Oes gennych ddiddordeb mewn astudio Rheoli Busnes? Ydych chi’n hoffi’r olwg sydd ar ddisgyblaethau sy’n gysylltiedig â Marchnata neu Dwristiaeth?

Rydym wedi llunio’r rhestr ddarllen ac adnoddau isod yr ydym yn eu hawgrymu er mwyn cael blas ar ychydig o’r deunydd y byddwch yn ei ddefnyddio drwy gydol eich gradd israddedig ac er mwyn helpu i’ch rhoi ar y blaen ar gyfer eich semester cyntaf yn yr Ysgol Reolaeth.

Pam Dylwn Ddarllen Y Rhain?

Trwy fynd i’r afael â’r adnoddau hyn, byddwch yn:

  • Ymgyfarwyddo â’r derminoleg a ddefnyddir yn eich gradd cyn ichi ddechrau gyda ni.
  • Gwella’ch dealltwriaeth o amrywiaeth o ymarferion damcaniaethol sy’n gysylltiedig â rheoli a marchnata.
  • Dechrau dysgu beth sydd o ddiddordeb i chi, a fydd yn ddefnyddiol wrth feddwl am gyfeiriad eich gyrfa yn y dyfodol.

Os nad ydych eto wedi ymgeisio am eich gradd gyda ni, gellir cyfuno’n deunydd darllen â’ch gwaith darllen eich hun er mwyn eich helpu i ysgrifennu datganiad personol cryf, â mwy o ddealltwriaeth ynghylch y cwrs a’r cyfeiriadau.

Rhestr Ddarllen Ac Adnoddau Ar-Lein

Nid yw hon yn rhestr gyflawn o bopeth y byddwch yn ei astudio, ond yn gyfle i ddechrau datblygu a deall pa destunau fydd o ddiddordeb ichi.

Byddwch yn gweld llyfrau sy’n gysylltiedig â rhai o fodiwlau allweddol y flwyddyn gyntaf, sy’n rhoi ichi sail ehangach yn eich pwnc er mwyn eich galluogi i weld sut mae’n berthnasol i faterion cyfredol yn y byd go-iawn.

Fideos I Flasu’r Pwnc

Dysgwch ragor am reoli busnes, marchnata a thwristiaeth ym Mhrifysgol Abertawe drwy wylio ein fideos i flasu’r pwnc -

Marchnata Cymdeithasol

A Ddylem Ni I Gyd Beidio  Chymryd Gwyliau?

Beth Yw Hrm A Pham Mae’n Bwysig Nawr?

Beth Yw Twristiaeth Dywyll?

O Reolaeth I Fasnacheiddio

Eisiau Rhagor O Wybodaeth I’ch Helpu I Baratoi Ar Gyfer Y Brifysgol?