Trosolwg o'r Cwrs
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa lle mae peirianneg yn cwrdd â gofal iechyd i wneud gwahaniaeth go iawn i annibyniaeth cleifion ac ansawdd bywyd?
Mae peirianneg adsefydlu’n chwarae rôl hanfodol wrth ddatblygu technolegau sy'n helpu unigolion i oresgyn heriau ymarferol, a bydd y radd hon yn rhoi'r sgiliau i chi gyfrannu at y gwaith hwn sy'n newid bywydau.
Bydd ein gradd BSc (Anrh) mewn Peirianneg Adsefydlu yn rhoi'r hyfforddiant arbenigol sydd ei angen arnoch i ddechrau gyrfa wobrwyol a thra medrus mewn proffesiwn gofal iechyd fel peiriannydd adsefydlu. Byddwch yn dysgu am gymhwyso egwyddorion peirianneg er mwyn datblygu atebion a dyfeisiau technolegol er mwyn cynorthwyo unigolion sydd ag anableddau a chyflyrau hirdymor. Byddwch yn cyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau ymarferol, clinigol a thechnolegol mewn ystod o leoliadau gofal iechyd arbenigol.
Yn ystod y tair blynedd, byddwch yn dysgu am y gwaith o ddylunio, adeiladu a phrofi ystod o dechnolegau cynorthwyol, gan gynnwys cadeiriau olwyn, aelodau artiffisial, cymhorthion robotig a seddi arbenigol. Gan ddefnyddio systemau mapio gwasgedd, goniomedrau, mesuryddion goleddf, rheolyddion a rhaglenwyr ffon reoli, Byddwch chi'n dysgu sut i greu dyfeisiau safonol sydd wedi'u gwneud at y diben, yn ogystal â dysgu am eu pwysigrwydd o ran chwyldroi gofal ac annibyniaeth cleifion.
Mae Peirianneg Adsefydlu yn faes cyffrous a heriol sy'n datblygu drwy'r amser ac yn gofyn am lefel uchel o gyfrifoldeb a sgìl dechnegol. Fel peiriannydd adsefydlu, byddwch yn gweithio fel rhan o dîm adsefydlu gan gynnwys prostheteg ac orthotyddion, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol yn ogystal â chleifion a chlinigau mewn gwasanaethau acíwt a gwasanaethau cymunedol. Wrth i'ch gyrfa ddatblygu, byddwch chi'n cael cyfleoedd ardderchog ar gyfer ymarfer uwch ac astudiaethau pellach ar lefel gradd Meistr neu ddoethuriaeth.