Gwybodaeth Ddaearyddol a Newid yn yr Hinsawdd, MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Copernicus Sentinel

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r MSc mewn Gwybodaeth Ddaearyddol a Newid yn yr Hinsawdd yn darparu hyfforddiant trawsddisgyblaethol yn egwyddorion gwyddonol Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS), synhwyro o bell drwy loeren a modelu systemau’r ddaear ochr yn ochr ag agweddau ar wyddoniaeth newid yn yr hinsawdd.

Byddwch yn canolbwyntio ar gymwysiadau technegol GIS ac arsylwi ar y ddaear, gan archwilio patrymau newid amgylcheddol y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, ar raddfeydd byd-eang a rhanbarthol.

Erbyn i chi raddio, bydd gennych brofiad ymarferol o weithio gyda GIS a thechnolegau synhwyro o bell, wedi'i ategu gan ddealltwriaeth eang o'r materion gwyddonol sy'n sail i newid yn yr hinsawdd.

Caiff eich dysgu ei gyfoethogi gan arbenigedd cyfunol ein timau Daearyddiaeth a'r Biowyddorau, y mae eu hymchwil yn cwmpasu gwyddor gwybodaeth ddaearyddol a dynameg hinsoddol, bioleg y môr ac ecosystemau a datblygu cynaliadwy.

Pam Gwybodaeth Ddaearyddol a Newid yn yr Hinsawdd yn Abertawe?

      • Rhwng safle 201 a 250 ar y rhestr o'r rhaglenni gorau yn y byd ar gyfer y Gwyddorau Amgylcheddol (Tablau Prifysgolion y Byd QS 2025)
      • Mae 90% o'n hallbynnau ymchwil wedi cael eu cydnabod fel rhai sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021
      • Mae 100% o'r amgylchedd yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

       

      Bydd eich dysgu yn cael ei gyfoethogi gan gysylltiadau rhagorol â byd diwydiant, llywodraeth a sefydliadau'r trydydd sector, gan roi cyfleoedd gwerthfawr i chi ymgysylltu ag arbenigwyr sy'n gweithio ar heriau amgylcheddol go iawn.

      Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn elwa o ddysgu ymarferol drwy brofiad, o waith labordy a modelu amgylcheddol i gyrsiau maes ymdrochol, gan sicrhau eich bod yn meithrin sgiliau ymarferol yn barod am swyddi, rhai y bydd cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.

      Mae hyn i gyd yn cael ei gefnogi gan gymuned academaidd glos, lle mae maint bach y carfannau, gweithdai rheolaidd, tiwtorialau bugeiliol ac ymrwymiad eithriadol gan staff yn creu amgylchedd cyfeillgar a chefnogol lle gallwch dyfu a ffynnu.

Eich profiad Gwybodaeth Ddaearyddol a Newid yn yr Hinsawdd

Drwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddofn o'r egwyddorion gwyddonol sy'n sail i ddata daearyddol, newid yn yr hinsawdd a dynameg amgylcheddol.

Caiff eich dysgu ei gefnogi gan gyfleusterau cyfrifiadura o'r radd flaenaf, gan gynnwys 15 gweithfan prosesydd deuol ar gyfer arsylwi ar y Ddaear, clwstwr amlbrosesydd Beowulf 20 nod ac uwch-gyfrifiadur IBM Blue Ice yr Adran a ddefnyddir yn helaeth at ddiben modelu hinsoddol a rhewlifeg. Mae'r adnoddau uwch hyn yn sicrhau y byddwch yn cael profiad ymarferol o'r offer a'r technolegau a ddefnyddir ar draws y sectorau geo-ofodol ac amgylcheddol.

Mae gweithdai rheolaidd a chyfleoedd rhwydweithio ag ymchwilwyr ac ymarferwyr yn cryfhau'r ymdeimlad o gymuned yn y rhaglen, gan eich helpu i fagu hyder, pwrpas proffesiynol ac ymdeimlad cryf o berthyn.

Erbyn i chi raddio, bydd gennych y galluoedd datrys problemau ymarferol, yr arbenigedd dadansoddol a'r sgiliau cyfathrebu sydd eu hangen i lwyddo mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd ym meysydd amgylcheddol a’r hinsawdd.

Gwybodaeth Ddaearyddol a Newid yn yr Hinsawdd

Mae galw mawr am raddedigion y radd MSc mewn Gwybodaeth Ddaearyddol a Newid yn yr Hinsawdd ar draws y sectorau amgylcheddol, geo-ofodol, ymgynghori a chyhoeddus. Mae'r cyfuniad o sgiliau GIS uwch, profiad o synhwyro o bell ac arbenigedd yn yr hinsawdd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth eang o rolau technegol, dadansoddol ac arbenigol.

Mae graddedigion y radd MSc mewn Gwybodaeth Ddaearyddol a Newid yn yr Hinsawdd yn meddu ar y sgiliau sy'n addas ar gyfer rolau fel:

  • Arbenigwr GIS a Synhwyro o Bell
  • Ymgynghorydd Newid yn yr Hinsawdd neu Sero Net
  • Dadansoddwr Risg neu Addasu Hinsoddol
  • Gwyddonydd/Modelwr Data Amgylcheddol
  • Technegydd neu Arweinydd Prosiect Drôn/Arsylwi ar y Ddaear
  • Swyddog Polisi, Cadwraeth neu Gynaliadwyedd
  • Ymchwilydd neu Ymgeisydd PhD ym maes yr Hinsawdd neu Arsylwi ar y Ddaear

Mae cyflogwyr nodweddiadol yn cynnwys cwmnïau ymgynghori ar yr amgylchedd, asiantaethau'r llywodraeth, cyrff anllywodraethol, cwmnïau cyfleustodau, sefydliadau ymchwil a chwmnïau technoleg geo-ofodol.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.