Trosolwg o'r Cwrs
Byddwch yn rhan o rywbeth arloesol gyda gradd MSc Prifysgol Abertawe mewn Adfer a Chadwraeth Morol, a ddyluniwyd i roi i chi’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i fynd i'r afael ag un o heriau mwyaf ein hoes, sef adfer ecosystemau ein cefnforoedd.
Byddwch yn dysgu sut i arwain y ffordd mewn adfer morol ac yn datblygu sgiliau arloesol mewn technegau cadwraeth ac adfer, o ailadeiladu dolydd morwellt i adfer riffiau cwrel a gwella poblogaethau pysgod.
Mae'r rhaglen yn rhoi llu o gyfleoedd i chi gael profiad ymarferol. Gallwch gymryd rhan mewn gwaith maes, ymchwil labordy ac elwa gan leoliadau gwaith ym myd diwydiant gyda'r sefydliadau cadwraeth gorau, gan feithrin sgiliau byd go iawn y mae galw mawr amdanynt ymysg cyflogwyr. Byddwch hefyd yn gallu cysylltu ag arbenigwyr drwy'r prosesau hyn, pan fyddwch yn gallu gweithio ochr yn ochr â llunwyr polisi, cyrff anllywodraethol, gwyddonwyr ac arweinwyr ym myd diwydiant sydd oll yn llunio ymdrechion adfer byd-eang.
Bydd y radd hon yn eich helpu i roi gwyddoniaeth ar waith, gan ddatblygu eich dealltwriaeth o sut mae adfer yn cyd-fynd â mentrau byd-eang, megis Degawd y Cenhedloedd Unedig ar Adfer Ecosystemau a Chyfraith Adfer yr UE.
Erbyn diwedd y rhaglen, bydd gennych yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i greu gyrfa a gaiff effaith. Byddwn yn eich paratoi ar gyfer rolau cyffrous, gan gynnwys swyddi mewn adfer morol, cadwraeth, polisi, ymgynghori amgylcheddol a rheoli morol, sydd oll yn rhan o sector sy'n tyfu'n gyflym.
Gyda'r buddsoddiad byd-eang cynyddol hwn mewn adfer morol, mae'r radd MSc hon yn eich rhoi chi ar flaen y gad o ran yr ymgyrch i ailadeiladu bywyd yn y cefnforoedd - ac mae'r dyfodol yn dibynnu ar wyddonwyr adfer fel chi!