Beth yw Rheoli Busnes?

Ydych chi’n dychmygu’ch hunan mewn swydd allweddol mewn cwmni sydd â brand llwyddiannus? Ydych chi’n chwilio am radd y bydd yn eich gwneud yn fwy amlwg yn y dorf, gyda’r sgiliau arloesol er mwyn rheoli busnes byd-eang, cenedlaethol neu leol?

Bydd pob un o’n graddau Rheoli Busnes Israddedig ac Ôl-raddedig yn darparu ystod o addysgu arbenigol ym maes marchnata, rheoli gweithrediadau, cyllid, cyfrifeg, strategaeth a rheoli adnoddau dynol, yn ogystal â modiwlau arbenigol dewisol.

Os ydych chi am fod yr arweinydd busnes byd-eang nesaf, mae ein hystod amrywiol o raddau ar eich cyfer chi.

Pam Dewis Abertawe?

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd. Mae gan ein Tîm Cyflogadwyedd neilltuol enw da iawn am lansio gyrfaoedd llwyddiannus - o weithdai LinkedIn i ddigwyddiadau rhwydweithio, mentora a mwy, byddant yn sicrhau eich bod yn barod i ddechrau’ch gyrfa ar ôl graddio.

Arbenigedd Addysgu. Byddwch yn cael eich addysgu gan ymchwilwyr o’r radd flaenaf sy’n arwain yn eu meysydd. 

Ystod eang o fodiwlau. O Reoli Adnoddau Dynol Rhyngwladol i Farchnata, Ymgynghoriaeth Rheoli a Thwristiaeth Gynaliadwy - rydym yn cynnig ystod eang o fodiwlau ichi, sy’n golygu y byddwch wir yn gallu teilwra’ch gradd i’ch cryfderau a’ch diddordebau.

Pa Opsiynau Sydd ar Gyfer Gyrfaoedd i Raddedigion?

Ar ôl ennill gradd mewn Rheoli Busnes o Abertawe, byddwch mewn sefyllfa wych er mwyn sicrhau cyflogaeth werthfawr mewn unrhyw fusnes.

Os ydych chi’n targedu Shell UK, Marks & Spencer, Bloomberg neu Tata, bydd ein graddau’n eich gwneud chi’n ymgeisydd cryf ar gyfer darpar gyflogwr.

Gallech gael gyrfa fel Rheolwr Datblygu Busnes, Dadansoddwr neu Ymchwilydd, Entrepreneur, Partner Busnes Adnoddau Dynol, Ymgynghorydd Rheoli – mae’r cyfleoedd yn ddi-baid. 

Dysgwch am y gefnogaeth yrfaol sydd ar gael ichi.

Beth Mae Myfyrwyr Presennol Yn Ei Feddwl?

myfyriwr yn gwenu

"Mae’r cwrs wedi’i strwythuro er mwyn lledaenu’r baich gwaith yn gyfartal drwy gydol y flwyddyn, gyda chyfuniad da o waith cwrs er mwyn datblygu a phrofi sgiliau ymarferol, ac arholiadau er mwyn sicrhau dealltwriaeth ddamcaniaethol gadarn yn y pwnc."
- Sakshi Jain; BSc mewn Rheoli Busnes (Cyllid) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Gweler Ein Haddysgu Ar Waith

Cyflwyniad i’r modiwl Rheoli Pobl gan Reoli Busnes

Gwrandewch ar yr Athro Geraint Harvey, Cyfarwyddwr y Ganolfan Pobl a Sefydliadau, wrth iddo roi blas ar y testunau sy’n cael eu cynnwys yn ein modiwl Rheoli Pobl.

Ystyriwch amrywiaeth o faterion gan gynnwys cysylltiadau cyflogaeth, cysylltiadau diwydiannol, rheoli adnoddau dynol a’r ffordd y mae rheolwyr wedi datblygu amrywiaeth o strategaethau sy’n ymdrin â rheoli pobl.

Deunydd I’ch Helpu I Baratoi Ar Gyfer Eich Gradd

Beth Yw Eich Opsiynau Ynghylch Cyrsiau?

Ein Hopsiynau Astudio Hyblyg

  

Bydd gennych ryddid i newid rhwng unrhyw arbenigedd Rheoli Busnes hyd nes ichi ddechrau’ch ail flwyddyn.

Ar gyfer myfyrwyr is-raddedig y Deyrnas Unedig rydyn ni’n cynnig yr opsiwn i wneud Blwyddyn Sylfaen gyda phob un o’n cyrsiau gradd rheoli busnes. 

Mae’r rhain yn ddewis sy’n dod yn fwy poblogaidd oherwydd eu bod yn cynnig:

  • Dosbarthiadau llaiâ chefnogaeth fwy personol;
  • cymorth ychwanegolgan gynnwys Mathemateg, ysgrifennu traethodau a gwaith grŵp;
  • a byddwch yn ennill sail gadarn mewn cyfrifeg, cyllid, ystadegau, strategaeth ac arbenigeddau rheolaeth.


Gall myfyrwyr rhyngwladol israddedig
ymgeisio am ein Llwybr Busnes Israddedig. Hefyd rydym yn cynnig ystod o hyfforddiant Saesneg er mwyn eich cefnogi a’ch paratoi ar gyfer eich astudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

Cysylltiadau Cyflym

Darganfod ein campws drosoch chi eich hunan