Addysg Feddygol, MSc / PGDip / PGCert

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Students in a Seminar

Trosolwg o'r Cwrs

A ydych chi'n weithiwr gofal iechyd prysur neu'n academydd â diddordeb mewn addysgu gweithwyr meddygol neu ofal iechyd proffesiynol eraill? Gallai ein gradd MSc Addysg Feddygol roi'r sgiliau i chi y mae eu hangen i wella'ch rhagolygon gyrfa.

Mae ein rhaglen aml-ddisgyblaethol yn cynnig dull dysgu hyblyg cymysg o ddysgu o bell gyda gweithdai preswyl i addasu i weithwyr proffesiynol prysur. Byddwch yn astudio gwyddoniaeth y dysgu a'r dystiolaeth sy'n sail i ymarfer addysgol, ei gysylltiadau â damcaniaeth addysgol a ymarfer addysg mewn gofal iechyd mewn amrywiaeth o osodiadau a rolau

Bydd eich cwrs yn ystyried yr heriau allweddol, materion cyfoes a'r ymchwil ddiweddaraf ym maes addysg feddygol a phroffesiynau iechyd, gan eich helpu i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau o ran datblygu cwricwlwm, addysgu, dysgu, asesu ac ymgymryd ag ymchwil addysgol.

Pam Addysg Feddygol ym Mhrifysgol Abertawe?

  • Y 5 uchaf am ansawdd cyffredinol ymchwil (REF2021)
  • Enillydd Gwobrau Dewis Myfyriwr What Uni? 2017 – Ôl-raddedig
  • Mae'r radd yn dilyn meini prawf Cydnabod Hyfforddwyr y Cyngor Meddygol Cyffredinol
  • Goruchwyliaeth unigol ar gael i fyfyrwyr sy'n gwneud prosiectau ymchwil
  • Mae'r rhaglen yn gwrs AccreditationPlus gan Academi'r Addysgwyr Meddygol (AoME)

Eich profiad Addysg Feddygol

Unwaith y byddwch chi'n dechrau eich gradd Addysg Feddygol MSc, gofynnir i chi gymryd rôl ragweithiol wrth lywio eich dysgu ar draws yr holl fodiwlau. 

Cyflwynir y rhan fwyaf o'ch cwrs drwy ddysgu o bell, gan gynnwys gweithgareddau ar-lein, darlithoedd, trafodaeth grŵp a chyfarfodydd â'ch tiwtor neilltuedig. 

Cynhelir yr elfen breswyl o'ch astudiaethau dros gyfnod o wythnos ar ein campws Parc Singleton, lle byddwch yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai, sesiynau ymarferol a darlithoedd. Mae'r cwrs preswyl yn gyfle gwych i chi gwrdd â'ch cyfoedion a'ch darlithwyr mewn amgylchedd dysgu cefnogol, cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu gweithredol, a datblygu rhwydweithiau cefnogaeth gan gymheiriaid i gefnogi eich profiad dysgu o bell. Caiff y dyddiadau ar gyfer y cwrs preswyl eu cadarnhau bob blwyddyn, cyn i chi gofrestru ar y rhaglen.

Cyfleoedd Cyflogaeth Addysg Feddygol

Ar ôl cwblhau eich astudiaethau byddwch wedi datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad damcaniaethol y gallwch eu defnyddio mewn ymarfer proffesiynol. Bydd eich sgiliau a'ch gwybodaeth uwch yn gwella eich rhagolygon gyrfa, p'un a ydych yn dechrau rôl newydd fel addysgwr proffesiynau iechyd, neu'n datblygu eich gyrfa addysgu.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.