Cyfraith Fasnachol a Morwrol Ryngwladol, LLM

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
a student in a seminar in the Richard Price Building

Trosolwg o'r Cwrs

Wedi'i dylunio ar gyfer meddyliau uchelgeisiol, bydd y radd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morwrol Ryngwladol ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau hanfodol i chi a fydd yn arwain y ffordd ar gyfer gyrfaoedd cyfreithiol cyffrous ac arbenigol ar y lefel uchaf.

Byddwch yn cael eich tywys gan arbenigwyr sydd â phrofiad academaidd ac ymarferol o'r lefel uchaf, wrth i chi ennill dealltwriaeth gynhwysfawr o'r heriau cyfreithiol ac ymarferol sy'n ymwneud â thrafodion masnachol rhyngwladol, a'r materion sy'n ymwneud â rheoli masnachu, mordwyo, a thirwedd gyfreithiol unigryw moroedd y byd.

Mae ein gradd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morwrol Ryngwladol yn darparu addysg drwyadl ac ymarferol am y fframweithiau cyfreithiol sy'n sail i fasnach ryngwladol, gan roi amgylchedd dysgu unigryw i chi sy'n seiliedig ar ysgolheictod o safon fyd-eang ac ymarfer masnachol byd go iawn.

Gall myfyrwyr ein gradd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morwrol Ryngwladol ddisgwyl datblygu sgiliau arbenigol, ac arbenigedd dwys a chymwys sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr.

Pam Cyfraith Fasnachol a Chyfraith Forol Ryngwladol ym Mhrifysgol Abertawe?

Fel myfyriwr ein gradd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morwrol Ryngwladol, byddwch yn ymuno â chymuned ôl-raddedig ffyniannus ac amgylchedd academaidd bywiog, yn ein Hysgol y Gyfraith, sy'n cael ei chydnabod yn fyd eang.

Mae Ysgol y Gyfraith yn cael ei chydnabod fel ffynhonnell arbenigedd, ac fel un sy'n cael effaith ar bolisi ac ymarfer mewn ystod amrywiol o feysydd ymarfer. Mae ein hysgol yn gwbl ymrwymedig i welliant parhaus o ran dysgu ac addysgu, ac i roi ein myfyrwyr wrth wraidd ein gweithgareddau, gan gynnig profiad eithriadol i fyfyrwyr.

Fe'ch goruchwylir gan academyddion ac ymarferwyr cymwysedig sydd â phrofiad helaeth o'r byd go iawn, sydd mewn sefyllfa ddelfrydol i roi arweiniad a chymorth parhaus.

Mae Adran y Gyfraith yn Abertawe:

  • Ymysg y 125 Uchaf yn y Byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd The Times Higher Education yn ôl Pwnc 2025)
  • Ymysg y 101 o brifysgolion gorau’r byd (Safleoedd Prifysgolion y Byd yn ôl Pwnc QS 150)

Mae'r modiwlau Cyflafareddu Masnachol Rhyngwladol (LACM17) a Dadlau Masnachol a Morwrol (LACM24) sy'n cael eu cynnig fel rhan o'r radd hon (mae'r ail fodiwl yn fodiwl lle nad oes credydau) wedi cael eu cydnabod gan Sefydliad Siartredig y Cyflafareddwyr (CIArb). Mae hyn yn golygu y bydd myfyrwyr y radd LLM sy'n llwyddo i gwblhau'r ddau fodiwl hyn yn Abertawe yn gymwys, drwy gais, am aelodaeth lefel gysylltiol y CIArb.

Eich profiad Cyfraith Fasnachol a Chyfraith Forol Ryngwladol

Fel myfyriwr y radd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morwrol Ryngwladol yn Abertawe, byddwch chi'n elwa o addysgu a arweinir gan ymchwil ac a sbardunir gan ymarfer sy'n trafod y sectorau morwrol a masnachol rhyngwladol.

Byddwch yn cael eich paratoi am ymarfer byd-eang drwy gyflwyniad manwl i amrywiaeth o safbwyntiau athronyddol, gan gydbwyso ymagweddau beirniadol â damcaniaethau cyfreithiol clasurol, a datblygu amlbwrpasedd deallusol i weithio mewn amgylchoedd cyfreithiol rhyngwladol cymhleth.

Wrth i chi wneud cynnydd drwy'r rhaglen, byddwch yn meithrin gwybodaeth systematig uwch a dealltwriaeth feirniadol o'r fframweithiau cyfreithiol sy'n llywodraethu masnach ryngwladol, masnach forwrol, mordwyo rhyngwladol a'r arferion rheoleiddiol cysylltiedig ar draws sawl awdurdodaeth.

Gall myfyrwyr ein gradd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morwrol Ryngwladol ddisgwyl datblygu sgiliau arbenigol a rhesymu moesegol sy'n hollbwysig i ddehongli, cymhwyso a gwerthuso problemau cyfreithiol cymhleth mewn cyfraith fasnachol a morwrol ryngwladol.

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio drwy gydol y cwrs. Yn ystod eich astudiaethau byddwch chi'n cael y cyfle i fynd i ddigwyddiadau megis y Ffair Gyrfaoedd LLM Flynyddol, lle byddwch chi'n cwrdd â chwmnïau cyfreithiol lleol a rhyngwladol, a chymryd rhan mewn digwyddiadau rhwydweithio gyda phractisiau blaenllaw yn Ninas Llundain.

Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr o'r diwydiant ac ymarferwyr blaenllaw ar ein gradd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morwrol Ryngwladol. Ochr yn ochr â darlithoedd gwadd, gallwch gymryd rhan mewn cystadlaethau dadlau, seminarau, gweithdai, a darlithoedd sydd wedi'u dylunio i feithrin carfan gefnogol a chysylltiol.

Byddwch yn elwa o gymorth astudio cynhwysfawr, gan gynnwys mynediad at Lyfrgell y Gyfraith, ardaloedd astudio ôl-raddedig pwrpasol, ac arweiniad gan Diwtor Personol a fydd yn rhoi cymorth i chi fynd i'r afael a heriau ac adeiladu strategaethau ar gyfer llwyddiant.

Cyfleoedd cyflogaeth Cyfraith Fasnachol a Chyfraith Forol Ryngwladol

Mae graddedigion y radd LLM mewn Cyfraith Fasnachol a Morwrol Ryngwladol mewn sefyllfa dda i ddilyn gyrfaoedd gwobrwyol ac ysgogol iawn ledled y byd. Gallai eich rôl yn y dyfodol fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol:

  • Ymarfer Cyfreithiol
  • Sefydliad Rhyngwladol a Chyrff Rheoleiddiol
  • Sectorau Cyllid Masnachol
  • Sefydliadau Anllywodraethol (NGO) ac Eiriolaeth
  • Cyflafareddu, Cyfryngu ac Ymgynghori
  • Byd Academaidd ac Ymchwil

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.