Beth yw Cyfrifeg a Chyllid?

Malu rhifau. Dadansoddi gwybodaeth. Trin data. Dyma ychydig o’r agweddau efallai y bydd gweithwyr proffesiynol ym maes Cyfrifyddu a Chyllid yn magu arbenigedd ynddynt. Er hynny, bydd y dyletswyddau yn cwmpasu llawer mwy na’r rheoli cyllid arferol mewn sefydliad. Mae’r proffesiwn yn angenrheidiol wrth reoli cyllid mewn sefydliad, ond hefyd, mae’n rhoi’r ymennydd strategol sy’n gefn i’r gwaith bob dydd.

Byddwch yn dysgu am ddamcaniaeth economeg wedi’i chyfuno ag elfennau mathemategol ac ystadegol. Byddwn yn adeiladu’ch gallu i ddadansoddi, eich gwybodaeth a thechnegau i’ch paratoi ar gyfer gyrfa mewn unrhyw ddiwydiant, gan gyffwrdd â phob agwedd ar fusnes o dueddiadau busnes macro i gadwyni cyflenwi.

Pam Dewis Abertawe?

Defnydd yn y byd go-iawn. Rydym yn ystyried tueddiadau yn y farchnad, gan gynnig modiwlau mewn Cyfrifyddu SAGE er mwyn hybu’ch sgiliau a thrwy ddefnyddio VAR er mwyn cwblhau archwiliadau byw i gwmnïau.

Perfformio’n Uchel ac Anrhydeddau. Rydyn ni’n 12fed yn y Deyrnas Unedig  ar gyfer Rhagolygon – Canlyniadau i Raddedigion (Complete University Guide 2022) ac mae ein graddedigion blaenorol wedi sicrhau swyddi gyda chwmnïau megis Deutsche Bank, Deloitte a Linklaters. 

Arbenigedd Addysgu. Byddwch yn cael eich addysgu gan ymchwilwyr o’r radd flaenaf sy’n arwain yn eu meysydd.

Pa Opsiynau Sydd ar Gyfer Gyrfaoedd i Raddedigion?

Bydd graddedigion mewn Cyfrifeg a Chyllid o Abertawe yn barod am gyfleoedd cyflogaeth sy’n talu’n dda ac yn herio’r meddwl, a bydd drysau’n agor i nifer fawr o opsiynau gyrfaol amrywiol.

Os hoffech weithio i sefydliadau amlwladol neu i fusnesau bach a chanolig, gallech fod yn derbyn un o’r swyddi canlynol: Cyfrifydd Siartredig, Dadansoddwr Ariannol, Masnachwr, Bancwr neu Reolwr Buddsoddi, Archwilydd neu arbenigwr trethi.

Dysgwch am y gefnogaeth yrfaol sydd ar gael ichi.

Beth mae Myfyrwyr Presennol yn ei Feddwl?

myfyriwr benywaidd yn gwenu

"Rwyf wrth fy modd â hyblygrwydd y modiwlau. Mae’r flwyddyn gyntaf yn gyffredin i bob myfyriwr cyllid, gan roi ichi sail yn y pwnc, ond mae amrywiaeth y modiwlau yn yr ail flwyddyn wir yn gallu eich helpu i arbenigo yn y maes sydd o’r diddordeb mwyaf ichi. Rwyf yn teimlo bod y cwrs yn rhoi imi’r sgiliau a’r wybodaeth y bydd arnaf eu hangen yn y dyfodol."
- Natasha Mawera; BSc mewn Cyllid gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Gweler ein Haddysgu ar Waith

Cyflwyniad i Gyfrifeg

Dysgwch ragor am gyfrifeg gyda chyflwyniad i’r pwnc gan Dr Jafar Ojra, Uwch-ddarlithydd mewn Cyfrifeg.

Ystyriwch bedair ymagwedd allweddol ar gyfrifeg, gan gynnwys cyfrifyddu ariannol, cyfrifyddu rheoli, archwilio a threthiant.

Deunydd i’ch Helpu i Baratoi ar Gyfer eich Gradd

Beth yw eich Opsiynau Ynghylch Cyrsiau?

Ein Hopsiynau Astudio Hyblyg

  

Mae ein cyrsiau’n cael eu llunio er mwyn hwyluso hyblygrwydd, er mwyn ichi fedru teilwra’ch modiwlau, ac yn y pen draw eich gradd, i gyd-fynd â’r uchelgeisiau rydych yn eu datblygu ynghylch eich gyrfa.

Ar gyfer myfyrwyr is-raddedig y Deyrnas Unedig rydyn ni’n cynnig yr opsiwn i wneud Blwyddyn Sylfaen gyda phob un o’n cyrsiau gradd cyfrifeg a chyllid. 

Mae’r rhain yn ddewis sy’n dod yn fwy poblogaidd oherwydd eu bod yn cynnig:

  • Dosbarthiadau llaiâ chefnogaeth fwy personol;
  • cymorth ychwanegol gan gynnwys Mathemateg, ysgrifennu traethodau a gwaith grŵp;
  • a byddwch yn ennill sail gadarn mewn cyfrifeg, cyllid, ystadegau, strategaeth ac arbenigeddau rheolaeth.


Mae myfyrwyr rhyngwladol israddedig
 yn gallu ymgeisio am ein Llwybr Cyfrifeg a Chyllid Israddedig. Hefyd rydym yn cynnig ystod o hyfforddiant Saesneg er mwyn eich cefnogi a’ch paratoi ar gyfer eich astudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

Cysylltiadau Cyflym

Darganfod ein campws drosoch chi eich hunan