Trosolwg o'r Cwrs
Mae ein MSc mewn Gwyddor Data Iechyd yn rhaglen ryngddisgyblaethol sydd wedi'i dylunio i'ch paratoi ar gyfer tirwedd gofal iechyd sydd wedi'i hysgogi gan ddata ac sy'n newid yn barhaus.
Mae'r rhaglen yn seiliedig ar ymagwedd sydd wedi'i hysgogi gan ymchwil ac ymarfer, sy'n eich galluogi i ymdrin â data iechyd go iawn. Mae'r ymagwedd hon yn eich helpu i ddysgu sut i ddatrys problemau cyfrifiadol a dadansoddol cymhleth sy'n ymwneud ag iechyd ac sy'n berthnasol i ofal iechyd, epidemioleg ac ymchwil biofeddygol.
Mae'r cwricwlwm wedi'i ddylunio i bontio disgyblaethau ac adlewyrchu natur gydweithredol gwyddor data iechyd, gyda chynnwys sy’n cwmpasu modelu ystadegol, dysgu peirianyddol, a dadansoddi a rheoli data.
O'n gynnar yn y rhaglen, byddwch yn gweithio gydag offer a thechnolegau a ddefnyddir yn y maes, megis R, SQL a Python; gan ddatblygu eich llythrennedd cyfrifiadol, ochr yn ochr â'ch gwybodaeth am ddata clinigol sy'n ymwneud ag iechyd. Mae'r prosiectau y byddwch chi'n ymwneud â nhw yn ymarferol ac yn adlewyrchu heriau'r byd go iawn, gan amrywio o ymdrin â data i fodelu rhagfynegol mewn lleoliadau clinigol.
Mae'r radd MSc hon wedi'i dylunio i gefnogi grŵp amrywiol o raddedigion a gweithwyr proffesiynol gyda chefndiroedd ac arbenigedd yn y gwyddorau ansoddol. Mae'n addas yn benodol ar gyfer graddedigion cyfrifiadureg, ystadegau, ffiseg, mathemateg neu'r biowyddorau, sy'n mynd ymlaen i broffesiwn sy'n ymwneud ag iechyd, neu sy'n dymuno rhoi eu sgiliau ar waith mewn proffesiwn o'r fath. Mae hefyd yn ddewis delfrydol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sydd â diddordeb mewn gwella eu sgiliau'n ymwneud â data, er mwyn symud ymlaen i gam nesaf eu gyrfaoedd neu i gyflwyno cais am eu swyddi cyntaf yn y maes hwn.
Er bod profiad blaenorol ym maes rhaglennu ystadegol yn fuddiol, nid yw'n hanfodol. Dylech naill ai feddu ar wybodaeth sylfaenol neu fod yn awyddus i ddatblygu'r sgiliau hyn yn ystod y rhaglen.