegol, Cyfreithiol a Busnes a therminoleg, wedi’i ategu gan seminarau Gwyddoniaeth a'r Gyfraith.
Lleoliad gwaith rhan-amser 3-6 mis (o fis Ebrill), wedi'i asesu yn UGA gan adroddiad interniaeth ac arholiad llafar (yn Ffrangeg neu'n Saesneg).
Cyfleoedd Cyflogaeth Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig)
Bydd y radd MA alwedigaethol mewn Cyfieithu Proffesiynol yn gwella eich rhagolygon gyrfa ym maes cyfieithu yn sylweddol. Yn ystod eich astudiaethau, neu eich interniaeth, gallwch wneud cysylltiadau pwysig ar gyfer eich gwaith yn y dyfodol.
Mae graddedigion o’r cwrs hwn yn cyflawni amrywiaeth o rolau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd gwahanol. Mae llawer hefyd yn gwneud graddau ymchwil ac yn dilyn gyrfa academaidd.