Trosolwg o'r Cwrs
Actiwarïaid yw gweithwyr busnes proffesiynol sy'n defnyddio mathemateg ac ystadegau i asesu a rheoli risg mewn meysydd megis yswiriant, bancio, iechyd a chynllunio'r llywodraeth.
Mae ein MSc mewn Gwyddor Actiwaraidd yn addas i raddedigion o ddisgyblaethau rhifedd sy'n awyddus i ddatblygu'r sylfeini mathemategol ac ystadegol angenrheidiol am yrfa fel actiwari cymwysedig.
Byddwch yn datblygu sgiliau y mae galw mawr amdanynt, sef defnyddio dulliau mathemategol ac ystadegol i ddatrys problemau modelu actiwaraidd go iawn. Caiff eich dysgu ei gefnogi gan academyddion ac ymarferwyr proffesiynol profiadol a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan sicrhau y byddwch yn elwa o sylfaen ddamcaniaethol gref a chraffter ymarferol o'r diwydiant.