Geneteg Feddygol, BSc (Anrh) / MSci (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Students in Lab

Trosolwg o'r Cwrs

Mae geneteg feddygol yn rhan o faes eang o'r gwyddorau biomoleciwlaidd modern, sy'n cwmpasu ystod o bynciau. Mae'r maes ar y cyfan yn meithrin ystod eang o raddedigion sy'n mynd ymlaen i ystod o yrfaoedd, gan gynnwys gwaith mewn labordy ymchwil academaidd neu ddiwydiannol, gwerthu cynnyrch fferyllol, cyfraith patentau, ysgrifennu meddygol, ymgynghoriaeth, neu ddilyn hyfforddiant ychwanegol, ymarfer meddygol.  

Bydd ein BSc (Anrh.)/MSci (Anrh.) Geneteg Feddygol yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi o'r blociau adeiladu hanfodol hyn o fywyd. Byddwch yn dysgu technegau ar gyfer dadansoddi mynegiant genynnau, rhyngweithiadau protein, strwythur DNA a difrod iddo, dadansoddi delweddau o fiomoleciwlau a chelloedd, a dulliau dadansoddi cyfrifiadurol uwch. 

Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn datblygu sgiliau rhagorol o ran rheoli prosiectau a dadansoddi ac yn dysgu sut i ddylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith. Byddwch yn astudio  cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol, gan roi'r hyblygrwydd i chi deilwra eich gradd i'ch diddordebau, eich uchelgeisiau o ran gyrfa neu eich cynlluniau ar gyfer astudiaethau pellach.  

Mae'r radd hon yn rhan o'n rhaglen Llwybrau i Feddygaeth 'Gwyddorau Meddygol Ar Waith'. Bydd myfyrwyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad ac yn cwblhau'r Llwybr yn sicr o gael cyfweliad ar gyfer cwrs MBBCh  blaenllaw'r Ysgol Feddygaeth (Mynediad i Raddedigion). 

Pam Geneteg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe?

Drwy astudio yn Abertawe, byddwch yn dysgu gan staff academaidd sy'n cymryd rhan weithredol mewn ystod eang o ymchwil ym maes geneteg arloesol.  Mae eu harbenigedd yn cynnig cymysgedd eithriadol o ragoriaeth academaidd ac ymarfer gwyddonol yn y byd go iawn. Ochr yn ochr â'ch astudiaethau ffurfiol, cewch gyfle i ymuno â sgyrsiau ymchwil rheolaidd a gyflwynir gan academyddion Prifysgol Abertawe a siaradwyr gwadd o brifysgolion eraill, byd diwydiant, y GIG a sefydliadau ymchwil blaenllaw.  

Byddwch hefyd yn elwa o fynediad at gyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf yr Ysgol Feddygol, sy'n cefnogi astudiaethau moleciwlaidd a chellog uwch.  Mae'r rhain yn cynnwys offer dadansoddi DNA a phrotein, dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol, a chyfleuster cyfrifiadurol perfformiad uchel pwerus ar gyfer dadansoddi data ar raddfa fawr. 

Eich profiad ym maes Geneteg Feddygol

Yn ystod eich cwrs BSc (Anrh.) sy'n para  3 blynedd  , byddwch yn astudio cymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol, gan roi'r hyblygrwydd i chi deilwra eich gradd i'ch diddordebau  penodol, eich uchelgeisiau o ran gyrfa neu eich cynlluniau ar gyfer astudiaethau pellach.   

Byddwch yn cael y cyfle i dreulio Blwyddyn Dramor gyda'n sefydliadau partner, gan gyfoethogi eich dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.  

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn ym myd Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.  

At hynny, mae'r rhaglen hon ar gael fel MSci sy'n para 4 blynedd, sef gradd israddedig uwch sy'n ychwanegu blwyddyn sy'n canolbwyntio ar ymchwil at eich gradd.     Mae ein rhaglen  MSci  yn arwain at gymhwyster meistr, yn ogystal â'ch gradd israddedig, gan roi i chi hyfforddiant gwyddonol gan arbenigwyr a llwybr at amrywiaeth o yrfaoedd arbenigol.  

