Mae gradd Meistr Integredig (MEng) yn gynllun gradd pedair blynedd sy'n ehangu eich astudiaethau i lefel gradd Meistr. Hwn yw'r dyfarniad uchaf ar gyfer astudiaethau israddedig ym maes peirianneg yn y Deyrnas Unedig.
Buddion Gradd Meistr Integredig
Mae nifer o fuddion os byddwch chi'n dewis dilyn gradd Meistr Integredig:
- Statws Peiriannydd Siartredig (CEng): mae’r mwyafrif o'n myfyrwyr o'r Deyrnas Unedig yn dilyn cwrs MEng oherwydd dyna'r ffordd fwyaf uniongyrchol o fodloni'r gofynion addysgol ar gyfer derbyn cofrestriad Peiriannydd Siartredig.
- Lefel fwy o ehangder a dyfnder astudio: cewch gyfle i fod yn rhan o ystod ehangach o waith prosiect, gan gynnwys prosiectau unigol a phrosiectau tîm cyffrous, fel arfer gan gynnwys elfen o ddiwydiant.
- Lefel uwch o gyflogadwyedd: byddwch chi'n datblygu eich sgiliau trosglwyddadwy ymarferol megis: gwaith tîm; gwneud penderfyniadau; dirprwyo; adnabod a datrys problemau; a sgiliau cyfathrebu.
- Cyflogau uwch: Fel arfer mae meddu ar radd Meistr Integredig yn golygu lefel uwch o gyflog na'r sawl sy'n gadael â gradd BEng.