Trosolwg o'r Cwrs
Os ydych yn ymarferydd iechyd a gofal cymdeithasol sy'n ymgymryd â dysgu sy’n seiliedig ar waith, mae ein gradd Meistr mewn Ymarfer Proffesiynol Uwch yn ffordd wych i chi gael credyd academaidd ffurfiol ar gyfer eich datblygiad proffesiynol.
Mae'r cwrs yn rhaglen hynod hyblyg a modiwlaidd wedi'i harwain gan eich anghenion fel myfyriwr ac fel gweithiwr proffesiynol prysur. Byddwch yn ymdrin â phynciau allweddol sy'n ymwneud â pholisi ac ymarfer i'ch helpu i feithrin a mireinio eich sgiliau dadansoddi beirniadol mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd gennych yr hyblygrwydd i ddewis eich meysydd dysgu yn unol â’r hyn sy'n berthnasol i'ch rôl a'ch ymarfer proffesiynol personol yn yr arbenigedd o’ch dewis.
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sy’n ymgymryd â’r cwrs hwn yn gweithio mewn maes lle mae ymrwymiad i ddysgu sy’n seiliedig ar waith, gan fod y rhaglen hon yn galluogi myfyrwyr i ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig wrth weithio.
Mae'r cwrs yn dechrau gydag wythnos sefydlu orfodol yn gynnar ym mis Hydref sy'n eich paratoi i ddod yn ddysgwr annibynnol yn y gweithle ar gyfer pob modiwl rydych chi'n ymgymryd ag ef. Yn ystod yr wythnos cewch gyflwyniad i egwyddorion dysgu sy’n seiliedig ar waith drwy ymagwedd dysgu cyfunol gan gynnwys sesiynau astudio wyneb yn wyneb, ar-lein ac astudio annibynnol cyfeiriedig.
Gan nad oes diwrnodau o addysgu wythnosol ar ôl yr wythnos sefydlu, caiff eich dysgu ei hwyluso drwy oruchwyliaeth academaidd gyda'ch tiwtor personol a enwir, presenoldeb mewn setiau dysgu gweithredol ar-lein am 90 munud y mis, a mynediad at ystod o adnoddau dysgu ar-lein sydd ar gael ar Canvas.