Geneteg Feddygol, BSc (Anrh) / MSci (Anrh)

Deall Prosesau Genetig Bywyd

Students in Lab

Trosolwg o'r Cwrs

Mae astudiaeth geneteg feddygol yn faes cyffrous sy’n symud yn gyflym ac yn cael effaith enfawr ar feddygaeth, gan ein helpu i ddeall, diagnosio a thrin llawer o glefydau dynol.

Bydd ein gradd Geneteg Feddygol yn rhoi gwybodaeth drwyadl i chi o’r blociau adeiladu hyn sy’n hanfodol ar gyfer bywyd. Byddwch yn dysgu technegau ar gyfer dadansoddi mynegiad genynnau, y ffordd y mae proteinau yn rhyngweithio, strwythur DNA a’r difrod iddo, dadansoddi delweddau biomoleciwlau a chelloedd, a dulliau dadansoddol cyfrifiadurol uwch.

Byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddi a rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Pam Geneteg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe?

Byddwch yn elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys offer dadansoddi DNA a phrotein, a dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellog.

Mae’r radd hon yn rhan o’r rhaglen Llwybr i Feddygaeth ‘Gwyddorau Meddygol mewn Ymarfer’. Cyn belled â’ch bod yn bodloni’r gofynion mynediad, ac wedi dilyn y Llwybr hwn, gallwn eich gwarantu y cewch gyfweliad ar gyfer ein cwrs MBBCh Meddygaeth Mynediad i Raddedigion.

Eich profiad ym maes Geneteg Feddygol

Gan astudio'r BSc 3 blynedd, byddwch yn ymgymryd â chymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol, gan roi'r hyblygrwydd i chi deilwra'ch gradd i'ch diddordebau penodol, eich uchelgeisiau gyrfa, neu gynlluniau ar gyfer astudiaeth bellach.

Yn ogystal, mae'r rhaglen 4 blynedd gyda blwyddyn Lleoliad yn cynnig blwyddyn leoliad ychwanegol rhwng yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf, gan roi'r cyfle i chi gael profiad o waith mewn diwydiant, a'ch galluogi i fagu hyder a chael profiad yn y byd go iawn.

Mae ein gradd MSci 4 blynedd yn radd israddedig uwch a chanddi flwyddyn meistr integredig. Treulir y flwyddyn ychwanegol yn ymgymryd â phrosiect ymchwil, gan ganiatáu i chi ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth.

Pa bynnag gymhwyster a ddewiswch, byddwch yn elwa ar arbenigedd ein staff academaidd sy'n weithgar mewn ystod amrywiol o feysydd ymchwil biolegol moleciwlaidd, gan gynnig cymysgedd heb ei ail o ragoriaeth academaidd ac arfer sydd ar flaen y gad.

Mae treulio blwyddyn dramor yn ystod eich gradd israddedig yn eich caniatáu i ychwanegu profiad rhyngwladol gwerthfawr i'ch CV, wrth feithrin sgiliau cyfathrebu rhyngddiwylliannol a fydd yn gwella eich gallu i ryngweithio â phobl o gefndiroedd amrywiol.

Os wyt ti'n poeni am fodloni ein gofynion mynediad, beth am ystyried ein BSc Geneteg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen. Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, archwilio'r gwyddoniaeth sy'n sail i Geneteg Feddygol cyn symud ymlaen i'r rhaglen gradd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd at addysg ar ôl cyfnod o amser.

Cyfleoedd Cyflogaeth Geneteg Feddygol

Gyda gradd mewn Geneteg Feddygol, mae cyfleoedd gyrfa yn amrywiol ac yn helaeth. Maent yn cynnwys:

  • Ymchwil meddygol,
  • Diwydiant fferyllol a Gwyddorau Iechyd,
  • Astudiaethau ôl-raddedig (MSc, MRes, PhD),
  • Cwnsela Genetig,
  • Gwyddonydd Clinigol,
  • Meddygaeth mynediad i raddedigion,
  • Cydymaith Meddygol,
  • Dysgu,
  • Ysgrifenydd Gwyddonol,
  • Biowybodeg

Mae’r radd hefyd yn darparu sylfaen ddelfrydol ar gyfer astudiaethau pellach i ddod yn feddyg, ac mae llawer o’n myfyrwyr wedi symud ymlaen i astudio Meddygaeth i Raddedigion yn Abertawe.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Geneteg Feddygol

Geneteg Feddygol

Geneteg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen

Geneteg Feddygol gyda Blwyddyn ar Leoliad

Geneteg Feddygol gyda Blwyddyn Dramor

Geneteg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen ac gyda Blwyddyn Dramor