Biocemeg a Geneteg, BSc (Anrh) / MSci (Anrh)

Deall Prosesau Moleciwlaidd a Genetig Bywyd

Students in lab

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r radd gydanrhydedd hon yn cyfuno dwy ddisgyblaeth sy’n gydberthynol ac sy’n gorgyffwrdd, felly byddwch yn cael gwybodaeth fanwl o dechnegau a gwaith ymchwil uwch maes bioleg foleciwlaidd, sy’n sylfaen i ddeall pob ffurf ar fywyd.

Mae bioleg foleciwlaidd yn bwnc sydd ar dwf ac sy’n cael effaith enfawr mewn nifer o feysydd gwyddonol, gan gynnwys astudiaeth a thriniaeth clefydau dynol amrywiol, datblygiadau fferyllol, a’r berthynas gymhleth rhwng yr amgylchedd a ni ein hunain.

Byddwch yn dysgu am y prosesau genetig sy’n digwydd o fewn organeddau byw ac yn astudio sut mae celloedd yn gweithio ar lefelau is-gellog a moleciwlaidd, gan olygu y byddwch yn ennill dealltwriaeth drylwyr o swyddogaeth fiocemegol organeddau byw, o facteria i blanhigion, anifeiliaid a bodau dynol.

Byddwch yn datblygu sgiliau rheoli prosiect arbennig ac yn dysgu dylunio arbrofion a chynllunio rhaglenni gwaith.

Pam Biocemeg a Geneteg ym Mhrifysgol Abertawe?

Ni oedd un o’r prifysgolion cyntaf yn y DU i gyflwyno Geneteg ar ffurf BSc yn y 1960s felly mae gennym hanes hir a mawr ei barch yn y maes hwn.

Byddwch yn elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil o’r radd flaenaf yn yr Ysgol Feddygaeth, gan gynnwys offer biodadansoddol megis HPLC, cromatograffi nwy, sbectrometreg màs, offer dadansoddi DNA a phrotein, a dadansoddwyr delweddau cyfrifiadurol ar gyfer astudiaethau moleciwlaidd neu gellog.

Eich profiad ym maes Biocemeg a Geneteg

Gan astudio'r BSc 3 blynedd, byddwch yn ymgymryd â chymysgedd o fodiwlau gorfodol a dewisol, gan roi'r hyblygrwydd i chi deilwra'ch gradd i'ch diddordebau penodol, eich uchelgeisiau gyrfa, neu gynlluniau ar gyfer astudiaeth bellach.

Yn ogystal, mae'r rhaglen 4 blynedd gyda blwyddyn Lleoliad yn cynnig blwyddyn leoliad ychwanegol rhwng yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf, gan roi'r cyfle i chi gael profiad o waith mewn diwydiant, a'ch galluogi i fagu hyder a chael profiad yn y byd go iawn.

Mae ein gradd MSci 4 blynedd yn radd israddedig uwch a chanddi flwyddyn meistr integredig. Treulir y flwyddyn ychwanegol yn ymgymryd â phrosiect ymchwil, gan ganiatáu i chi ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth.

Pa bynnag gymhwyster a ddewiswch, byddwch yn elwa ar arbenigedd ein staff academaidd sy'n weithgar mewn ystod amrywiol o feysydd ymchwil biolegol moleciwlaidd, gan gynnig cymysgedd heb ei ail o ragoriaeth academaidd ac arfer sydd ar flaen y gad.

Mae treulio blwyddyn dramor yn ystod eich gradd israddedig yn eich caniatáu i ychwanegu profiad rhyngwladol gwerthfawr i'ch CV, wrth feithrin sgiliau cyfathrebu rhyngddiwylliannol a fydd yn gwella eich gallu i ryngweithio â phobl o gefndiroedd amrywiol.

Os wyt ti'n poeni am fodloni ein gofynion mynediad, beth am ystyried ein BSc Biocemeg a Geneteg gyda Blwyddyn Sylfaen. Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyflwyniad cyffrous i addysg uwch i chi, archwilio'r gwyddoniaeth sy'n sail i Fiocemeg a Geneteg cyn symud ymlaen i'r rhaglen gradd lawn. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig mwy o gymorth arnoch ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd at addysg ar ôl cyfnod o amser.

Cyfleoedd Cyflogaeth Biocemeg a Geneteg

Mae gradd mewn Biocemeg a Geneteg yn fan cychwyn cyfleoedd gyrfa cyffrous mewn meysydd amrywiol megis:

  • Biotechnoleg diwydiannol
  • Cynhyrchion fferyllol
  • Diagnosteg
  • Esblygiad
  • Biowybodeg

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Biocemeg a Geneteg

Biocemeg a Geneteg

Biocemeg a Geneteg gyda Blwyddyn Sylfaen

Biocemeg a Geneteg gyda Blwyddyn ar Leoliad

Biocemeg a Geneteg gyda Blwyddyn Dramor

Biocemeg a Geneteg gyda Blwyddyn Sylfaen ac gyda Blwyddyn Dramor