Trosolwg o'r Cwrs
Mae troseddu, ei achosion, a sut y dylem ymdrin ag ef, yn y penawdau yn aml, ac mae cyflogwyr yn y llywodraeth ac mewn sectorau eraill yn gwerthfawrogi arbenigedd yn y meysydd hyn yn gynyddol.
Bydd astudio ein MA mewn Cyfiawnder Troseddol Cymhwysol a Throseddeg yn sicrhau bod gennych y cymwyseddau dadansoddol, beirniadol, methodolegol a moesegol y bydd eu hangen arnoch i ymdrin yn ystyrlon â rhai o'r heriau byd-eang mwyaf dybryd a wynebir gan gymdeithas heddiw.
Mae'r rhaglen hon wedi'i hadeiladu ar sail tri philer craidd: damcaniaeth droseddegol, polisi ac ymarfer cyfiawnder troseddol, a datblygu sgiliau ymchwil trylwyr. Mae'r pileri hyn yn llunio cynnwys a chyflwyniad y cwricwlwm, gan sicrhau y gallwch ddatblygu dealltwriaeth ddofn, feirniadol a chymhwysol o droseddu a chyfiawnder yn y gymdeithas gyfoes.
Drwy’r fframwaith hwn, mae’r rhaglen yn cynnig profiad dysgu cynhwysol i chi, sy'n ddeniadol ac sy’n cael ei arwain gan ymchwil. Byddwch chi'n cael eich annog i ddeall cysyniadau allweddol mewn troseddeg, gan gwestiynu syniadau'n feirniadol, ac asesu eu gallu i esbonio ymddygiad troseddol a gwyrdroëdig, gan dynnu ar wybodaeth sy'n dod i'r amlwg yn y maes.
Mae natur gymhwysol y rhaglen hon yn caniatáu i ddeunydd ac asesiadau’r cwrs gyfeirio'n uniongyrchol at y system cyfiawnder troseddol, a sut mae'n gweithio fel sefydliad, gan eich annog i gymhwyso'ch gwybodaeth am y pwnc yn uniongyrchol i realiti presennol y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr. Anogir hyn drwy astudio amrywiol elfennau allweddol sy'n ffurfio'r system cyfiawnder troseddol, yn ogystal ag asesiadau ymarferol sy'n canolbwyntio'n uniongyrchol ar effeithio ar bolisi ac ymarfer cyhoeddus yn y maes hwn.
Drwy gyfuno'r wybodaeth fanwl hon am droseddu a'r system cyfiawnder troseddol â natur gymhwysol ac ymarferol y rhaglen, byddwch chi'n gallu datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd eu hangen arnoch chi i ymuno ag amrywiaeth o yrfaoedd diddorol a deniadol.