TechGyfreithiol a Chyfraith Fasnachol, LLM

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
students studying in class

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r LLM mewn TechGyfreithiol a Chyfraith Fasnachol yn cynnig addysg arloesol, sy'n canolbwyntio ar y dyfodol ar y croestoriad deinamig rhwng y gyfraith, technoleg a masnach fyd-eang.

Mae'r rhaglen arloesol hon wedi'i chynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol a graddedigion ym maes y gyfraith sy'n ceisio dod yn arweinwyr yn nhrawsnewid digidol y sector cyfreithiol, ac sy'n edrych i lywio'r materion cyfraith fasnachol cymhleth sy'n deillio o economi sy'n cael ei llywio gan dechnoleg.

Byddwch yn cael eich addysgu gan academyddion sy'n arbenigwyr mewn cyfraith fasnachol, a maes cynyddol technoleg gyfreithiol. Mae eich dysgu yn cael ei gyfoethogi ymhellach gan fewnwelediadau gan y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol, gan sicrhau y gallwch adeiladu sylfaen fasnachol gref.

Bydd y rhaglen yn eich arfogi â chymhwysedd deuol, gan gyfuno dealltwriaeth ddofn o egwyddorion cyfraith fasnachol craidd, â'r sgiliau ymarferol i fanteisio ar dechnoleg i ddatrys problemau cyfreithiol a busnes.

Byddwch yn ymgysylltu â phynciau hanfodol fel AI yn y Gyfraith, Blockchain a Chontractau Smart, Llywodraethu Data, Datrys Anghydfodau Digidol, a'r Dirwedd Reoleiddiol Esblygol ar gyfer Technoleg a Masnach.

Wedi graddio, gallwch fod yn weithiwr proffesiynol amlbwrpas, yn hyfedr o ran technoleg ac yn barod ar gyfer llwybrau gyrfa newydd ac sy'n dod i'r amlwg. Byddwch yn barod i ddod yn gyfreithiwr arloesol, yn beiriannydd cyfreithiol, yn dechnolegydd cydymffurfio neu'n ymgynghorydd strategol; rolau sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gwmnïau cyfreithiol blaengar, adrannau cyfreithiol corfforaethol, cwmnïau technoleg, a busnesau newydd ym maes rheoleiddio.

Pam TechCyfreithiol a Chyfraith Fasnachol ym Mhrifysgol Abertawe?

Fel myfyriwr ôl-raddedig yn Ysgol y Gyfraith, byddwch yn rhan o ysgol y gyfraith a gydnabyddir yn fyd-eang, sy'n cynnig amgylchedd academaidd ffyniannus sy'n ymrwymedig i ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil, ac sy'n cynnig profiad eithriadol i fyfyrwyr.

Mae Adran Y Gyfraith yn Abertawe:

  • Yn un o’r 125 o Adrannau Gorau yn y Byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd Times Higher Education yn ôl Pwnc 2026)
  • Ymysg y 101-150 o raglenni gorau o'u bath yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025), a
  • Mae 83.3% o'n hymchwil yn creu effaith sylweddol o ran ei chyrhaeddiad a'i harwyddocâd (REF 2021)

Mae'r modiwl Cymrodeddu Masnachol Rhyngwladol sy'n cael ei gynnig fel rhan o’r radd hon wedi cael ei gydnabod gan Sefydliad Siartredig y Cymrodeddwyr (CIArb). Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr ar raglenni LLM sy'n cwblhau'r modiwl Cymrodeddu Masnachol Rhyngwladol yn llwyddiannus yn Abertawe'n gymwys i gael eu derbyn i lefel Aelod Cysylltiol y Sefydliad.

Eich Profiad TechGyfreithiol a Chyfraith Fasnachol

Mae'r radd LLM hon yn eich paratoi i ddatblygu i fod yn ymarferydd cyfreithiol yr 21ain ganrif drwy feithrin hyfedredd arbenigol a manwl mewn technoleg gyfreithiol a chyfraith fasnachol.

Mae'r cwricwlwm yn archwilio'n feirniadol ddatblygiad a defnydd byd-eang o dechnoleg gyfreithiol, gan ddadansoddi sut mae technolegau yn cael eu dylunio, eu marchnata a'u gweithredu ar draws gwahanol awdurdodaethau. Mae'n cynnwys beirniadaeth ymwybodol o sut y gall algorithmau barhau â rhagfarn, a sut y gall gagendorau digidol eithrio cymunedau sydd ar yr ymylon o'r genhedlaeth nesaf o wasanaethau cyfreithiol. Mae hyn yn sicrhau y gallwch chi, wedi graddio, ddeall dimensiynau technegol, masnachol a chymdeithasol technoleg gyfreithiol.

Mae'r rhaglen yn cynnwys 180 o gredydau astudio, a gyflwynir dros dri semester.

Yn rhan un, y cam a addysgir, byddwch yn astudio 120 credyd o ystod o fodiwlau dewisol arbenigol, ochr yn ochr â modiwlau gorfodol craidd, gan eich galluogi i deilwra eich llwybr astudio. Gallwch gymryd rhan mewn archwiliadau manwl o feysydd fel Deallusrwydd Artiffisial, Masnach Ddigidol a'r Gyfraith, a Chyfraith a Llywodraethiant Corfforaethol Rhyngwladol.

Ar ôl cwblhau rhan un yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i'ch traethawd hir terfynol, lle byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil sylweddol, annibynnol hyd oddeutu 16,000 o eiriau. Mae'r traethawd hir wedi'i strwythuro'n ddau brosiect cyfochrog, pob un â'i gerrig milltir strwythuredig a'i adborth ffurfiannol ei hun, i'ch cefnogi wrth reoli'r ymrwymiad ymchwil mawr hwn drwy roi arweiniad rheolaidd i chi.

