Edrychwch ar ein cyfres o weminarau isod y byddant yn eich helpu i baratoi ar gyfer y Brifysgol a gobeithio byddant yn helpu i ateb rhai o’r cwestiynau sydd gennych am ddechrau yn y brifysgol, bywyd fel myfyriwr a rhagolygon graddedigon.
Sesiynau Rhithwir er mwyn eich paratoi chi ar gyfer y Brifysgol gan yr Ysgol Reolaeth

Gwyliwch ein fideos o’r sesiynau pwnc
10 peth y gallech ei wneud nawr i baratoi ar gyfer y brifysgol
Efallai bod y Coronafeirws wedi gohirio popeth yn ein bywydau, ond bydd yn dod i ben heb os – a byddwch yn cyrraedd y brifysgol!
Gwrandewch ar aelod o staff sy’n recriwtio myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe a myfyriwr presennol o’r Ysgol Reolaeth, sydd hefyd yn Fyfyriwr Llysgennad, yn trafod yr hyn y gallech ei wneud nawr i baratoi ar gyfer bywyd yn y Brifysgol a’r hyn i edrych ymlaen ato.
Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd: Peidiwch â gadael i’r Coronafeirws gyfyngu ar eich uchelgeisiau!
Meddwl am swydd eich breuddwydion? Chwilio am ysbrydoliaeth am yrfa?
Dysgwch am yr hyn y gallech ei wneud – a sut bydd y brifysgol yn helpu – i hybu’ch gyrfa, hyd yn oed yn ystod yr adegau ansicr hyn.
Yr Ysgol yn erbyn y Brifysgol: Beth yw’r prif wahaniaethau?
Sut beth yw astudio yn y brifysgol? Beth yw darlithoedd a beth yw seminarau? Sut mae arholiadau’n cael eu trefnu? Ydy hi’n wahanol iawn i’r ysgol neu’r coleg?
Darganfyddwch yr atebion wrth i’n staff drafod hyn â myfyrwyr presennol o’r Ysgol Reolaeth.
Dysgu wrth Ynysu: Sut i aros yn weithgar fel myfyriwr
Dyma adeg heriol iawn inni i gyd, ond mae digon y gallwn ei wneud er mwyn ysgogi’n hunain a chanolbwyntio ar ein hastudiaethau!
Yn y gweminar hwn cewch wrando ar ddau fyfyriwr presennol wrth iddynt rannu’u profiadau o drefnu’u hastudiaethau ac ysgogi’u hunain yn ystod y cyfnod ynysu.