Ymarfer y Gyfraith Proffesiynol, LLM

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Students working together in the Richard Price Atrium

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe yn gwrs proffesiynol ar gyfer graddedigion y gyfraith a luniwyd yn unol â gofynion Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr 1 a 2 (SQE1 a 2).

Bydd astudio ar gyfer LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol yn Abertawe'n rhoi i chi'r wybodaeth graidd a'r sgiliau cyfreithiol ymarferol sy'n hanfodol wrth baratoi graddedigion y gyfraith sy'n awyddus i gymhwyso fel Cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr drwy'r Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE).

Trwy gyfuniad o ddysgu damcaniaethol a sgiliau ymarferol, byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddilyn gyrfa lwyddiannus yn y proffesiwn cyfreithiol.

Ochr yn ochr â pharatoi ar gyfer yr SQE1 a 2, byddwch hefyd wedi paratoi'n briodol ar gyrfa mewn ymarfer. Dan arweiniad ein hacademyddion arbenigol, byddwch yn meithrin proffil deniadol a chydnabyddedig ar gyfer cyflogwyr posib.

Mae'r LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol yn Abertawe'n cynnig y cyfle i chi ennill dyfarniad Meistr, meithrin gwybodaeth a sgiliau cyfreithiol, ac yn eich paratoi ar gyfer bywyd llwyddiannus mewn ymarfer cyfreithiol.

Ar gyfer graddedigion nad oes ganddynt radd yn y gyfraith sy'n awyddus i ddilyn llwybr pontio i'ch paratoi ar gyfer yr SQE1, mae ein LLM yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol yn cynnig y cam cyntaf delfrydol tuag at gymhwyso.

Pam Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe?

Fel myfyriwr LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol, byddwch yn ymuno â chymuned ôl-raddedig ffyniannus ac amgylchedd academaidd bywiog, yn ein Hysgol y Gyfraith o fri rhyngwladol.

Mae Ysgol y Gyfraith yn cael ei chydnabod fel ffynhonnell arbenigedd, ac fel un sy'n cael effaith ar ystod amrywiol o feysydd ymarfer. Mae ein Hysgol yn llwyr ymrwymedig i wella dysgu ac addysgu'n barhaus, gan flaenoriaethu myfyrwyr yn ein gweithgareddau a chynnig profiad neilltuol iddynt.

Fe'ch goruchwylir gan academyddion ac ymarferwyr cymwysedig sydd â phrofiad helaeth o'r byd go iawn, sydd mewn sefyllfa ddelfrydol i roi arweiniad a chymorth parhaus.

Byddwch hefyd yn cael nifer o gyfleoedd i ymgysylltu â'n Clinig y Gyfraith, lle gallwch gynnig cyngor i gleientiaid dan oruchwyliaeth.

Ynglŷn â'r Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)

Yr Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yw'r llwybr canolog at gymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Wedi'u cyflwyno yn 2021, maent yn disodli llwybrau cymhwyso blaenorol.

I gymhwyso, mae'n rhaid i'r holl ymgeiswyr gwblhau:

  • SQE1 - profi gwybodaeth gyfreithiol
  • SQE2 - profi sgiliau cyfreithiol ymarferol (megis cyfweld, eiriolaeth ac ysgrifennu cyfreithiol)
  • Profiad Gwaith Cymhwyso (QWE) - profiad ymarferol i'w gwblhau mewn un neu fwy o leoliadau cyfreithiol

Nod yr SQE yw sicrhau llwybr teg a chyson at gymhwyso i bawb, ni waeth beth yw eu cefndir neu eu profiad blaenorol o astudio'r gyfraith.

Bydd y cwrs LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol yn eich cefnogi i feithrin yr wybodaeth sylfaenol a'r sgiliau ymarferol sy'n angenrheidiol i weithio tuag at asesiadau'r SQE a pharatoi ar gyfer gyrfa ym maes ymarfer y gyfraith.

