Ydych chi’n awyddus i astudio Cyfrifeg a/neu Gyllid?

Rydym wedi llunio’r rhestr ddarllen ac adnoddau isod yr ydym yn eu hawgrymu er mwyn cael blas ar ychydig o’r deunydd y byddwch yn ei ddefnyddio drwy gydol eich gradd israddedig ac er mwyn helpu i’ch rhoi ar y blaen ar gyfer eich semester cyntaf yn yr Ysgol Reolaeth.

Pam dylwn ddarllen y rhain?

Trwy fynd i’r afael â’r adnoddau hyn, byddwch yn:

  • Gwella’ch dealltwriaeth o arferion cyfrifeg a chyllid gwahanol er mwyn eich helpu i ddod i wybod yr hyn sydd o ddiddordeb ichi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
  • Datblygu dealltwriaeth o’r derminoleg a ddefnyddir yn eich gradd cyn ichi ddechrau gyda ni.
  • Magu dealltwriaeth o’r mathau o bynciau a deunydd y bydd eich gradd yn eu cynnwys.

Os ydych eto heb ymgeisio am eich gradd gyda ni, gellir cyfuno’n deunydd darllen â’ch gwaith darllen eich hun er mwyn eich helpu i ysgrifennu datganiad personol cryf, â mwy o ddealltwriaeth ynghylch y cwrs a’r cyfeiriadau.

Rhestr ddarllen ac adnoddau ar-lein

Nid yw hon yn rhestr gyflawn o bopeth y byddwch yn ei astudio, ond yn gyfle i ddechrau datblygu a deall pa destunau fydd o ddiddordeb ichi.

Byddwch yn gweld llyfrau sy’n gysylltiedig â rhai o fodiwlau allweddol y flwyddyn gyntaf, sy’n rhoi ichi sail ehangach yn eich pwnc er mwyn eich galluogi i weld sut mae’n berthnasol i faterion cyfredol yn y byd go-iawn.

Fideos i flasu’r pwnc

Dysgwch ragor am gyfrifeg a chyllid ym Mhrifysgol Abertawe drwy wylio ein fideos i flasu’r pwnc -

Cysyniadau sylfaenol systemau ariannol

Cyflwyniad i gyfrifeg

Eisiau rhagor o wybodaeth i’ch helpu i baratoi ar gyfer y brifysgol?