Mathemateg a Chyfrifiadureg ar gyfer Cyllid, MSc

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Students

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein cwrs MSc mewn Mathemateg a Chyfrifiadura ar gyfer Cyllid wedi'i gynllunio i fodloni'r galw am fathemategwyr hyfforddedig arbenigol yn niwydiannau cyllid ac yswiriant y byd. Mae'r meysydd hyn yn gwneud defnydd arbennig o ddamcaniaeth tebygolrwydd, prosesau stocastig a dadansoddi stocastig mewn meysydd fel prisio deilliadau ariannol neu feintioli risg.

Drwy'r radd hon byddwch yn astudio gwahanol elfennau mathemateg a chyfrifiadura, a'u cymhwyso i broblemau o fyd cyllid. Yna byddwch yn ymgymryd â thraethawd hir mewn maes mathemateg ariannol ac yn datblygu eich sgiliau ymchwil, rheoli prosiectau, a chyfathrebu ysgrifenedig. Ar ôl graddio byddwch yn fathemategydd gwybodus ac arbenigol â sgiliau profedig i gyflawni prosiect sylweddol yn annibynnol, a'r potensial i wneud gwahaniaeth sylweddol mewn unrhyw sefydliad.

Pam Mathemateg a Chyfrifiadura ar gyfer Cyllid yn Abertawe?

  • Un o'r 201-250 gorau yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025) 
  • Cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer y gwyddorau mathemategol a chyfrifiadol
  • Mae 100% o gyhoeddiadau yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol - Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021

Eich Profiad Mathemateg a Chyfrifiadura ar gyfer Cyllid

Yn rhan gyntaf y cwrs rydych chi'n astudio ystod eang o fodiwlau mewn cyllid mathemategol a phynciau cysylltiedig. Yn yr ail ran rydych chi'n cwblhau eich prosiect traethawd hir sylweddol.

Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o arholiadau ysgrifenedig, gwaith cwrs a thraethawd hir. Bydd eich astudiaethau'n cael eu cefnogi gan gyfleusterau sy'n cynnwys prif lyfrgell y Brifysgol a chanddi gasgliad helaeth o adnoddau mathemateg yn ogystal â’r Gwasanaethau Digidol.

Hefyd bydd yr Ystafell Ddarllen ar gael i chi yng nghanol yr adran. Dyma gartref llyfrgell yr adran ac ystafell o gyfrifiaduron.

  • Mae ein staff yn arbenigwyr yn eu maes mathemateg ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cydnabod yn Gymrawd neu’n Uwch-gymrawd yr Academi Addysg Uwch.
  • Mae ein Hadran Fathemateg ddrws nesaf i draeth hyfryd Bae Abertawe, a cheir nifer o gyfleoedd cymdeithasol a chwaraeon.
  • Mae'r Adran Fathemateg yn rhan o adeilad y Ffowndri Gyfrifiadol ar Gampws y Bae, lle ceir mannau astudio ac addysgu pwrpasol a ddyluniwyd gan fathemategwyr ac ar eu cyfer. 

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Bydd ein MSc mewn Mathemateg a Chyfrifiadura ar gyfer Cyllid yn gwella eich rhagolygon gyrfa yn sylweddol. Mae cyrchfannau gyrfa poblogaidd lle mae galw am fathemategwyr ar gyfer swyddi dadansoddi ystadegol, ymchwil a datblygu yn cynnwys:

  • Y proffesiwn actiwaraidd
  • Cyllid
  • Technoleg
  • Busnes

Mae graddedigion diweddar o'n MSc mewn Mathemateg a Chyfrifiadura ar gyfer Cyllid yn Abertawe wedi cael eu cyflogi gan:

  • AXA
  • BA
  • Deutsche Bank
  • Shell Research
  • Awdurdodau iechyd
  • Llywodraeth leol

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.