Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer meddylwyr chwilfrydig a blaengar sy'n barod i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o sut mae sefydliadau'n gweithio, sut mae syniadau'n tyfu a sut mae newid yn digwydd yn lleol ac yn fyd-eang.
Mae ein BSc Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern) yn cyfuno ieithoedd modern â gradd busnes nodweddiadol, a fydd yn eich grymuso gyda'r sgiliau arbenigol sydd eu hangen i lwyddo mewn rheoli busnes yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Byddwch yn archwilio'r gwerthoedd sy'n diffinio busnes modern - cynaliadwyedd, cynwysoldeb, moeseg ac arloesi - ac yn darganfod sut gallwch chi wneud gwahaniaeth.
Mae’r BSc Rheoli Busnes (Ieithoedd Modern) yn cynnwys agweddau hanfodol ar fusnes a rheoli, yn ogystal â rhoi'r cyfle i chi feithrin cymhwysedd mewn iaith fodern. Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio gwahanol ieithoedd drwy sesiynau rhagflas. Bydd hyn yn rhoi profiad i chi o Fandarin, Ffrangeg, Eidaleg, Almaeneg a Sbaeneg cyn i chi ddewis un iaith i ganolbwyntio arni. Wrth i chi symud ymlaen, byddwch yn mynd ymlaen o fodiwlau iaith i ddechreuwyr i rai canolradd a byddwch yn darganfod sut i ddefnyddio'ch iaith dramor mewn amgylchedd proffesiynol.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BSc.