Cyfrifiadureg, MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Prism

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein MSc mewn Cyfrifiadureg yn gwrs trosi, sy'n addas os oes gennych wybodaeth gyfyngedig am y pwnc, ac mae'n cynnig llwybr i chi tuag at ddysgu dyfnach.

Drwy gyfuniad o ddysgu ymarferol a dysgu sy'n seiliedig ar ddamcaniaeth, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o bynciau o gysyniadau meddalwedd ac egwyddorion peirianneg feddalwedd i ddata mawr, datblygu cymwysiadau gwe, a diogelwch rhwydwaith.

Mae'r ddealltwriaeth hon, ynghyd â modiwl prosiect sylweddol, yn eich rhoi mewn sefyllfa gref o ran astudiaethau uwch neu gyflogaeth.

 

Pam MSc Cyfrifiadureg yn Abertawe?

Mae ein Ffowndri Gyfrifiadol y buddsoddwyd £32.5m ynddi, yn gartref i'r radd hon. Mae'r cyfarpar addysgu ac ymchwil soffistigedig yn cynnwys labordy gweledigaeth  biometrig, labordy gwneuthurwyr, labordy damcaniaeth, labordy seiberddiogelwch /rhwydweithio, labordy defnyddwyr ac ystafell ddelweddu.

Cydnabyddir Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe yn adran flaenllaw yn y DU, ac mae mewn safle nodedig mewn llu o dablau sy’n adlewyrchu rhagoriaeth ymchwil ac addysgu.

Mae'r rhaglen hon wedi'i rhestru ar hyn o bryd yn y safleoedd canlynol:

  • Y 150 Uchaf yn y Byd o ran Cyfrifiadureg a Pheirianneg (Safle Byd-eang o Bynciau Academaidd 2024), Ymysg y 201-250 gorau yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd 2025)
  • 201-250 yn y Byd ar gyfer Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth (Tablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025)
  • 100% ar gyfer arwain y ffordd yn fyd-eang a sgoriau ardderchog yn rhyngwladol ar gyfer effaith ymchwil - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021
  • 90% o'n gwaith ymchwil o safon fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021

Cewch eich addysgu gan arbenigwyr ysbrydoledig ym maes cyfrifiadureg, megis Yr Athro Matt Jones, a gydnabyddir yn eang fel arweinydd wrth rymuso cymunedau digidol gwledig yn y DU ac ar draws y byd datblygol.



Eich profiad Cyfrifiadureg

Mae’r Ffowndri Gyfrifiadol newydd ar Gampws y Bae yn ganolog i’ch profiad yn Abertawe. Mae eisoes yn ganolbwynt ar gyfer cymuned fywiog o ymchwilwyr blaenllaw o’r radd flaenaf ym maes Cyfrifiadureg.

Dros gyfnod y cwrs hwn, byddwch yn cael eich addysgu gan staff o grwpiau ymchwil ag enw rhyngwladol. Mae eu gwybodaeth am ddatblygiadau cyson ym maes Cyfrifiadureg yn helpu i gadw'r hyn rydych yn ei ddysgu’n gyfoes ac yn berthnasol i'r diwydiant ehangach.

Yn ogystal, adlewyrchir ein hymrwymiad i ddilyn datblygiadau technoleg yn y galedwedd y byddwch chi'n gweithio gyda hi bob dydd.

Caiff labordai eu hadnewyddu'n barhaus i sicrhau na fydd cyfarpar byth yn fwy na thair blwydd oed, ac yn brin iawn yn fwy na dwy flwydd oed. Mae tri labordy sydd wedi'u cysylltu â'r rhwydwaith yn llawn ar waith ar hyn o bryd.

Cyflogaeth Cyfleoedd Cyfrifiadureg

Bydd cwblhau'r MSc hon yn gwella eich rhagolygon gyrfa ym maes cyfrifiadureg yn sylweddol. Yn aml, mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i gyflogaeth lwyddiannus ym maes cyfrifiadureg gyda chyflogwyr uchel eu parch. Isod mae enghreifftiau diweddar o gyrchfannau graddedigion.

  • Peiriannydd Meddalwedd, Motorola Solutions
  • Cydlynydd newid, CGI Group
  • Datblygwr/Peiriannydd Meddalwedd, NS Technology
  • Datblygwr Llif Gwaith, Irwin Mitchell
  • Datblygwr TG, Crimson Consultants
  • Rhaglennydd, Evil Twin Artworks
  • Datblygwr Gwe a Chymorth Gwe, VSI Thinking
  • Datblygwr Meddalwedd, Wireless Innovations
  • Dadansoddwr Rhaglenni Busnes Cyswllt, CDC Software
  • Datblygwr Meddalwedd, OpenBet Technologies
  • Ymgynghorydd Cymorth Technegol, Alterian
  • Rhaglennu, Rock It
  • Datblygwr Meddalwedd, BMJ Group

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.