Rydym oll yn gwybod bod bragdai'n cynhyrchu cwrw gwych - ond ydych chi erioed wedi meddwl am ôl troed carbon pob peint? A sut gallent helpu i'w leihau?
Mae Bragdy Bluestone, busnes lleol sy'n cael ei reoli gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth ag ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, am gymryd yr her hon drwy brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Y Nod? Dal carbon deuocsid o'r broses fragu, defnyddio algâu i droi gwastraff yn rhywbeth gwerthfawr a helpu i fynd i'r afael â nodi Net Sero Cymru 2050.
Gwyddoniaeth Yn Cwrdd  Chwrw
Mae pob proses eplesu'n rhyddhau carbon deuocsid, sydd fel arfer yn dianc i'r atmosffer. Mae'r prosiect hwn yn ei ddal ac yn peipio'r nwy hwnnw o fragdy Bluestone i dwnelau polythen gerllaw lle mae'n tanio twf microalgâu. Y tu mewn i ffotobioadweithydd 400 litr a thanc sy'n dal miloedd o litrau o ddŵr, caiff amgylchedd perffaith ei greu ar gyfer spirulina - algâu glas-wyrdd sy'n ffynnu ar garbon.
Wrth i'r carbon deuocsid fyrlymu drwyddo, mae'r microalgâu'n tyfu organebau bach fel planhigion sy'n defnyddio carbon i danio ffotosynthesis. Mae'r broses naturiol hon yn trawsnewid nwy gwastraff yn rhywbeth defnyddiol a allai gael ei ddefnyddio am fwyd, iechyd a hyd yn oed cynhyrchion fferyllol. Dyma le mae gwyddoniaeth yn cwrdd â chwrw, ac mae cynaliadwyedd yn troi'n rhywbeth cyffrous.
Mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe'n monitro'r system yn ddyddiol, gan brofi straeniau gwahanol ac anfon samplau i'w dadansoddi. Mae meithriniadau crynodedig sy'n cael eu cynaeafu o garbon deuocsid Bluestone bellach yn cael eu hastudio am gyfansoddion unigryw gyda chymwysiadau masnachol posib.
Bragu ateb I Her Yr Hinsawdd
Bragu yw un o'r diwydiannau bwyd-amaeth mwyaf, ac mae ei allyriadau carbon yn ychwanegu at her yr hinsawdd. Mae'r prosiect hwn yn dangos sut gall busnesau lleol a phrifysgolion gydweithio i dorri allyriadau a chreu cyfleoedd newydd. Mae'n ymagwedd ymarferol sy'n gallu ehangu'n gyflym sy'n cefnogi cynllun Sero Net Cymru 2050 ac yn dangos sut gall arloesedd ysgogi newid mewn diwydiannau pob dydd. I Bluestone, mae'r manteision yn rhagori ar gynaliadwyedd:
- Cydnabyddiaeth - Enillodd y bragdy Wobr Busnes Cynaliadwy, gyda'r prosiect hwn yn ganolog i'w lwyddiant.
- Gwelededd - Wedi'i gynnwys mewn cylchgronau a phodlediadau diwydiant, mae Bluestone wedi denu diddordeb gan gwsmeriaid a bragdai eraill
- Gwerthiannau - mae ymwelwyr â'r bar cwrw'n awyddus i ddysgu am y prosiect, gan roi stori unigryw i Bluestone ei hadrodd yn ogystal â'i gwrw.
Beth Nesaf?
Mae'r cynllun peilot wedi ennyn diddordeb bragdai mwy, gan gynnwys bragdy lleol arall, Bragdy Gower, sy'n archwilio systemau tebyg ar raddfa fwy. Nod Prifysgol Abertawe yw ehangu'r ymchwil, parhau i brofi prosesau'n barhaus a throi biomas algâu'n gynhyrchion gwerthfawr ar gyfer bwyd, bwyd anifeiliaid, colur a nwyddau fferyllol. Bydd Bluestone yn parhau i gael cyswllt agos, gan wthio am ddim gwastraff ac arwain y ffordd mewn bragu cynaliadwy.
Mae'r cydweithrediad hwn yn fwy nag arbrawf gwyddonol, mae'n fodel ar gyfer cynllun Sero Net Cymru 2050 ac yn lasbrint ar gyfer busnesau gwyrddach.
Gweithio Gyda Phrifysgol Abertawe
Mae prifysgol Abertawe'n gweithio gyda busnesau i leihau allyriadau carbon ac archwilio cynnyrch cynaliadwy newydd. Mae ein harbenigedd yn cynnwys asesiadau CO2, treialon ar raddfa beilot a dylunio systemau sy'n gweithredu mewn lleoliadau diwydiannol go iawn.
Gall bragdai a chynhyrchwyr bwyd a diod sydd eisiau cryfhau eu nodau cynaliadwyedd - neu archwilio llwybrau gwerth newydd - gydweithio â ni drwy brosiectau a ariennir, astudiaethau dichonoldeb neu bartneriaethau arloesi. Mae'n ffordd ymarferol o leihau carbon wrth gefnogi twf busnes hirdymor.