Drwy'r strwythur hwn, byddwch yn gallu datblygu rheolaeth ddofn a pharhaus o gysyniadau cyfreithiol cymhleth, ar yr un pryd â hogi eich sgiliau ymchwil, dadansoddol a phroffesiynol uwch sy'n gonglfaen gyrfaoedd llwyddiannus mewn ymarfer cyfreithiol masnachol, ymgynghoriaeth strategol, ac ysgolheictod sy'n creu effaith.

Byddwch yn dysgu gan academyddion sy'n ymchwilwyr gweithredol ac yn arbenigwyr yn y diwydiant, a bydd eich astudiaethau yn cael eu cyfoethogi ymhellach gan:

  • Fewnwelediadau Diwydiannol: Darlithoedd gwadd gan ymarferwyr, cyflafareddwyr a rheoleiddwyr blaenllaw
  • Datblygu Sgiliau Ymarferol: Cymryd rhan mewn cystadlaethau ffug lys barn a gweithdai arbenigol
  • Safbwynt Byd-eang: Cyfleoedd fel ysgolion haf dramor i ehangu eich rhagolygon rhyngwladol Byddwch yn elwa o gymorth astudio cynhwysfawr, gan gynnwys defnyddio llyfrgell y gyfraith, mannau astudio ôl-raddedig pwrpasol, ac arweiniad gan Diwtor Personol a fydd yn eich helpu i lywio heriau a llunio strategaethau ar gyfer llwyddiant.

Cyfleoedd Cyflogaeth TechGyfreithiol a Chyfraith Fasnachol

Mae'r cwrs LLM hwn wedi'i gynllunio'n benodol i greu graddedigion ar gyfer y farchnad swyddi newydd ar y ffin rhwng y gyfraith a thechnoleg, gan fanteisio i'r eithaf ar rwydweithiau a ffocws arloesol Ysgol y Gyfraith. Rydym wedi ymrwymo i wella eich cyflogadwyedd drwy ddigwyddiadau pwrpasol, gan gynnwys ein ffair yrfaoedd LLM flynyddol, sesiynau rhwydweithio unigryw, ac ymweliadau â phractisiau blaenllaw mewn canolfannau allweddol fel Dinas Llundain.

Byddwch yn gallu ymgysylltu â rhaglen gyflogadwyedd ddeinamig sy'n cynnwys:

  • Integreiddio'r Diwydiant: Cysylltiadau uniongyrchol â busnesau technoleg gyfreithiol newydd, timau arloesi mewn cwmnïau cyfreithiol mawr, a thimau gweithrediadau cyfreithiol mewnol sy'n cynnig darlithoedd gwadd, rhwydweithio, a chyfleoedd prosiect byw
  • Portffolio Sgiliau Ymarferol: Mae'r cwricwlwm ymarferol yn eich galluogi i lunio portffolio amlwg o gymwyseddau sy'n ddeniadol iawn i gyflogwyr
  • Llwybrau at Achredu: Cymryd rhan mewn mentrau cyrff proffesiynol ynglŷn â thechnoleg a'r gyfraith, darparu ymwybyddiaeth o gymwysterau sy'n dod i'r amlwg yn y maes
  • Sbarduno Entrepreneuriaeth: Mae'r rhaglen yn meithrin meddylfryd entrepreneuraidd drwy ganolbwyntio ar nodi aneffeithlonrwydd mewn ymarfer cyfreithiol a phrototeipio atebion. Byddwch yn cael eich paratoi i lansio busnesau technoleg gyfreithiol newydd, practisau ymgynghori, neu rolau arloesi mewn sefydliadau presennol, gan sbarduno newid o'r tu mewn

Mae graddedigion yn barod ar gyfer rolau arloesol ar draws y dirwedd gyfreithiol a thechnoleg sy'n esblygu. Mae cyrchfannau nodweddiadol yn cynnwys:

  • Ymarfer Cyfreithiol Arloesol: Fel cyfreithwyr "technolegydd cyfreithiol", cymdeithion arloesi, neu gyfreithwyr gwybodaeth mewn cwmnïau cyfreithiol blaengar
  • Gweithrediadau Cyfreithiol Corfforaethol a Chydymffurfiaeth: Fel arbenigwyr gweithrediadau cyfreithiol mewnol, technolegwyr cydymffurfio, neu ddadansoddwyr rheoli cylch bywyd contractau mewn corfforaethau rhyngwladol
  • Y Diwydiant TechGyfreithiol: Fel rheolwyr cynnyrch, ymgynghorwyr datrysiadau, neu arbenigwyr gweithredu mewn cwmnïau meddalwedd DechGyfreithiol
  • Ymgynghoriaeth a Chyngor: Fel ymgynghorwyr sy'n canolbwyntio ar dechnoleg mewn cwmnïau gwasanaethau proffesiynol y Pedwar Mawr neu bractisau cynghori unigryw sy'n arbenigo mewn trawsnewid prosesau cyfreithiol
  • Entrepreneuriaeth: Sefydlu neu ymuno â busnesau technoleg gyfreithiol newydd yn ystod eu camau cynnar
  • Ymchwil a Pholisi: Astudio am PhD neu gael rolau mewn sefydliadau ymchwil, melinau trafod, neu gyrff rheoleiddio sy'n canolbwyntio ar ddyfodol y gyfraith a thechnoleg

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.