Trosolwg o'r Cwrs
Nod ein Diploma Ôl-raddedig yw datblygu ymarferwyr Nyrsio Ysgolion mewn Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol (SCPHN SN) sy'n fedrus wrth weithio'n annibynnol mewn ystod o leoliadau cymunedol iechyd cyhoeddus. Mae gan nyrsys ysgolion rôl benodol fel cyfranwyr allweddol at ddatblygiad y blynyddoedd cynnar, gan dargedu anghenion iechyd ac emosiynol plant a phobl ifanc oed ysgol. Maen nhw'n allweddol wrth gynnig gwasanaeth iechyd cyhoeddus cyfannol, unigol a chymunedol ac ar lefel y boblogaeth sy'n cynnig cyfraniad sylweddol at wella iechyd drwy atal ac ymyrryd yn gynnar. Bydd yr ymarferwyr yn grymuso plant, pobl ifanc a'u teuluoedd i ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael yn eu cymunedau a gweithio gydag asiantaethau/timau eraill i ddatblygu gallu unigol a chymunedol, cefnogi datblygiad iechyd cymunedol a hybu iechyd a lles y boblogaeth.
Mae'r cwrs hwn ar gael ar sail amser llawn neu ran-amser, a rhaid bod yr holl ymgeiswyr yn nyrsys a/neu'n fydwragedd cymwysedig eisoes gyda lefelau amrywiol o brofiad. Crëwyd y rhaglen i fodloni gofynion y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac mae'n paratoi ymgeiswyr i gefnogi datblygiadau iechyd cymunedol a hybu iechyd a lles y boblogaeth. Rydym yn cynnig cydbwysedd o theori ac ymarfer ac yn rhoi ystod o strategaethau dysgu ac addysgu i ymgeiswyr. Mae'r ymagwedd hon yn addysgu egwyddorion damcaniaethol i fyfyrwyr mewn amgylchedd Prifysgol ac yna eu cymhwyso nhw mewn amgylchedd proffesiynol, gan gynnig cysylltiad pwysig rhwng y byd academaidd ac ymarfer.
Wrth astudio am PGDip, efallai y bydd hi'n bosib uwchraddio i gymhwyser ymadael MSc yn ystod eich astudiaethau, ond sylwer na fydd hwn wedi'i achredu gan yr NMC.