Pa bynnag gymhwyster rydych chi'n ei ddewis, byddwch yn elwa o arbenigedd ein staff academaidd sy'n weithgar mewn ystod amrywiol o feysydd ymchwil biolegol moleciwlaidd, gan gynnig cymysgedd heb ei ail o ragoriaeth academaidd ac ymarfer blaengar.  

Mae Blwyddyn Sylfaen ddewisol ar gael hefyd.     Mae hyn yn cynnig cyflwyniad ardderchog i fyd addysg uwch, gan roi'r sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig.    Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig mwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BSc (Anrh.)/MSci (Anrh.).    

Cyfleoedd Cyflogaeth Geneteg Feddygol

Egwyddor gyffredinol y rhaglen yw paratoi gwyddonwyr â'r wybodaeth graidd angenrheidiol, sgiliau ymarferol a chyflogadwyedd i lwyddo yn yr amgylchedd byd-eang a newidiol ar gyfer y gwyddorau meddygol a'r gwyddorau bywyd.      Felly, bydd pob myfyriwr yn meithrin y sgiliau sylfaenol sy'n ofynnol i bob gwyddonydd biofoleciwlaidd. Mae sgiliau cyflogadwyedd yn thema yn y rhan fwyaf o fodiwlau. 

Mae graddedigion gwyddor biofoleciwlaidd yn mynd ymlaen i ystod o gyrchfannau posibl i raddedigion, gan gynnwys:  

  • Y sector meddygol a gwyddorau bywyd – er enghraifft ym maes ymchwil, gwerthu a marchnata i gwmnïau fferyllol, technegwyr labordai. 
  • Ymchwil feddygol a gwyddorau bywyd – er enghraifft, fel myfyriwr PhD neu dechnegydd yn y byd academaidd neu yn y sector ymchwil nid-er-elw. 
  • Rheoleiddio meddygol a gwyddorau bywyd e.e. Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, Asiantaeth Safonau Bwyd. 
  • Cymhwyster fel gweithiwr iechyd proffesiynol (ar ôl astudiaeth bellach), er enghraifft, meddygaeth i raddedigion, cymdeithion meddygol, milfeddygol neu ddeintyddol. 
  • Cymhwyster fel gweithiwr proffesiynol ym maes y gyfraith (ar ôl astudiaeth bellach), y gyfraith i raddedigion (yn enwedig eiddo deallusol, patentau). 
  • Addysgu gwyddoniaeth a thechnoleg mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach (ar ôl astudiaeth bellach). 
  • Gyrfaoedd drwy gyrsiau trosi perthnasol gan gynnwys y gyfraith a chyllid

Felly, bydd ystod eang o yrfaoedd ar agor i raddedigion y rhaglen gan fod galw mawr am eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u cymwyseddau. Bydd ein graddedigion hefyd wedi cael cyfleoedd unigryw i rwydweithio ag academyddion, ymchwilwyr, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sefydledig fel rhan o'u modiwlau, prosiectau blwyddyn olaf, lleoliadau gwaith a/neu interniaethau, a allai hefyd agor nifer o gyfleoedd gyrfa amhrisiadwy iddynt.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Geneteg Feddygol, BSc (Anrh)

Geneteg Feddygol, MSci (Anrh)

Geneteg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Geneteg Feddygol gyda Blwyddyn ar Leoliad, BSc (Anrh)

Medical Genetics with a Foundation Year, MSci (Anrh)

Medical Genetics with a Foundation Year, MSci (Anrh)

Medical Genetics with a Year Abroad, MSci (Anrh)

Medical Genetics with a Foundation Year, MSci (Anrh)

Medical Genetics with a Placement Year, MSci (Anrh)

Medical Genetics with a Foundation Year and Placement Year, BSc (Anrh)

Geneteg Feddygol gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Geneteg Feddygol gyda Blwyddyn Sylfaen ac gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Medical Genetics with a Year Abroad, MSci (Anrh)

Medical Genetics with a Placement Year, MSci (Anrh)

Medical Genetics with a Foundation Year and Placement Year, BSc (Anrh)