Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r LLM mewn Cyfraith Olew, Nwy ac Ynni Adnewyddadwy ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnig cwricwlwm trylwyr ac arbenigol sy'n ymdrin â'r fframweithiau cyfreithiol a masnachol sy'n llywodraethu cylch bywyd cyfan prosiectau ynni alltraeth, o echdynnu hydrocarbon i dechnolegau ynni adnewyddadwy arloesol ar y môr. Mae'r rhaglen arbenigol hon wedi'i chynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol a graddedigion cyfreithiol sydd am sicrhau gyrfaoedd lefel uchel ar flaen y gad ym meysydd ynni byd-eang, polisi hinsawdd a phontio cyfiawn.
Fel myfyriwr yn Ysgol y Gyfraith, byddwch yn cael eich addysgu gan academyddion o fri rhyngwladol ac ymarferwyr blaenllaw yn fyd-eang â phrofiad yn y diwydiant. Mae gan y rhaglen gysylltiadau agos ag ymchwil yn y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol, gan sicrhau bod eich dysgu wedi'i wreiddio mewn ysgolheictod cyfreithiol arloesol a realiti masnachol y sector ynni. Byddwch yn ymdrin â materion cymhleth sy’n amrywio o gontractau a chyllid prosiectau olew a nwy i reoleiddio ynni gwynt alltraeth, datgarboneiddio morgludiant a chyfraith newid yn yr hinsawdd.
Erbyn i chi raddio, bydd gennych wybodaeth helaeth yn ogystal ag arbenigedd cymhwysol awdurdodol. Byddwch wedi datblygu i fod yn gyfreithiwr ynni arbenigol sy'n meddu ar y sgiliau cywir a'r ddealltwriaeth strategol a werthfawrogir yn fawr gan gyflogwyr elît ymysg cwmnïau cyfreithiol byd-eang, corfforaethau ynni (traddodiadol ac adnewyddadwy), banciau buddsoddi, cyrff rheoleiddio a sefydliadau polisi rhyngwladol.