Dewch i gwrdd â’n myfyrwyr a’n staff er mwyn derbyn y mewnwelediadau diweddaraf i gyrsiau, cynnwys, gyrfaoedd yn y dyfodol, a bywyd fel myfyriwr.
Cyfrifyddu a Chyllid: Mwy na chrensio rhifau yn unig
Yn y weminar hwn, bydd yn trafod ein modiwlau craidd a’r cyfleoedd achredu fydd yn helpu i osod eich gyrfa yn y lôn gyflym, byddwch chi’n dysgu hefyd am y gyrfaoedd gwahanol sydd ar gael i raddedigion. Os ydych chi eisiau bod yn Gyfrifydd Fforensig, yn Ymgynghorydd Buddsoddiadau neu’n Ddadansoddwr Ariannol … bydd gyda chi’r set o sgiliau y mae galw mawr amdani i lwyddo ym mha lwybr bynnag y byddwch chi’n ei ddewis!
Sut gall gradd mewn Rheoli Busnes agor drysau i chi?
Dewch i ganfod mwy am ein graddau gwahanol ym maes busnes, yr amrywiaeth o fodiwlau y gallwch eu hastudio a sut i wneud y gorau o’ch cyflogadwyedd drwy weithio gyda busnesau go iawn mewn prosiectau diwydiant drwy gydol eich gradd.
Astudiwch Farchnata: Eich llwybr at yrfa amrywiol iawn
Gan gynnwys modiwlau craidd a chyfleoedd a fydd yn gwella’ch cyflogadwyedd, dewch aton ni i ddarganfod y gwahanol yrfaoedd y gall gradd mewn Marchnata eu cynnig ichi, gan gynnwys rolau mewn marchnata digidol, y cyfryngau cymdeithasol, cysylltiadau cyhoeddus a hysbysebu, i enwi ond ychydig.
Astudio Twristiaeth: Byddwch yn rhan o’r ateb cynaliadwy
Yn Abertawe, rydyn ni eisiau eich helpu i ddyfnhau’r set o sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer llwyddiant yn y sector amryfath hwn sy’n tyfu’n gyflym. Nid yn unig y byddwch chi’n darganfod mwy am fodiwlau craidd a chyfleoedd i wella eich gyrfa, dewch gyda ni hefyd i ganfod mwy am y gwahanol lwybrau sydd ar gael i raddedigion ym maes Twristiaeth. Ymhlith y rhain mae Marchnata Twristiaeth, Cysylltiadau Cyhoeddus a Rheoli Cyrchfannau.
Blwyddyn Sylfaen yr Ysgol Reolaeth: Popeth mae ei angen arnoch i lwyddo!
Ar ein Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau arbenigol a luniwyd i roi sylfaen ragorol i chi mewn egwyddorion rheoli a byddwch chi’n manteisio ar ddosbarthiadau llai ac ymagwedd addysgu fwy personol. Dewch i ddysgu sut y gall eich gradd Blwyddyn Sylfaen yn Ysgol Reolaeth Abertawe eich helpu i ragori.
Cysylltwch â’r Ysgol Reolaeth
Yr Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe Campws y Bae Ffordd Fabian Abertawe SA1 8EN studysom@abertawe.ac.uk