Yn y pen draw, bydd yr Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr yn disodli'r llwybrau presennol i ymarfer yn y maes. Os ydych chi eisoes wedi dechrau neu wedi derbyn lle ar GDL neu LLB ar 1 Medi 2021, mae trefniadau pontio ar waith er mwyn i chi gymhwyso drwy'r llwybr Cwrs Ymarfer Cyfreithiol tan 2032*.

*Rhaid bod ymgeiswyr wedi derbyn cynnig am le ar GDL erbyn 31/8/21, neu am LLB erbyn 30/9/21 i gadw'r hawl i gymhwyso drwy'r Cwrs Ymarfer Cyfreithiol.

Cewch fanylion llawn y llwybrau i gymhwyso fel cyfreithiwr drwy fynd i wefan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.

Nid yw asesiadau'r SQE yn rhan o'r rhaglen ei hun ac nid yw'r gost o ymgymryd ag asesiadau'r SQE wedi'i chynnwys yn ffi'r rhaglen.

Eich Profiad Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol

Mae ein LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol yn cynnig cymuned ac amgylchedd dysgu sy'n gynhwysol ac yn canolbwyntio ar ein myfyrwyr, gan flaenoriaethu eich llwyddiant.

Cyflwynir ein rhaglen mewn dau gam. Yng ngham un, byddwch yn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o’r meysydd ymarfer craidd, wrth i gam dau ganolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau cyfreithiol proffesiynol yng nghyd-destun y meysydd ymarfer craidd.

Wrth i chi wneud cynnydd, byddwch hefyd yn ymgymryd â dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, sy'n briodol i'r proffesiwn cyfreithiol, gan ganolbwyntio ar ymchwil a drafftio cyfreithiol.

Byddwch yn meithrin sgiliau llafar ac ysgrifennu ardderchog, gan ddysgu sut i gyflwyno eich syniadau drwy amrywiaeth o fformatau. Byddwch yn meithrin ystwythder beirniadol a'r gallu i feddwl yn ddadansoddol, gan ddod yn fedrus mewn ymchwil gyfreithiol a meddu ar y sgiliau datrys problemau sy'n hanfodol ar gyfer ymarfer y gyfraith.

Mae ein rhaglen yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau asesu, a byddwch yn cael eich annog i ddatblygu sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau cyfathrebu drwy seminarau a gweithdai, yn ogystal â sgiliau rheoli prosiectau a chynnal ymchwil annibynnol fel rhan o'r modiwl dysgu annibynnol. Bydd y sgiliau hyn yn sicrhau y gallwch gystadlu'n llwyddiannus yn y farchnad swyddi.

Bydd gennych fynediad hefyd at ddarlithoedd gwadd gan ymarferwyr ac academyddion o fri a byddwch yn elwa o'n rhwydweithiau proffesiynol sefydledig sy'n cefnogi eich dysgu.

Cyfleoedd Cyflogaeth Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol

Mae ein LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol yn eich paratoi i sefyll arholiadau SQE1 ac SQE2. Ar ôl llwyddo yn yr asesiadau hyn a chwblhau dwy flynedd o brofiad gwaith cymhwysol, byddwch yn gymwys i gymhwyso fel cyfreithiwr.

Ar gyfer graddedigion nad ydynt yn dymuno cwblhau'r SQE1 a'r SQE2, mae ein gradd yn sicrhau bod ganddynt amrediad eang o sgiliau trosglwyddadwy, gan sicrhau eu bod yn barod ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd amgen, gan gynnwys:

  • Cyfreithwyr academaidd
  • Cyfrifyddiaeth
  • Bancio
  • Masnach a busnes
  • Llywodraethu corfforaethol
  • Gwasanaeth Erlyn y Goron
  • Y diwydiant cyllid a bancio
  • Gwasanaeth Cyfreithiol y Llywodraeth
  • Cyhoeddi cyfreithiol
  • Adrannau Ombwdsmon
  • Rheolyddion
  • Trethu

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.