Eich Blwyddyn Sylfaen gyda ni

Byddwch yn astudio eich Blwyddyn Sylfaen yn Y Coleg, Prifysgol Abertawe, sef adeilad arloesol sydd wedi'i leoli ar lan y môr wrth ochr yr Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae. Ar ôl cwblhau'r flwyddyn gychwynnol hon yn llwyddiannus, byddwch yn symud i adeilad yr Ysgol Reolaeth i ymuno â'n myfyrwyr mynediad uniongyrchol ym Mlwyddyn 1.

Nid cymhwyster ar ei ben ei hun yw'r Flwyddyn Sylfaen ond, yn hytrach, eich blwyddyn gyntaf o bedair yn y Brifysgol.

Dr Stephen Pratt

male smiling

"Mae manteision cwblhau eich Blwyddyn Sylfaen yn Y Coleg yn ddiddiwedd. Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau arbenigol sydd wedi'u cynllunio i roi cyflwyniad gwych i chi ar egwyddorion rheoli, cyn i chi fwrw ymlaen â gweddill eich cwrs gradd yn yr Ysgol Reolaeth. 

“Mae'r Coleg yn addysgu myfyrwyr mewn grwpiau llai, gan ddilyn athroniaeth gefnogol sydd wedi'i theilwra'n bersonol ac a fydd yn eich annog i wireddu eich potensial academaidd llawn, mewn amgylchedd arloesol. Ein nod yw sicrhau eich bod yn cael y canlyniadau gorau posibl pan fyddwch yn cwblhau eich cwrs gradd israddedig.”
Dr Stephen Pratt, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn Y Coleg, Prifysgol Abertawe.

Llety i fyfyrwyr Blwyddyn Sylfaen

Arhoswch yn ein hystafelloedd en-suite o safon uchel. Bydd gennych ddewis o ystafelloedd safonol (gwelyau 120cm) neu ystafelloedd premiwm (gwelyau 140cm), yn ogystal â chadair ychwanegol a mwy o le.

Gallwch wneud cais gan ddefnyddio'r ddolen isod.

Sylwer bod ystafelloedd premiwm yn amodol ar argaeledd, ac maen nhw'n llenwi'n gyflym!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r llety, anfonwch e-bost atom.

Gwnewch gais am lety nawr

Myfyriwr rhyngwladol?

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, ewch i dudalennau Y Coleg, Prifysgol Abertawe i gael rhagor o wybodaeth am ein dewisiadau blwyddyn sylfaen.

Cyfleoedd I Fyfyrwyr

yn yr Ysgol Reolaeth

group of students on the beach smiling