Gwyddoniaeth Glinigol (Ffiseg Feddygol), MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
MRI Scanner

Trosolwg o'r Cwrs

Ydych chi am gael gyrfa fel ffisegydd meddygol sy'n cyfrannu'n uniongyrchol at driniaeth a gofal cleifion?

Mae gan Wyddonwyr Clinigol rôl arbenigol mewn gofal iechyd, ac maent yn gyfrifol am ddatblygu, profi, gweithredu a chynnal cyfarpar meddygol arbenigol, yn ogystal â chefnogi cynlluniau triniaeth a sicrhau diogelwch cleifion yn ystod diagnosis a thriniaeth. Mae'r rôl hon hefyd yn cynnig cyfleoedd i ymgymryd â gwaith labordy, ymchwil sylfaenol a chymhwysol, yn ogystal â rheoli ac addysgu.

Mae'r radd hon, a addysgir yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn adeiladu ar gydweithrediad sefydledig â’r GIG, a dyma'r prif lwybr i ennill teitl proffesiynol Gwyddonydd Clinigol ym maes Ffiseg Feddygol. Fel rhan o'ch astudiaethau, bydd gennych gyfle i arbenigo naill ai mewn Ffiseg Radiotherapi neu Ddiogelwch Ymbelydredd.

Sylwer, i fod yn gymwys am y radd hon, rhaid i chi gael eich noddi gan ddarparwr yn y GIG neu ddarparwr gofal iechyd cyfatebol.

Pam Gwyddoniaeth Glinigol (Ffiseg Feddygol) ym Mhrifysgol Abertawe?

Addysgir ein rhaglen Gwyddoniaeth Glinigol (Ffiseg Feddygol) yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, canolfan dysgu amlddisgyblaethol a rhyngbroffesiynol ac ymchwil ac arloesi, sy'n cael ei hystyried yn gyson yn un o'r rhai gorau ymysg darparwyr addysg iechyd proffesiynol a'r gwyddorau bywyd yn y DU.

  • Ystyrir bod 100% o'n hymchwil yn rhagorol yn rhyngwladol o ran ei heffaith (REF2021)
  • Mae gan fyfyrwyr ôl-raddedig fynediad at gyfleusterau yn adeilad y Sefydliad Gwyddor Bywyd, y buddsoddwyd £100 miliwn ynddo.
  • Caiff ein gradd Gwyddoniaeth Glinigol (Ffiseg Feddygol) ei noddi drwy GIG Cymru 

Eich Profiad Gwyddoniaeth Glinigol (Ffiseg Feddygol)

Fel rhan o'ch gradd, byddwch yn elwa o'n cyfleusterau o'r radd flaenaf, yn ogystal â'n cysylltiadau cryf ag Ysbyty Singleton ac Ymddiriedolaeth y GIG Felindre, canolfan academaidd a thriniaeth canser, gan eich galluogi i fanteisio ar gyfarpar modern ac addysgu ac ymchwil o'r ansawdd uchaf hefyd.

Byddwch hefyd yn elwa o'r berthynas weithio agos rhwng Prifysgol Abertawe a'r GIG yng Nghymru, drwy Gonsortiwm Hyfforddiant Cymru Gyfan ar gyfer Ffiseg Feddygol a Pheirianneg Glinigol. Bydd hyn yn darparu i chi'r amgylchiadau delfrydol ar gyfer addysgu ac ymchwil cydweithredol. Mae gennym hefyd gysylltiadau cryf â Chyngor Ymchwil y DU, Llywodraeth Cymru a nifer o gysylltiadau cenedlaethol a rhyngwladol.

Cyfleoedd cyflogaeth gyda Gwyddoniaeth Glinigol (Ffiseg Feddygol)

Wrth gwblhau'r cwrs, bydd gennych yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r profiad uwch o Wyddoniaeth Glinigol (Ffiseg Feddygol) i'w rhoi ar waith mewn ymarfer proffesiynol a byddwch yn cael teitl proffesiynol Gwyddonydd Clinigol ym maes Ffiseg Feddygol, gan arbenigo naill ai mewn Ffiseg Radiotherapi neu Ddiogelwch Ymbelydredd.

Mae'r rôl yn cynnig cyfleoedd i ddatblygu gyrfa a bydd rolau uwch ar gael ar ôl 3-5 mlynedd o brofiad. Bydd gennych gyfle hefyd i weithio ym myd diwydiant, gan gynnwys y sector fferylliaeth fiolegol, gofal iechyd preifat a chwmnïau dyfeisiau meddygol, yn ogystal â rolau yn y byd academaidd ac mewn ymchwil.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.