Paratoi ar gyfer y Brifysgol

Rydym yn ymgysylltu â myfyrwyr, ysgolion a cholegau ar draws y DU a thu hwnt, gan drefnu amrywiaeth o weithgareddau a gweithdai yn y cnawd ac ar-lein, er mwyn helpu myfyrwyr i ddysgu mwy am opsiynau astudio, disgwyliadau gyrfa a bywyd yn y brifysgol.

Rydym yn cefnogi myfyrwyr yn llawn drwy gydol camau pwysig eu taith addysg; er mwyn cyrraedd eu potensial llawn ar lefel gradd a gwireddu pob llwyddiant yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Deall eich maes pwnc

Ewch i’n meysydd pwnc isod er mwyn dysgu rhagor am ein cyrsiau, am gyfleoedd gyrfaoedd ac am y profiad fel myfyriwr, yn ogystal â rhestrau darllen a argymhellir a blas ar ddarlithoedd yn y pwnc, er mwyn eich paratoi ar gyfer y brifysgol.

Fideos weminar ar gais

Mynnwch gip ar ein cyfres o weminarau wedi’u recordio. Byddan nhw’n eich helpu chi i wybod mwy am beth i’w ddisgwyl am fywyd prifysgol a sut i baratoi amdano. Yn y weminarau rydyn ni’n helpu i ateb rhai o’r cwestiynau posibl fydd gennych chi am y brifysgol ar hyn o bryd.

  • 10 peth y gallech eu gwneud nawr i baratoi ar gyfer y brifysgol
  • Yr ysgol yn erbyn y brifysgol: Beth yw’r prif wahaniaethau?