Nyrsio Gofal Critigol Oedolion, PGCert

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Nyrsio Gofal Critigol ar gyfer Oedolion

Trosolwg o'r Cwrs

Nod y Dystysgrif Ôl-raddedig (PGCert) mewn Nyrsio Gofal Critigol Oedolion yw paratoi nyrsys cofrestredig i ddarparu gofal diogel ac effeithiol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i oedolion sy'n ddifrifol wael.    Mae'r rhaglen ran-amser sy'n flwyddyn o hyd yn cydweddu â Fframwaith Cenedlaethol Arweinwyr Rhwydwaith Nyrsys Gofal Critigol (CC3N), gan eich galluogi i gyflawni cymwyseddau gofal critigol Cam 2 a Cham 3.

Comisiynwyd y rhaglen gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ac fe'i cyflwynir mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae  Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.  Mae'r cwrs wedi'i gefnogi gan sefydliadau gofal critigol cenedlaethol gan gynnwys Cymdeithas Nyrsys Gofal Critigol Prydain a Phwyllgor Nyrsio Gofal Critigol Cymru Gyfan.

Mae ymarfer clinigol uwch, arweinyddiaeth a gwella ansawdd wrth wraidd y cwricwlwm a'i nod yw cefnogi unedau gofal critigol lleol wrth fodloni safonau Cyfarwyddyd ar gyfer Darparu Gwasanaethau Gofal Dwys (GPICS) mewn perthynas â staffio, addysg a rhagoriaeth gwasanaethau. Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn datblygu'r hyder a'r gallu i arwain timau amlddisgyblaethol, cymhwyso ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a sbarduno arloesiadau mewn gofal cleifion, gan gyfrannu at ganlyniadau gwell ar gyfer y safonau uchaf o ddarpariaeth gofal critigol.

Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus, bydd gennych Dystysgrif Ôl-raddedig Gydnabyddedig mewn Nyrsio Gofal Critigol, fel y nodwyd gan GPICS.

Pam Nyrsio Gofal Critigol ar gyfer Oedolion yn Abertawe?

Cewch eich addysgu yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ar ein campws ym Mharc Singleton ar gyrion Penrhyn Gŵyr hardd ac o fewn tafliad carreg i'r ysbyty agosaf.  Mae ein staff academaidd yn nyrsys cymwysedig, yn feddygon, ac yn weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, y mae llawer ohonynt hefyd yn glinigwyr sy'n ymarfer, gan ddarparu cyfuniad eithriadol o drylwyredd damcaniaethol, craffter proffesiynol ac arbenigedd ymarferol.

Mae gennym enw rhagorol am Nyrsio ym Mhrifysgol Abertawe ac rydym wedi ein rhestru ymysg y 200 o brifysgolion gorau yn y byd am Nyrsio (QS World University Rankings by Subject 2025). Fel myfyriwr, byddwch yn elwa o'n cysylltiadau cryf â Byrddau Iechyd Cymru, y mae eu timau clinigol yn meddu ar yr arbenigedd cyfoes sydd ei angen i gefnogi a chymeradwyo'r cymwyseddau sy'n hanfodol ar gyfer rolau nyrsio gofal critigol.

Byddwch hefyd yn elwa o ddysgu drwy efelychu o ansawdd uchel  ochr yn ochr â'ch addysg sy'n seiliedig ar ymarfer a damcaniaeth, gan eich helpu i ddatblygu'ch hyder a'ch gallu mewn amgylcheddau gofal critigol cymhleth.

I ymuno â'r rhaglen, mae'n rhaid eich bod wedi'ch cyflogi fel nyrs gofal critigol, wedi cwblhau galluoedd Cam Un CC3N ac mae’n rhaid i chi gael cysyniad eich cyflogwr cyn cyflwyno cais.

Eich profiad Nyrsio Gofal Critigol ar gyfer Oedolion

Yn Abertawe, byddwch yn elwa o gyfleusterau efelychu clinigol eithriadol a ddyluniwyd i efelychu amgylcheddau gofal critigol go iawn. Ar draws ein campysau Parc Singleton a Pharc Dewi Sant, byddwch yn hyfforddi mewn ystafelloedd clinigol tra chywir sydd â thechnoleg efelychu uwch. Mae'r sesiynau ymdrochol hyn yn eich galluogi i ymarfer senarios cymhleth, atgyfnerthu eich gallu i wneud penderfyniadau, a magu hyder mewn lleoliad diogel a chefnogol. Mae efelychu hefyd yn eich galluogi i ddatblygu galluoedd efallai na fyddai modd eu datblygu bob amser mewn ymarfer clinigol arferol, gan eich helpu i feithrin profiad eang ac amrywiol.

