Peirianneg Sifil, BEng (Anrh) / MEng (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
civil engineering class

Trosolwg o'r Cwrs

Mae peirianwyr sifil yn hanfodol i ddyluniad ein hamgylchedd adeiledig. O bontydd, twnneli a systemau cludiant, i adeiladau, amddiffynfeydd rhag llifogydd a gwaith rheoli dŵr, mae eu perfformiad yn hollbwysig i'r gymdeithas fodern.

Bydd y radd hon yn darparu sylfaen gadarn o ran dylunio a dadansoddi strwythurau peirianneg sifil. Byddwch yn datblygu sgiliau datrys problemau cymhleth, yn meithrin y gallu i fraslunio a modelu atebion peirianneg, ac yn dod yn hyderus wrth baratoi adroddiadau technegol.

Wrth i chi wneud cynnydd, bydd eich gallu dadansoddol sy'n datblygu yn cyfuno â phrofiad ymarferol, gan ddefnyddio offer o'r radd flaenaf, a byddwch yn datblygu sgiliau sy'n hanfodol er mwyn cael swydd yn y diwydiant peirianneg sifil. 

Pam Peirianneg Sifil yn Abertawe?

Byddwch yn astudio ar ein campws arfordirol, Campws y Bae, sy'n edrych dros Fae Abertawe ar drothwy penrhyn Gŵyr.

Byddwch chi'n ymuno ag adran flaenllaw sydd ar hyn o bryd:

  • Yn yr 20 Uchaf yn y DU ar gyfer Rhagolygon Gyrfa (Complete University Guide 2026)
  • Yn y 25ain safle yn y DU yn gyffredinol (Daily Mail University Guide 2026)
  • Ymysg y 201-275 o Raglenni Gorau yn y Byd ar gyfer Peirianneg - Sifil a Strwythurol (Tablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2025), ac
  • Mae 95% o raddedigion Peirianneg Sifil yn gweithio a/neu'n astudio neu'n ymgymryd â gweithgareddau eraill megis teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Hynt Graddedigion 2025)

Byddwch yn cael eich addysgu gan dîm o academyddion sy'n weithredol o ran ymchwil a staff sydd â phrofiad eang yn niwydiant peirianneg sifil. Mae'r cyfuniad hwn yn sicrhau eich bod chi'n elwa o ymchwil arloesol a phrofiad ymarferol.

Byddwch hefyd yn elwa o gael mynediad at gyfleusterau uwch gyda labordai o'r radd flaenaf sy'n cefnogi profi arloesol ar draws y sectorau peirianneg sifil amrywiol. Mae gan y labordy hylifau gyfres o arbrofion i arddangos ymddygiad a phriodoleddau sylfaenol hylifau, yn ogystal â chafn arbrofol 5 metr gyda rhwyf tonnau ar gyfer astudiaethau go iawn. Mae ein labordy geomecaneg sydd â llawer o offer yn eich galluogi i ddadansoddi amrywiaeth eang o baramedrau pridd. Gallwch hefyd ddefnyddio ein hamrywiaeth soffistigedig o offer tirfesur Topcon er mwyn ennill profiad ymarferol cyn mynd i safleoedd.

Eich Profiad Peirianneg Sifil

Mae'r rhaglen hon wedi'i dylunio i ddarparu taith ddysgu drefnus a chynyddol:

  • Lefelau 4 a 5: Darparu sylfaen gref mewn theori sylfaenol ac egwyddorion dylunio ar draws pob llwybr (dadansoddi strwythurol, hylifau, geodechneg, dylunio, trawsgludiad), gan ddatblygu'r sgiliau proffesiynol sydd eu hangen ar beiriannydd sifil hefyd.
  • Lefel 6: Byddwch yn astudio pynciau uwch sy'n gysylltiedig â phob llwybr, gyda phroblemau ymarferol o fyd diwydiant yn cynnig profiad. Mae'r prosiect dylunio hwn yn dod â gwybodaeth a thasgau a osodir gan beirianwyr sy'n gweithio ym myd diwydiant ar hyn o bryd ynghyd. Hefyd, byddwch yn ymgymryd â phrosiect unigol sy'n gysylltiedig ag arbenigedd yr adran.
  • Lefel 7 (MEng): Gallwch ddewis o brosiectau dylunio llawn sydd ar waith ym myd diwydiant ar hyn o bryd fel rhan o ymarfer dylunio grŵp blwyddyn o hyd sy'n efelychu gwaith peirianwyr sifil sy'n ymarfer. Caiff hyn ei gefnogi gan bynciau dylunio a modelu datblygedig mewn modiwlau eraill.

