Peirianneg Gemegol, MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Chemical

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein MSc mewn Peirianneg Gemegol yn Abertawe yn darparu addysg uwch yn egwyddorion ac ymarfer peirianneg gemegol, gan roi pwyslais penodol ar drin dŵr a dŵr gwastraff, optimeiddio prosesau ac ymddygiad hylifau cymhleth. Gan adeiladu ar sylfaen gref o ragoriaeth ymchwil a chysylltiadau â diwydiant, mae'r rhaglen yn datblygu'r ddealltwriaeth dechnegol a'r galluoedd dadansoddi dwfn sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â heriau cyfoes mewn perthynas â phrosesau mewn amrywiaeth o sectorau.

Byddwch yn archwilio agweddau allweddol ar beirianneg prosesau fodern, gan gynnwys technolegau gwahanu, trosglwyddo màs a gwres, systemau hylifau a rheoli ac optimeiddio prosesau. Mae'r rhaglen wedi'i llunio gan ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn dulliau cynaliadwy o brosesu dŵr, hylifau cymhleth a rheoleg, deunyddiau uwch ac ynni a chynaliadwyedd.

Mae prosiect ymchwil sylweddol yn elfen graidd o brofiad y rhaglen MSc. Gan weithio'n agos gyda staff academaidd sy'n arbenigwyr yn eu meysydd, ac yn aml mewn cydweithrediad â diwydiant, byddwch yn defnyddio dulliau dadansoddol ac arbrofol uwch i ddatrys problemau go iawn mewn peirianneg gemegol a phrosesau.

Mae graddedigion y rhaglen MSc mewn Peirianneg Gemegol wedi'u paratoi'n dda ar gyfer gyrfaoedd yn y diwydiannau dŵr, ynni, deunyddiau a chemegol, yn ogystal ag ymchwil bellach mewn meysydd megis dwysáu prosesau, technolegau glân a systemau hylifau cymhleth.

Pam Peirianneg Gemegol ym Mhrifysgol Abertawe?

  • Ymysg y 251-300 o raglenni gorau o’i bath yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)
  • 100% o'r amgylchedd yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021)

Mae Abertawe'n cynnig amgylchedd bywiog sy'n cynnig adnoddau helaeth ar gyfer astudio peirianneg gemegol. Mae ein cyfleusterau uwch yn cynnwys Labordy Cemegol Peilot modern â 15 rig ar raddfa beilot sy'n cynnwys ystod eang o weithrediadau uned. Byddwch hefyd yn gweithio â chyfarpar arloesol a ddefnyddir at ddibenion ymchwil a diwydiant, megis microsgopeg grym atomig, systemau eplesu, cyseiniant plasmon arwyneb a rigiau adlyniad croeswasgiad hydrodynamig.

Byddwch yn astudio mewn cymuned ymchwil ddeinamig lle mae academyddion yn cyfrannu at ddatblygiadau byd-eang mewn meysydd gan gynnwys triniaeth dŵr a dŵr gwastraff, deunyddiau uwch a thechnolegau prosesu cynaliadwy.   Mae'r amgylchedd hwn a arweinir gan ymchwil yn sicrhau bod eich dysgu'n cael ei lywio gan y datblygiadau diweddaraf ar draws y ddisgyblaeth.

Eich profiad ym maes Peirianneg Gemegol

Bydd eich astudiaethau'n canolbwyntio ar themâu peirianneg prosesau allweddol megis prosesau gwahanu, systemau hylifau, trosglwyddo màs a phriodweddau deunyddiau, meysydd sy'n cydweddu'n gryf â'n cryfderau ymchwil sefydledig.

Ar ôl astudio modiwlau strwythuredig sy'n cyfuno gwybodaeth uwch mewn pynciau peirianneg gemegol craidd, byddwch yn ymgymryd â phrosiect ymchwil unigol sy'n cyfrif am draean o'r rhaglen.

Mae'r prosiect hwn yn cynnig cyfle i roi methodolegau uwch ar waith, yn aml mewn cydweithrediad â diwydiant neu yn un o grwpiau ymchwil blaenllaw'r Gyfadran.

Drwy'r strwythur hwn, byddwch yn datblygu cryfderau yn y meysydd canlynol:

  • Dylunio prosesau, efelychu ac optimeiddio uwch
  • Technolegau i drin dŵr a dŵr gwastraff mewn modd cynaliadwy
  • Nodweddu a modelu hylifau a deunyddiau cymhleth
  • Dulliau arbrofol a dadansoddol mewn peirianneg gemegol fodern
  • Dylunio ymchwil, dehongli data a chyfathrebu gwyddonol
  • Ymarfer proffesiynol, moeseg a chynaliadwyedd mewn cyd-destun byd-eang

Wrth i chi ddatblygu eich gwybodaeth a'ch cymwyseddau technegol dros ddwy flynedd, byddwch yn cael eich paratoi'n dda i ymgymryd ag ymchwil bellach neu yrfa mewn peirianneg gemegol a diwydiannau cysylltiedig. Caiff eich astudiaethau eu cefnogi gan gymuned ryngwladol ffyniannus o fyfyrwyr ôl-raddedig a staff ymchwil yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.

Byddwch hefyd yn elwa o fynediad 24 awr i'n llyfrgell ar y safle, labordai uwch a rhaglen drwy gydol y flwyddyn o ddarlithoedd gwadd ac ystafelloedd gweithio sydd wedi'u neilltuo i fyfyrwyr ôl-raddedig.

Cyfleoedd cyflogaeth ym maes Peirianneg Gemegol

Mae'r Gymdeithas Peirianneg Gemegol yn chwarae rôl allweddol wrth wella cyflogadwyedd drwy gynnig cyfleoedd am rwydweithio ac ymgysylltu proffesiynol. Mae ei rhaglen yn cynnwys ymweliadau â safleoedd cyfleusterau peirianneg blaenllaw a'r cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiadau cenedlaethol mawr megis Diwrnod Chwaraeon a Rhwydweithio Frank Morton, a gynhaliwyd gan Abertawe yn 2024. Mae'r profiadau hyn yn eich helpu i feithrin cysylltiadau proffesiynol â chymheiriaid a chynrychiolwyr diwydiant o bob rhan o'r DU.

Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf â diwydiant, gan gynnwys Sefydliad y Peirianwyr Cemegol (IChemE), gan sicrhau bod datblygu sgiliau proffesiynol wedi’i ymgorffori drwy gydol eich astudiaethau. Drwy'r cydweithredu hwn, gallwch elwa o weithgareddau allgymorth ac ymgysylltu megis cyflwyno yn y Big Bang Fair ym mhencadlys Sefydliad y Peirianwyr Cemegol yn Rugby, mynd i sgyrsiau cyflogadwyedd gan aelodau'r Gymdeithas a chyfrannu at fentrau cenedlaethol megis y digwyddiad Technolegau i Ymladd Newid Hinsawdd a drefnir gan GW-SHIFT a'r Sefydliad Ymchwil i Weithredu ar yr Hinsawdd.

Mae graddedigion y rhaglen MSc mewn Peirianneg Gemegol mewn sefyllfa dda i gael gyrfaoedd ysgogol a gwobrwyol mewn amrywiaeth eang o sectorau. Mae rolau posib yn cynnwys:

  • Peiriannydd cemegol
  • Peiriannydd ynni
  • Peiriannydd petrolewm
  • Gwyddonydd datblygu cynhyrchion/prosesau
  • Peiriannydd mwyngloddio
  • Rheolwr safle technegol

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.