Trosolwg o'r Cwrs
Dyluniwyd ein gradd Meistr Ymarfer Uwch mewn Gofal Iechyd ar gyfer ymarferwyr gofal iechyd profiadol sydd eisiau cyfnerthu eu sgiliau ac ehangu eu harbenigedd ar draws bedwar piler ymarfer uwch: ymarfer clinigol, arweinyddiaeth a rheoli, addysg ac ymchwil. Mae'r rhaglen hon yn rhoi'r wybodaeth a'r hyder i chi ymateb yn effeithiol i ofynion gofal iechyd cymhleth sy'n esblygu.
Drwy gydol y cwrs, byddwch chi'n datblygu sgiliau asesu, diagnostig, a rheoli clefydau uwch, a bydd cyfle i gyflwyno cais am astudiaethau rhagnodi anfeddygol.
Byddwch hefyd yn meithrin sgiliau ymchwil a dadansoddol hanfodol sy'n ymwneud ag ymarfer clinigol a gwella technegau myfyriol proffesiynol, gan gynnwys ymholi beirniadol, datrys problemau'n greadigol, ac arweinyddiaeth gydweithredol a thosturiol. Drwy ymgysylltu, cymhwyso a chreu gwybodaeth, byddwch yn cyfrannu at wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Byddwch hefyd yn cefnogi cynaliadwyedd a thrawsnewidiad gwasanaethau iechyd.