Wrth i chi wneud cynnydd, byddwch yn creu cysylltiadau agos â’r diwydiant sy'n datblygu'n gyflym. Byddwch yn dysgu am ymarfer dylunio cyfredol a'r safonau peirianneg diweddaraf. Byddwn yn meithrin eich sgiliau modelu cyfrifiadurol drwy eich annog i ddatblygu eich meddalwedd eich hun at ddiben dadansoddi problemau peirianneg sifil yn y byd go iawn. Bydd eich gallu dadansoddol sy'n datblygu yn cyfuno âphrofiad ymarferol, gan ddefnyddio offer o'r radd flaenaf a thechnegau modelu, a byddwch yn datblygu sgiliau sy'n hanfodol er mwyn cael swydd yn y diwydiant peirianneg sifil a mynd i'r afael â heriau peirianneg yn y dyfodol.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor, gan wella'ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy. 

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn ym myd Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos. 

Mae'r Flwyddyn Sylfaen opsiynol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os bydd angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd.

Mae'r MEng yn radd integredig pedair blynedd o hyd. Mae'n mynd y tu hwnt i'r BEng, gan gynnig sgiliau technegol ac arweinyddiaeth uwch, lefel ddyfnach o arbenigo a llwybr uniongyrchol i achrediad proffesiynol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Peirianneg Sifil

Mae ein rhaglenni peirianneg sifil israddedig yn eich galluogi i fynd ymlaen i ennill statws Peiriannydd Siartredig gyda chyrff proffesiynol perthnasol (a all fod yn ddibynnol ar ddysgu ychwanegol os ydych chi'n astudio ar y rhaglen BEng).

Mae gan y radd hon gysylltiad cryf â byd diwydiant ac mae'n rhoi nifer o gyfleoedd i chi ennill profiad proffesiynol drwy gydol y radd. Yn ogystal â hyn, mae cyfleoedd datblygu gyrfa wedi'u hintegreiddio i asesiadau, gyda sgyrsiau cefnogol gan gyflogwyr a chyrff proffesiynol.

Caiff proffesiynoldeb ac ymddygiad moesegol eu cefnogi gan ddefnyddio'r egwyddorion a nodir yng nghôd ymddygiad proffesiynol Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE).

Mae graddedigion Peirianneg Sifil yn Abertawe ar y trywydd cywir tuag at amrywiaeth o yrfaoedd ysgogol yn y dyfodol, a all fod mewn unrhyw sector peirianneg sifil. Mae enghreifftiau o rolau i raddedigion yn cynnwys gweithio fel:

  • Peiriannydd Safle
  • Peiriannydd Strwythurol
  • Peiriannydd Geotechnegol
  • Peiriannydd Priffyrdd
  • Peiriannydd Arfordirol
  • Peiriannydd Prosiectau

Hefyd mae ein graddedigion wedi mynd i weithio mewn cwmnïau mawr megis Atkins, Arup, Mott MacDonald, AECOM, Jacobs a WSP.

Er bod y rhaglen hon yn canolbwyntio ar ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio fel peiriannydd sifil proffesiynol, gall gradd mewn peirianneg sifil hefyd fod yn ddefnyddiol mewn meysydd peirianneg cyfagos, ac mae galw mawr am y radd hon mewn sectorau masnachol ac ariannol. Mae'r radd hon hefyd yn sicrhau bod gennych chi'r gallu i fynd ymlaen i arbenigo mewn ymchwil mewn meysydd cysylltiedig.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Cer ar daith dywys o amgylch ein cyfleusterau

Peirianneg Sifil, BEng (Anrh)

Peirianneg Sifil, MEng (Anrh)

Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn Dramor, MEng (Anrh)

Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, MEng (Anrh)

Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn Sylfaen, BEng (Anrh)

Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn Dramor, BEng (Anrh)

Peirianneg Sifil gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BEng (Anrh)