Bydd angen i ymgeiswyr ennill 120 pwynt UCAS drwy ennill un o'r cymwysterau canlynol neu gymwysterau cyfwerth a gymeradwyir gan Brifysgol Abertawe.
Safon Uwch/Bagloriaeth Cymru: Isafswm BBB. Mae Cemeg yn hanfodol, ac o leiaf un pwnc STEM arall*
BTEC: Isafswm D*DD. Mae proffil Cemeg cryf yn hanfodol ynghyd â phroffil da mewn un pwnc STEM arall*.
Mynediad: Bydd ymgeiswyr yn cael eu beirniadu ar sail teilyngdod unigol.
Tystysgrif Gadael Gwyddelig: Bydd ymgeiswyr yn cael eu beirniadu ar sail teilyngdod unigol.
Scottish Highers: Bydd ymgeiswyr yn cael eu beirniadu ar sail teilyngdod unigol.
Y Fagloriaeth Ryngwladol: Sgôr o 33. Mae Cemeg Lefel Uwch yn hanfodol ac un pwnc STEM arall* ar Radd 6 neu uwch.
Lefelau T: Rydym yn croesawu ymgeiswyr â lefelau T. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu fesul achos.
Yn ogystal ag un o'r cymwysterau uchod, mae'n ofynnol i bob ymgeisydd sicrhau:
TGAU: Saesneg/Cymraeg a Mathemateg o leiaf Gradd C/4**.
Ar gyfer ymgeiswyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, mae'n ofynnol i bob ymgeisydd sicrhau:
IELTS: 6.0 (neu gyfwerth) a dim llai na 5.5 ym mhob cydran.
SWELT: Bydd ymgeiswyr yn cael eu beirniadu ar sail teilyngdod unigol.
Ddim yn bodloni'r gofynion hyn?
Os yw’r cwrs hwn o ddiddordeb i chi ond nid ydych chi’n meddu ar y cymwysterau mynediad gofynnol ar gyfer ymuno â’n rhaglen radd BSc, gellir ystyried ein rhaglen radd BSc Ffarmacoleg Feddygol (gyda Blwyddyn Sylfaen).
*Y pynciau STEM a dderbynnir yw Bioleg, Ffiseg, Mathemateg a Seicoleg
**Ar gyfer myfyrwyr sy'n dilyn y Llwybr at Feddygaeth, mae'r gofynion TGAU hyn yn orfodol ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion