Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MSc mewn Gwyddor Data Gymhwysol yn darparu hyfforddiant priodol i fyfyrwyr heb gefndir arbenigol i'w galluogi nhw i wella eu cyfleoedd yn y dyfodol a chwarae rhan allweddol yn yr economi ddigidol.
Bydd ein rhaglen yn eich addysgu i weithio gyda data, ei ddelweddu a'i ddeall, annog meddwl mewn ffordd ystadegol a datblygu dulliau gwneud penderfyniadau'n seiliedig ar ddata. Yn ogystal, mae'r rhaglen yn darparu'r sylfaen angenrheidiol mewn Mathemateg, Ystadegau a sgiliau rhaglennu sylfaenol sy'n allweddol ar gyfer deall cymhlethdod data a'i ddadansoddi mewn ffordd systematig. Mae hefyd yn darparu sgiliau allweddol i chi mewn sawl pwnc cyfrifiadureg, megis cloddio data a dysgu peirianyddol.
Mae'r rhaglen hon ar gyfer myfyrwyr sydd â gradd mewn pwnc nad yw’n gofyn am lefel uchel o ran rhifedd, ond sydd â diddordeb mewn dysgu dulliau gwyddor data hanfodol gyda chymwysiadau amrywiol.
Sylwer, mae'r MSc mewn Gwyddor Data Gymhwysol yn briodol ar gyfer y rhai hynny heb radd israddedig ym maes mathemateg (neu bynciau cysylltiedig). Os oes gennych radd israddedig mewn Cyfrifiadureg (neu gyfwerth) ac yn dymuno dilyn llwybr gwyddor data gyda'ch gradd Meistr, gweler Gwyddor Data, MSc.