Ochr yn ochr ag efelychu, bydd llawer o'ch dysgu'n digwydd yn eich uned gofal critigol eich hun, lle byddwch yn gweithio tuag at alluoedd Cam 2 a Cham 3 CC3N a gydnabyddir yn genedlaethol. Cewch eich cefnogi gan fentoriaid clinigol profiadol, Aseswyr Arweiniol a Nyrsys Addysg Ymarfer a fydd yn darparu arweiniad ac adborth strwythuredig. Mae'r cydweithio agos hwn rhwng timau ymarfer ac academaidd yn sicrhau y caiff eich cynnydd ei fonitro'n barhaus ac y gallwch gymhwyso'n hyderus wybodaeth ddamcaniaethol uwch mewn lleoliadau yn y byd go iawn. 

Bydd eich profiad clinigol hefyd yn cynnwys dysgu rhyngbroffesiynol cyfoethog. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr ag anaesthetegyddion, radiograffyddion, fferyllwyr, dietegwyr ac aelodau eraill o'r tîm amlddisgyblaethol, gan ennill profiad gwerthfawr o ymarfer gofal critigol cydweithredol. Caiff y profiadau hyn eu cofnodi yn eich portffolio cymhwysedd a byddant yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau cyfathrebu proffesiynol a gwaith tîm sy'n hanfodol ar gyfer amgylcheddau gofal critigol cyfoes. 

Mae arweinyddiaeth ac addysgu'n rhan annatod o'ch taith. Cewch gyfleoedd i oruchwylio cydweithwyr, arwain agweddau ar senarios efelychu a datblygu sgiliau mewn blaenoriaethu, dirprwyo ac arweinyddiaeth dosturiol.  Drwy eich prosiect poster gwella ansawdd, byddwch yn cyfrannu at ddatblygu gwasanaethau yn eich uned eich hun, gan ddefnyddio tystiolaeth ac arloesedd i wella gofal cleifion.

Bydd y cyfuniad hwn o gyfleusterau o safon uchel, cymorth clinigol strwythuredig, profiad rhyngbroffesiynol, a datblygu arweinyddiaeth byd go iawn yn eich paratoi i ddod yn nyrs gofal critigol hyderus, diogel a galluog sy'n bodloni'r safonau cenedlaethol uchaf.

Cyfleoedd Gyrfa Nyrsio Gofal Critigol ar gyfer Oedolion

Ar ôl cwblhau'r dystysgrif yn llwyddiannus, byddwch wedi cyflawni cymwyseddau Cam 3 yn ogystal ag ennill cymhwyster gofal critigol a gydnabyddir yn genedlaethol, gan eich galluogi i ddatblygu'n broffesiynol yn eich maes clinigol. Bydd gennych sgiliau clinigol uwch, gwybodaeth sylfaenol gadarn am ymarfer gofal critigol a galluoedd arweinyddiaeth ac addysgu cryfach. Mae'r paratoad hwn yn eich galluogi i ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb yn y tîm amlddisgyblaethol, ymgymryd â rolau arweinyddiaeth neu reoli, a gweithredu fel mentor clinigol effeithiol sy'n cefnogi ac yn datblygu eich cydweithwyr yn yr amgylchedd gofal critigol.

Ar ôl i chi gyflawni galluoedd Cam 3 CC3N, byddwch mewn sefyllfa dda i symud ymlaen i alluoedd rheoli uwch neu i ddatblygu mwy o alluoedd clinigol.  Mae'r cynnydd hwn yn cefnogi cyfleoedd datblygu gyrfa megis dyrchafiadau i rolau sy'n cynnwys Rheolwr Ward Gofal Critigol, Addysgwr Ymarfer neu symud ymlaen i lwybrau hyfforddiant ychwanegol megis rhaglenni Ymarferydd Gofal Critigol (ACCP).

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.