Hawliau Dynol, LLM

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
two students talking outside the Richard Price Building

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r LLM mewn Hawliau Dynol yn sicrhau bod gennych chi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r heriau pwysicaf sy'n wynebu cymdeithas heddiw, gan arwain at gyfleoedd gyrfa cyffrous ym maes hawliau dynol. 

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o faterion hawliau dynol cyfoes ledled y byd, ac yn archwilio sut y gellir defnyddio deddfwriaeth, polisi ac ymarfer i ymateb i'r heriau hyn. 

Caiff y rhaglen hon ei haddysgu gan arbenigwyr hawliau dynol blaenllaw, a chaiff ei llywio gan ymchwil neilltuol. 

Pam Hawliau Dynol ym Mhrifysgol Abertawe?

Fel myfyriwr ôl-raddedig yn Ysgol y Gyfraith, byddwch yn rhan o ysgol y gyfraith a gydnabyddir yn fyd-eang, sy'n cynnig amgylchedd academaidd ffyniannus sy'n ymrwymedig i ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil, ac sy'n cynnig profiad eithriadol i fyfyrwyr 

  •  Mae 83.3% o'n hymchwil yn creu effaith sylweddol o ran ei chyrhaeddiad a'i harwyddocâd (REF 2021)

Eich profiad Hawliau Dynol

Byddwch yn meithrin yr wybodaeth a'r profiad i ddatblygu’n gyfreithiwr neu'n ymarferydd gwasanaethau cyfreithiol yn y 21ain ganrif gan feddu ar ddealltwriaeth arbenigol a manwl o faterion hawliau dynol cyfoes. 

Mae'r cwrs yn cynnig y canlynol: 

  • Rhaglen wedi'i llunio gan waith ymchwil o safon uchel 
  • Academyddion sydd â pherthnasoedd cryf â phartneriaid allanol ym maes hawliau dynol 
  • Ymagwedd ryngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol 
  • Ffocws ar heriau amrywiol a heriau sy'n dod i'r amlwg ym maes hawliau dynol 
  • Cyfleoedd i ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau hawliau dynol ar draws meysydd thematig amrywiol 

Byddwch hefyd yn dysgu drwy'r canlynol: 

  • Darlithoedd gwadd gan ymarferwyr arbenigol 
  • Dysgu yn y gweithle drwy waith gwirfoddol a/neu leoliadau gwaith 
  • Cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil ar y cyd â phartneriaid ymchwil 
  • Cyfrannu at rai o brif fentrau'r Ysgol, megis y Prosiect Seiberderfysgaeth, yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant a'r Consortiwm Gwaith Rhyw. 

Cyfleoedd cyflogaeth Hawliau Dynol

Mae staff addysgu ar y rhaglen LLM mewn Hawliau Dynol wedi sefydlu cysylltiadau cryf â  rhwydweithiau sy'n cynnwys cynrychiolwyr o gyrff cyhoeddus, cyrff anllywodraethol, y llywodraeth, a sefydliadau lleol a rhyngwladol. 

Mae graddedigion yr LLM mewn Hawliau Dynol mewn sefyllfa dda i fanteisio ar gyfleoedd gyrfa ysgogol a gwerthfawr. Yn y dyfodol, gallech weithio mewn swydd draddodiadol neu arbenigol mewn meysydd megis: 

  • Cyfraith hawliau dynol arbenigol 
  • Sefydliadau hawliau dynol  
  • Cyrff hawliau dynol rhyngwladol 
  • Y sector cyhoeddus – llywodraeth, y gwasanaeth sifil, cyngor gwleidyddol a pholisi  
  • Y sector preifat – busnes byd-eang, cenedlaethol neu leol 
  • Y sector anllywodraethol, megis UNICEF, Amnest ac Achub y Plant 
  • Ymchwil a'r byd academaidd 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.